HEDDIW

 

Rywdro rhwng gwawr a machlud,

Rhwng deffro’r dydd a’r hwyr

Bydd ’na rywun rhywle’n arwr;

Ond pwy? Does neb a wyr.

 

Yn rhywle bydd ’na rywun,

Yn agos neu ymhell,

Yn agor pwll y galon

I swyno’r byd yn well.

 

Bydd ’na rywun yn helpu un arall

Nad yw’n gwybod lle i droi,

A’r un sydd wir yn derbyn

Yw’r un sy’n dysgu rhoi.

 

Bydd ’na fam yn rhywle’n magu

Un baban yn ei chôl,

Bydd ’na rywun wedi gwenu

Heb ddisgwyl gwên yn ôl.

 

Ac efallai bydd dieithryn

Yn dod i estyn llaw,

Neu rywun yn dod â’i gysgod

I’th gadw rhag y glaw.

 

Heddiw rhwng gwawr a machlud,

Rhwng deffro’r dydd a’r hwyr

Bydd ’na rywun rhywle’n arwr

Ond pwy? Does neb a wyr.

 

Ond efallai fod y ‘rhywle’

Yn ein gwlad fach ni,

Ac efallai’n wir mai’r ‘rhywun’

Heddiw fyddi di.

 

Tudur Dylan Jones

Bardd Plant Cymru 2004–2005