|
|
Plant Ar-Lein yn holi Elwyn Ioan
Enw: Elwyn Ioan.
Dyddiad Geni:
9 Mehefin 1947
Ble cawsoch chi eich geni ach magu?
Pen-bont Rhydybeddau, Ceredigion.
Ble cawsoch chi eich addysg?
Ysgol Gynradd Trefeurig; Ysgol Ramadeg Ardwyn,
Aberystwyth; cyfnod yng Ngholeg Celf Caerfyrddin.
Beth roeddech chin ei hoffi neun
ei gasáu am yr ysgol?
Hoffi Arlunio ac yn casáu Mathemateg
Beth oeddech chi eisiau bod ar ôl
tyfu fyny?
Gyrrwr car rasio neu gar rali.
Beth oedd eich hoff lyfr yn blentyn?
Llyfr Mawr y Plant.
Beth yw eich hoff ddiddordeb?
Cerdded mynyddoedd.
Beth syn eich gwneud chin
hapus?
Gorffen tasg anodd.
Beth syn eich gwylltio chi?
Ysmygwyr hunanol syn poeni dim am
wenwyno awyr pobl eraill.
Pryd dechreusoch chi feddwl am ysgrifennu?
Yn fy ugeiniau.
Pa un oedd eich llyfr cyntaf?
Cadwgan y Llygoden or Lleuad oedd
y llyfr cyntaf i mi ei ysgrifennu ai arlunio, ym 1980.
Ydych chin ei chael hin hawdd
i ysgrifennu?
Nid wyf yn ysgrifennu cymaint â hynny.
Darlunio llyfrau awduron eraill fydda i fwyaf.
O ble rydych chin cael eich syniadau?
Mae syniadaun dod (weithiau!) wrth
gerdded mynyddoedd.
Oes ganddoch chi gyngor i rywun syn
trio ysgrifennu?
Bwrw iddi!
Oes rhai och cymeriadau wedi eu
seilio arnoch chi?
Un, o bosib, ond nid wyf am ddweud pa un
...
Pa un yw eich hoff lyfr?
Un Nos Ola Leuad, Caradog Prichard.
Pa un yw eich hoff gymeriad?
Mursen y Gath (Cyfres Rwdlan).
Oes unrhyw beth yr hoffech chi ei newid
amdanoch eich hunan?
Hoffwn fod yn iau.
Pa raglenni teledu yw eich ffefrynnau?
Rhaglenni dogfennol a hanesyddol; rhaglenni pêl-droed a bocsio.
Beth yw eich hoff fwyd?
Bwyd môr (ar wahân i gregyn
gleision).
Beth syn gwneud i chi chwerthin?
Rhaglenni comedi S4C
ond am y rheswm
anghywir!
|