PRRR!
TWM
Nid fy mai i ydi o fy mod i'n llwglyd o hyd. Fel yna y ces i fy ngeni! Mi ydw i'n fawr ac yn dew ac mae fy mol i'n grwn a dwi'n hoffi teimlo'n llawn, braf. Yn hoffi blas cyw iâr a thwrci a grefi a thiwna. Yn hoffi llyfu Whiskas oddi ar fy wisgers!
Mi oeddwn i'n byw hefo Len a Brenda. Wel, dwi'n dweud 'byw', ond rhyw fath o aros oedd o, fel bod ar fy ngwyliau mewn gwesty crand ac yn anghofio mynd adra! Ac mi oedd o'n dŷ crand hefyd – O, oedd. Cat-fflap a phopeth! Yr unig gwmwl yn fy awyr fach las i oedd y ffaith bod yna gath arall yn byw yno hefyd.
Rŵan, peidiwch â fy nghamddeall i. Dwi'n un da am rannu, chwarae teg i mi, hyd at fy Tuna Crunchies olaf, ond nid dyna'r broblem, 'dach chi'n gweld. Siwgwr oedd yno gyntaf. Hi oedd yn byw hefo Len a Brenda cyn i mi gyrraedd. O ble dois i, ta? Dyna 'dach chi'n ei ofyn, te? Wel, stori arall ydi honno, ar gyfer y tro nesa. Y stori yma sy'n bwysig rŵan. Beth bynnag, Siwgwr oedd yno o fy mlaen i, a hi oedd y bòs. Mi oedd ganddi hi flew hir gwyn, oedd yn golygu fod Brenda'n gorfod ei brwsio hi bob dydd. Sôn am bampro! Ac mi oedd Siwgwr wrth ei bodd, yn canu grrrrrrrwndi fel petai ganddi ddril trydan yn sownd yn ei gwddw! Ac yn edrych i lawr ei thrwyn arna i yr un pryd. Gathod Bach! Does gennych chi ddim syniad! A dweud y gwir, mi oedd Siwgwr y gath wen yn fy atgoffa i o fy nain. Hen gath drahaus, biwis oedd honno a’i henw'n gweddu iddi i'r dim – Sheba. Ond o leiaf roedd ganddi enw go iawn. Dydi 'Siwgwr' ddim yn unrhyw fath o enw, nag ydi? Arthur, Trefor, Twm. Dyna ydi enwau go iawn.
Beth bynnag, er fod Len a Brenda'n glên iawn a'r fasged o flaen drws y cefn yn ddigon cysurus, diolch yn fawr, mi oeddwn i wedi bwriadu cadw fy llygaid ar agor am lety arall. Wedi'r cyfan, nid da lle gellir gwell! A wyddoch chi be? Cyn pen fawr o dro mi ddaeth teulu newydd i fyw drws nesa ond un. Wel, teulu, medda fi, ond dau oedden nhw – hogyn bach a'i fam. Peth bach annwyl oedd o hefyd, Rhun – wyneb crwn, braf a llygaid caredig. Ac roeddwn i wedi ei glywed o yn yr ardd yn fuan ar ôl iddyn nhw gyrraedd, yn swnian isio anifail anwes.
"Mam, beth am gael cath?"
Cath! Moelais fy nghlustiau. Roedd yr hogyn isio cath! Dyma fy nghyfle! Ond roedd yn rhaid i mi weld sut bobol oedden nhw'n gyntaf, yn doedd? Dim iws neidio o'r badell ffrïo i'r tân, nag oedd? Gwthiais fy ffordd drwy'r dail ac o dan y ffens a sefyll i'w gwylio o hirbell. Gwneud yn siŵr fod Rhun yn fy ngweld ac edrych arno hefo llygaid mawr. Cogio bod yn swil. Mae hynny'n gweithio bob tro!
"Mam!" gwaeddodd Rhun. "Ga i roi mwythau iddi?"
Mi fentrais yn nes a gadael iddo fo fy anwesu. Neis. Mi fedrwn ddod i arfer yn iawn hefo sylw fel hyn, meddyliais. Biti nad oedd o'n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng cath fanw a chath wryw hefyd. Cymerais ataf rhyw fymryn ei fod o'n cyfeirio ata i fel 'hi'! Ond maddeuais iddo'n syth ar ôl clywed ei eiriau nesa:
"Beth am roi bwyd i'r gath, Mam?"
Doedd Mam ddim mor siŵr. I ddechrau. "Mae hi'n perthyn i rywun, siŵr o fod."
Dyna fo eto. Yr 'hi' 'ma! Hogyn ydw i! Be sy'n bod arnoch chi? Ond wedyn dyma'r fam yn dweud:
"Dwi'n siŵr mai 'fo' ydi o. Cwrcyn. Mae o mor fawr. Nefi, am gath nobl . . . !"
Ocê, ocê. Pwyll, Mam! Neu mi fydd hi'n sôn am fynd â fi i Weightwatchers nesa!
"O, bechod. Dim ond dipyn bach o fwyd, Mam . . . "
"Ond hudo cath ydi peth felly."
Hudwch fi, hudwch fi! Diferyn o lefrith, gweddillion tun samon . . .
"Plîs, Mam?"
Ceisiais innau helpu'r achos drwy wneud sŵn-isio-bwyd, rhywbeth reit anodd oherwydd fy mod i newydd gael hanner tun o Felix gan Elwyn a Mona drws nesa. Maen nhw wedi gwirioni hefo fi ac yn prynu bwyd cath yn arbennig i mi. Chwarae teg iddyn nhw, te? Ond dwi'n gwybod na cha i ddim mynd atyn nhw i fyw go iawn oherwydd bod ganddyn nhw fwji yn y tŷ. Mae Mona ofn i mi ymosod ar hwnnw, mae'n debyg. Faswn i ddim, chwaith, cofiwch. Pa gath gall fasa isio reslo hefo hen fwji bach tenau pan oedd digonedd o fwy tun ar gael?
Ond wir, roedd tŷ Rhun a Sioned yn edrych yn addawol. Roedd gen i dipyn o waith perswadio Sioned eto. Rhwbiais yn erbyn ei choes a dechrau canu grwndi. Roedd hynny'n ddigon. Disgynnodd Sioned mewn cariad hefo fi o'r munud hwnnw!
A dyna sut y dois i yma. Fi ydi brenin Rhif 25 Coed Aur bellach. Mae gen i fasged braf yn y stafell fyw, ac nid wrth ddrws y cefn! Mi fydda i'n dal i alw hefo Elwyn a Mona ambell dro, ac yn picio i mewn weithiau at Len a Brenda, drwy'r cat-fflap fel arfer. Mae hynny'n tynnu blewyn (!) o drwyn Siwgwr y gath wen! Ond yma yn Rhif 25 mae fy lle i rŵan, yn edrych ar ôl Rhun a Sioned rhag ofn iddyn nhw gael pla o lygod . . . neu bysgod aur . . . !
PLWMSAN
Hen daith go anesmwyth gafodd Wynff a finnau yma yr holl ffordd o siop Petcare mewn bag plastig yn llawn o ddŵr. Roedd ein pennau ni'n troi ac roedden ni'n dau'n bron â chwydu!
"Paid â phoeni, 'rhen Wynff," medda fi, "mi gawn ni fynd i danc clyd, diogel ar ôl cyrraedd y tŷ, gei di weld. Mae'r hogyn bach 'ma i'w weld yn garedig ac yn ein hoffi ni. Mi fydd yn siŵr o edrych ar ein holau ni, sti."
Ddywedodd Wynff fawr o ddim ac roeddwn i'n poeni ei fod mor ddistaw. Beth bynnag, wedi i ni gyrraedd a chael ein gollwng i danc pysgod glân, newydd â cherrig bach lliwgar ar ei waelod o, mi ddechreuodd Wynff godi'i galon. Roedden ni'n dau wedi dod i adnabod wyneb Rhun ac roedden ni'n disgwyl yn eiddgar iddo ddod i godi caead y tanc bob dydd a'n bwydo ni. Roedden ni'n hapus. Ac yna gwelsom wyneb arall trwy waliau clir ein cartref. Wyneb llwyd, streipiog. Trwyn pinc a wisgers. Ac roedd y trwyn pinc yn pwyso yn erbyn y tanc!
Doeddwn i ddim yn rhy siŵr beth oedd yn digwydd ar y pryd. Beth oedd y cysgod tywyll dros ein cartref? Yna sylweddolais mai'r gath oedd yno! Nofiais yn sydyn i waelod y tanc a gweiddi ar Wynff i wneud yr un fath, ond roedd o fel pe bai o wedi cael ei hypnoteiddio gan lygaid mawr melyn y gath ofnadwy 'na, llygaid fel llygaid siarc! Ond roedd yr anifail yma'n waeth na siarc oherwydd does gan siarc ddim pawennau! Dechreuodd y gath bysgota amdanon ni! Roedd ei phawen yn crafangu ac yn creu tonnau yn y dŵr. Y munud hwnnw, clywsom ddrws yn clepian a diflannodd y gath yn sydyn. Ond nid cyn iddi roi ergyd i Wynff druan hefo'i phawen fawr . . .
TWM
Ffiw! Cael a chael i gyrraedd fy masged! Mae Sioned a Rhun yn siarad.
"Mam, mae 'na rywbeth wedi digwydd i Wynff! Mae o'n arnofio ar wyneb y dŵr!"
"Wel, wir, mae'n rhaid bod yr hen siop 'na wedi gwerthu pysgodyn sâl i ni. Gobeithio bydd y llall yn byw'n hirach. Newydd eu prynu nhw ydan ni!"
Cafodd Wynff ei gladdu yn yr ardd mewn hen focs plastars. Doedd Rhun ddim yn edrych mor drist â hynny, ac roedd Sioned yn flin hefo pobl y siop.
"Dim mwy o wastraffu arian ar bysgod aur, Rhun," meddai gan anwesu fy nghôt sidanaidd i. "I be mae isio hen bysgod, a ninnau hefo'r gath hyfryd 'ma rŵan? Does 'na ddim un anifail sy'n llai o drafferth na chath!"
Cytuno'n llwyrrr, Sioned. A rrrŵan dwi am fynd i gysgu am dipyn. Mi fydda i angen fy nerrrth i fynd i bysgota eto forrry . . . ! PRRR!
Hawlfraint Sonia Edwards 2005