Storïau a Cherddi 2005

Dyma'r storïau a'r gerdd newydd sbon sydd wedi cael eu hysgrifennu'n arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2005.  Cliciwch ar y teitlau er mwyn eu gweld. 
Mwynhewch y darllen!
Os hoffech wybod mwy am yr awduron isod, cliciwch ar eu lluniau i ddarllen
eu hanes.
Y Llyfr Ryseitiau
gan Nicholas Daniels.
Darluniau gan Dai Owen
Mae Gwiddan yn etifeddu llyfr ryseitiau ei mam-gu. Ond nid ryseitiau i wneud bara brith a chacennau bach sydd yn y llyfr hwn, ond ryseitiau hud! Mae Gwiddan yn arbrofi gydag un o’r ryseitiau gyda chanlyniadau dychrynllyd iawn . . .
Gellir darllen y storïau Saesneg trwy glicio ar luniau'r awduron isod..


Daniel Morden


Joan Peake


Jennifer Morgan


Francesca Kay
Jac y Do
gan Caryl Lewis
Nid aderyn yw’r Jac sy’n eistedd ar y to yn y stori hon, ac mae ar y Jac yma fwy na thipyn o ofn bod fwy na chan metr o’r llawr! A beth yw hyn am ysbryd . . .
Prrr!
gan Sonia Edwards
Un cyfrwys iawn yw Twm y gath pan fydd yn chwilio am gartre newydd! Mae angen lle cysurus, digon o fwyd a llond lle o fwythau. Ac os bydd cyfle i bysgota heb fynd allan o’r ty, gorau oll!
Heddiw
Cerdd gan Tudur Dylan Jones, Bardd Plant Cymru 2004–2005