Y LLYFR RYSEITIAU
‘Gwiddian! Gwiddian, lle wyt ti?’
Agorodd y drws a gwthiodd ei thad ei ffordd
i mewn i’w stafell wely.
‘Beth wyt ti moyn?’ gofynnodd hi’n swrth
wrtho.
‘Mae gen i rywbeth iti, sibrydodd ei thad
yn gyffrous, gan estyn pecyn bach brown iddi.
‘Beth yw e?’ holodd Gwiddian, gan feddwl
nad oedd y parsel yn edrych cweit mor ddiddorol ag yr oedd hi’n obeithio.
‘Wel agora fe!’ anogodd ei thad.
Dadlapiodd hi’r pecyn bach brown yn araf.
Roedd ei brwdfrydedd wedi tawelu rhywfaint. Gwyliai ei thad hi â llygaid mawr
awyddus; roedd e’n amlwg yn meddwl fod hwn yn ddigwyddiad mawr. Er, wedi dweud hynny,
roedd Gwiddan yn cofio’r tro hwnnw pan enillodd ei thad ddeg punt ar y loteri –
roedd e mor hapus â’r gôg! Pethau bach oedd yn gwneud Dad yn hapus weithiau.
Tynnodd Gwiddan y darn papur olaf oddi ar y
gwrthrych.
‘Wel?’ ebychodd ei thad.
Hen lyfr oedd e. Darllenodd hi’r teitl ar
y clawr. ‘Llyfr Ryseitiau Mam-gu.’
‘Dere di cariad,’ cysurodd ei thad hi.
‘Paid â chrïo!’
‘Dydy Mam-gu ddim yn dod yn ôl, ydy hi?’
mwmiodd hi rhwng beichio crïo.
‘Nac ydy, cariad. Ond fe fyddai hi’n drist
iawn pe bai hi’n dy weld ti’n crïo fel hyn. Roedd hi am i ti gael y llyfr yma i
gofio amdani hi. Fe gafodd hi’r llyfr gan ei mam hi, ac fe gafodd ei mam hi’r
llyfr gan ei mam hithau . . . a nawr ti sy’n ei gael e.’
Tawelodd Gwiddan ychydig, a gofyn, ‘pam mai fi sy’n ei gael e . . . ac
nid ti? Mae dynion yn gallu coginio hefyd, ond ydyn nhw?’ meddai hi, braidd yn
grac.
‘Nid llyfr ryseitiau arferol yw hwn,
Gwiddan fach!’ atebodd ei thad wrth godi a mynd am y drws. ‘Ond fe ddoi di i
ddeall hynny . . . cyn bo hir.’
Edrychodd Gwiddan ar glawr y llyfr; roedd
e’n hen, hen lyfr. Roedd llythrennau’r teitl yn anodd iawn i’w darllen mewn
mannau, a’r clawr ei hun wedi ei wneud o ddeunydd rhyfedd iawn – lledr,
efallai. Agorodd hi’r clawr. Tu mewn, roedd tudalennau ar dudalennau o
lawysgrifen wahanol. Ar y dudalen olaf gwelodd ei henw hi ei hun.
I Gwiddan,
Dy lyfr di yw hwn
nawr,
Defnyddia’r llyfr yn ddoeth!
Cariad, Mam-gu.
Ailadroddodd iddi
ei hun, ‘defnyddia’r llyfr yn ddoeth?’ Gwgodd cyn ychwanegu, ‘faint o niwed
fedra i wneud gyda rysáit bara brith?’
Bodiodd Gwiddan trwy’r llyfr yn gyflym. Am
ryw reswm roedd hi wedi ei chynhyrfu ganddo. Roedd ond cyffwrdd â’r llyfr yn
rhoi gwefr iddi, yn gwneud i’w dwylo gosi. Wrth iddi ei astudio’n fwy gofalus,
sylwodd yn fuan nad llyfr ryseitiau coginio oedd hwn, a dechreuodd sylweddoli
mai llyfr swynion oedd e!
Ar bob tudalen roedd teitl rysáit gwahanol,
megis ‘Sut i fod yn anweladwy’, ‘Sut i dacluso ystafell flêr mewn chwinciad
chwannen’, ‘Sut i wneud gwaith cartref mewn eiliad’ a hyd yn oed rysáit ‘tawelu
pobl ddiflas’!
‘Handi iawn!’ mwmiodd Gwiddan.
Wrth iddi fodio trwy’r llyfr yn gyffrous,
daeth hi o hyd i dudalen arbennig.
‘Swyn yr angel,’ darllenodd hi. ‘Mae hwn yn swnio’n ddiddorol!’ Crwydrodd ei bys i lawr y dudalen nes cyrraedd y cyfarwyddiadau. Aeth yn ei blaen.
‘Fe fydd angen:
Lle agored
Hen ddilledyn ar ran
uchaf eich corff
Dail llysiau’r angel (o leiaf dwy ddeilen)
Goleuni’r lleuad.’
‘Dim problem!’ dywedodd hi’n gadarn.
Gwyddai Gwiddan fod ganddynt lysiau’r angel
yn tyfu’n yr ardd. Roedd ei Mam-gu’n arfer eu defnyddio pan oedd hi’n gwneud
cacen ben‑blwydd neu gacen briodas – neu dyna oedd hi’n ei ddweud, o
leiaf!
Gwisgodd Gwiddan hen grys-T amdani, cydio
yn y llyfr swynion a rhedeg i ardd berlysiau ei Mam-gu yng ngwaelod yr ardd.
Roedd y perlysiau i gyd wedi’u labelu â ffyn bach pren lolipop. Edrychodd
Gwiddan ar bob un yn ofalus.
‘Mandragora . . . llysiau Iago . . .
codwarth . . . danadl . . . mwsg . . . rhosmari . . .’
Yn y rhestr roedd rhif y gwlith o blanhigion
bach rhyfedd. Doedd y rhan fwyaf ddim yn swnio fel perlysiau coginio i Gwiddan.
Roedd rhai ohonyn nhw’n wenwynig – roedd ei Mam-gu wedi dysgu hynny iddi!
Crwydrodd ei llygaid ar hyd y rhengau o ffyn lolipop.
‘Llysiau’r angel!’ ebychodd hi o’r diwedd.
Plyciodd ddwy ddeilen yn ofalus ac agor y
llyfr ryseitiau. Roedd pelydrau’r haul wedi dechrau gwanhau, ond roedd digon o olau
o hyd iddi allu darllen gweddill y rysáit.
‘Gwisgwch yr hen ddilledyn, yna arhoswch
nes bod yr haul wedi machlud a’r lleuad wedi ymddangos. Bwytewch UN o’r dail
llysiau’r angel ac adroddwch y geiriau hyn ddwywaith – ‘Adain Aden Asgell!’’
Roedd ganddi hen grys amdani, roedd y dail
yn ei llaw a nawr doedd ond angen i’r haul fachlud yn gyfan gwbl er mwyn i’r
lleuad ymddangos yn glir.
Eisteddodd Gwiddan yn dawel ar y lawnt.
Roedd y llyfr ryseitiau ar agor o’i blaen hi. Yn ei llaw roedd y ddeilen hudol.
Gwyliodd hi’r haul yn disgyn yn is ac yn is nes iddo suddo’n belen goch heibio
i’r gorwel. Yn y man, ymddangosodd y lleuad yn yr awyr ddu fel wyneb mawr gwyn
yn pipio trwy lenni duon.
‘Nawr amdani…’ sibrydodd yn ofnus gan roi’r
ddeilen yn ei cheg a dechrau cnoi. ‘Adain Aden Asgell, Adain Aden Asgell!’
meddai hi’n glir, cyn llyncu’r ddeilen.
Eisteddai Gwiddan yn y tywyllwch; doedd hi
ddim yn siðr iawn beth i’w ddisgwyl.
Doedd hi ddim wir yn siðr beth oedd pwrpas y swyn nac, yn wir, os taw
swyn oedd e o gwbl! Beth bynnag meddyliodd, doedd o’n ddim fyddai wedi ei
pharatoi hi ar gyfer yr hyn ddigwyddodd.
Teimlodd hi ias ryfedd yn codi ac yn disgyn
hyd asgwrn ei chefn. Dechreuodd esgyrn ei breichiau, lle roedden nhw’n ymuno
â’i hysgwyddau, wingo ychydig, ac yna fe deimlodd hi bwysau mawr yn gorffwys ar
ei chefn. Rhewodd ei gwaed . . . roedd gormod o ofn arni i symud o gwbl . . .
roedd rhywbeth rhyfedd yn digwydd iddi! Teimlai ei chrys yn tynnu, fel petai
rhywun wedi cydio yn y goler ac yn tynnu arni. Clywodd hi’r defnydd yn rhwygo a
theimlodd chwa o wynt uwch ei phen, fel petai rhywun yn siglo lliain mawr yn yr
awyr. Yna, aeth popeth yn dawel.
Roedd ei breichiau hi’n hollol lonydd, ond
teimlai Gwiddan fod esgyrn ei hysgwyddau’n symud, fel petai hi’n chwifio ar
rywun! Wrth iddi hi edrych o’r naill ochr i’r llall i astudio ei hesgyrn
rhyfedd, synhwyrodd fod rhywbeth yn symud uwch ei phen. Yn betrusgar, cododd ei
phen i geisio gweld beth oedd yno, a gwelodd bâr enfawr o adenydd gwyn yn
cyhwfan uwch ei phen. Yn sydyn, sylweddolodd Gwiddan taw ei hadenydd hi oedden
nhw!
Crynai ei chorff ag ofn, ac wrth iddi
deimlo ei bod ar fin llewygu, clywodd lais tyner ar yr awel.
‘Defnyddia’r llyfr yn ddoeth!’ meddai’r llais o bell.
Heb feddwl, gwyddai Gwiddan
beth oedd yn rhaid iddi ei wneud. Cydiodd yn ail ddeilen llysiau’r angel a’i
rhoi yn ei cheg mor gyflym ag y gallai. Crensiodd y ddeilen rhwng ei dannedd
cyn ei llyncu. Yn y man, mor sydyn ag yr ymddangoson nhw, diflannodd yr adenydd
eto.
A’i hwyneb mor wyn â’r lleuad, cydiodd
Gwiddan yn y llyfr ryseitiau a rhedeg yn ôl i’r t.
‘Beth yn y byd ddigwyddodd i dy grys-T
di?!’ ebychodd ei thad wrth iddi faglu trwy’r gegin.
‘O! Ym, ym . . . ’ Brwydrodd Gwiddan i geisio
meddwl am esgus neu esboniad. ‘Rhaid fy mod wedi ei rwygo ar y mieri ar waelod
yr ardd!’
‘Dw i wedi dweud digon wrthot ti am gadw
draw o waelod yr ardd – mae hi fel jwngl lawr ‘na!’ gwaeddodd ei thad arni, ond
doedd Gwiddan ddim am aros i ddadlau. Rhedodd â’i gwynt yn ei dwrn yn ôl i
ddiogelwch ei hystafell wely.
Hawlfraint Nicholas Daniels 2005