Enw: Caryl Lewis
Dyddiad Geni: 7 Gorffennaf 1978
Ble cawsoch chi eich geni a’ch magu?
Cefais fy magu yn Aberaeron yng nghanol y gwymon a’r gwylanod a’r sglodion a phobl ar eu gwyliau. Symudais pan o’n i’n 12 oed yn ôl i’r fferm deuluol yn Nihewyd.
Ble cawsoch chi eich addysg?
Ysgol Feithrin, Ysgol Gynradd ac Ysgol Gyfun Aberaeron; Prifysgol Durham a Choleg Prifysgol Aberystwyth.
Beth roeddech chi’n ei hoffi neu’n ei gasáu am yr ysgol?
Roeddwn wrth fy modd gydag arlunio a chanu, ond yn casáu nofio ac yn ceisio darganfod ffordd i’w osgoi drwy’r amser (esgus torri ’nghoes; alergedd i glorîn; mynnu bod y dŵr yn ceisio fy lladd).
Beth oeddech chi eisiau bod ar ôl tyfu fyny?
Milfeddyg: pan o’n i yn yr ysgol, bues i ar brofiad gwaith gyda milfeddyg lleol ac ro’n i wrth fy modd. Ro’n i hefyd yn casglu penbyliaid/adar/draenogod – unrhyw beth oedd yn symud – ac yn eu cadw dan y gwely . . .
Beth oedd eich hoff lyfr yn blentyn?
Wwww, gormod i’w henwi – unrhyw lyfr Cymraeg, dim ots beth.Yn Saesneg, holl lyfrau plant Catherine Cookson, ac unrhyw chwedlau am ysbrydion a mytholeg gwlad Groeg.
Beth yw eich prif ddiddordebau?
Arlunio gan ddefnyddio paent acrylic; rhedeg a chadw’n ffit; tynnu rhaff; canu; bwyta Maltesers yn y bàth, a darllen barddoniaeth.
Beth sy’n eich gwneud chi’n hapus?
Cwmni fy nheulu a ffrindiau dwl; fy ast fach Dela; penwythnos gyfan a dim byd i’w wneud, a gweld gwas y neidr.
Beth sy’n eich gwylltio chi?
.Pobl negyddol sy’n lladd ar eraill, snobyddiaeth o unrhyw fath, bobl sy’n anghwrtais wrth bobl hŷn, a phobl sy’n gweiddi pethau dwl at bobl sydd allan yn rhedeg. (Ydyn nhw’n meddwl eu bod nhw’n glyfar?! Dwi’n mynd i ddechrau cario wyau o gwmpas pan fydda i allan yn rhedeg, a’u waldio at unrhyw un sy’n gweiddi rhywbeth dwl!)
Pryd ddechreusoch chi feddwl am ysgrifennu?
Rydw i wastad wedi bod yn hoff o sgwennu, ond dim ond yn lled ddiweddar yr es ati o ddifri.
Pa un oedd eich llyfr cyntaf?
Dal Hi!
Ydych chi’n ei chael hi’n hawdd i ysgrifennu?
Dydw i ddim yn un o’r rheiny sy’n cadw dyddiadur/llyfr nodiadau gyda nhw drwy’r amser. Dwi’n rhy anhrefnus. Dwi’n meddwl am sgwennu bron mwy na’r weithred o sgwennu ei hunan. Bydda i’n meddwl am blot nofel neu stori drwy’r amser, wrth redeg neu wrth siopa. Wedyn bydda i’n mynd i rywle tawel ac arllwys y cyfan ar bapur
O ble rydych chi’n cael eich syniadau?
Wrth wrando ar bobl yn siarad – mae gan bawb stori i’w dweud. Hefyd, trwy hap a damwain, cefais ddefnydd un stori wrth i rywun yn fy nghornelu mewn archfarchnad ac arllwys ei holl hanes i mi. Efallai bod gen i un o’r wynebau hynny!
Oes ganddoch chi gyngor i rywun sy’n trio ysgrifennu?
Peidiwch â gwrando ar unrhyw un sy’n negyddol am eich gwaith. Amgylchynwch eich hun â phobl bositif (a boncyrs, yn ddelfrydol!) ac ewch amdani. Jest eisteddwch lawr a sgwennwch rywbeth NAWR! Hyd yn oed os yw e’n ofnadwy, ma fe’n bwynt cychwyn. (mae bocs o Maltesers yn help hefyd!).
Oes rhai o’ch cymeriadau wedi eu seilio arnoch chi?
Mae’n siŵr bod elfennau ohono i ym mhob cymeriad, bron, ond dwi’n ceisio cuddio, a gweud y gwir.
Pa un o’ch llyfrau chi yw eich ffefryn?
Dal hi!, rwy’n credu, am mai hwnna ddaeth yn gyntaf, ac mae’r cymeriadau i gyd yn agos iawn at fy nghalon i.
Pa un yw eich hoff gymeriad?
Les, cymeriad yr hyfforddwr yn Dal Hi! A mam-gu yn IWN BOI?. Les oherwydd ei fod yn dweud y gwir bob tro yn hollol ddiflewyn-ar-dafod – rhywbeth sy’n anodd iawn ei wneud mewn bywyd go iawn. Mam-gu oherwydd fy mod yn meddwl bod y berthynas rhwng pobl ifainc a phobl hŷn yn bwysig iawn a does dim digon o sylw’n cael ei roi i’r berthynas honno.
Oes unrhyw beth yr hoffech chi ei newid amdanoch eich hunan?
Ymmm, wel oes, digon o bethau! Rwy methu’n lân â chadw’r tŷ yn daclus. Ma’n stafell i fel nyth brân, a mwy o bapurach yn fy nghar i nag yn y dymp leol. Byddai’n dda gen i fod yn un o’r bobl naturiol daclus hynny. Mae tacluso’n boring go iawn. Ych!
Pa raglenni teledu yw eich ffefrynnau?
Unrhyw ddrama gyfnod, MTV ac A Touch of Frost.
Beth yw eich hoff fwyd?
Wwwww – Scotch eggs mam-gu Plwy, pys slwtsh mam-gu Plas, a phwdin reis Mam! (Ddim i gyd gyda’i gilydd!)
Beth sy’n gwneud i chi chwerthin?
Stompiau barddonol, fy ffrindiau, a Del Boy Trotter.