HOLIADUR
AWDUR
Enw:
Dyddiad Geni:
Ble cawsoch chi eich geni
a’ch magu?
Cefais fy ngeni yng
Nghaerfyrddin, ac wedi treulio dwy flynedd yn byw yn y Tymbl, symud wedyn i
Fangor.
Ble cawsoch chi eich addysg?
Ym Mangor – Ysgol Gynradd
Gymraeg Sant Paul ac Ysgol y Garnedd, Ysgol Uwchradd Tryfan, a Phrifysgol
Cymru, Bangor.
Beth roeddech chi’n ei hoffi
neu’n ei gasáu am yr ysgol?
Y pwnc roeddwn i’n ei hoffi
fwyaf yn yr ysgol oedd Gwaith Coed! Roedd hi’n braf cael mynd i wers lle nad
oedd angen sgwennu dim byd, ac roeddwn i wrth fy modd yn ceisio mynd ati i
wneud pethau efo fy nwylo.
Beth oeddech chi eisiau bod
ar ôl tyfu i fyny?
Saer coed neu yrrwr lorri!
Beth oedd eich hoff lyfr pan
yn blentyn?
Trysorau Hafod Aur
Beth yw eich hoff
ddiddordebau?
Edrych ar y sêr. Mae yna
gymaint i’w ddysgu wrth edrych i fyny ar noson glir. Mae’r olygfa’n rhyfeddol!
Beth sy’n eich gwneud chi’n
hapus?
Teithio ar hyd a lled Cymru,
a chael dod i wybod mwy am straeon gwahanol ardaloedd.
Beth sy’n eich gwylltio chi?
Pobol sydd heb unrhyw
ddiddordeb yn y straeon hyn!
Pryd ddechreusoch chi feddwl
am ysgrifennu?
Yn yr ysgol gynradd. Dwi’n
cofio dysgu penillion pan yn blentyn, a cheisio mynd ati i gopïo’r patrymau
odli.
Pa un oedd eich llyfr cyntaf?
Dim ond un llyfr dwi wedi’i
sgwennu erioed! Cyfrol o farddoniaeth o’r enw Adenydd.
Ydych chi’n ei chael hi’n
hawdd i ysgrifennu?
Y gwaith meddwl ydy’r gwaith
sy’n cymryd y mwyaf o amser. Mae cael y syniad i ddechrau unrhyw gerdd yn
rhywbeth sy’n gallu cymryd amser hir, ond unwaith y mae’r syniad wedi dod,
mae’r sgwennu ei hun yn dod yn haws wedyn.
O ble rydych chi’n cael eich
syniadau?
O fywyd bob dydd. Mae rhai
pethau mae pobol yn ei ddweud yn aml yn taro ar syniad yn fy mhen. Weithiau,
bydda i’n clywed dim ond gair, ac mae hynny’n gwneud i’r meddwl ddechrau troi.
Oes ganddoch chi gyngor i
rywun sy’n trio ysgrifennu?
Sgwennwch am y pethau rydych chi’n gyfarwydd â nhw. Sgwennwch am y
pethau bach rydych chi’n eu gweld bob dydd, ac am eich profiadau chi. Rhowch
eich calon yn y gwaith.
Oes unrhyw beth yr hoffech
chi ei newid amdanoch eich hunan?
Hoffwn i fod yn gallu siarad
Sbaeneg yn rhugl. Dwi wrth fy modd efo sŵn yr iaith honno.
Pa raglenni teledu yw eich ffefrynnau?
Rhaglenni newyddion. Alla i
ddim mynd un diwrnod heb glywed y newyddion.
Beth yw eich hoff fwyd?
Bwyd Indiaidd.
Beth yw eich hoff gân?
‘Llongau C’narfon’ gan Glyn
Davies.
Beth yw eich hoff ffilm?
Dwi byth yn gwylio ffilmiau!
Beth yw eich hoff atgof?
Y tro cyntaf i mi gerdded i
gopa’r Wyddfa, yn bump oed.
Beth yw eich hoff le yn y
byd?
Unrhyw le lle mae ’na fôr yn
agos.
Oes gyda chi un peth rydych
yn ei drysori'n fwy na dim arall?
Fy nhelesgôp!
Unrhyw gyfrinachau eraill yr
hoffech eu rhannu â phlant Cymru?
Na, maen nhw’n gyfrinachau!