National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
 
 
NOFEL Y MIS

Dyma'r teitlau a ddewiswyd yn nofelau'r mis eleni hyd yma. I gael rhagor o fanylion am y llyfrau unigol, ac i archebu ar-lein, cliciwch ar fotwm gwales.com.

__

MEHEFIN 2009

DYFI JYNCSHIYN – Y DDYNES YN YR HAUL

Gareth F. Williams
(Gwynedd)
£8.95
ISBN 9780860742555 (0860742555)
Nofel afaelgar gan awdur toreithiog. Dyma ddilyniant i Dyfi Jyncshiyn – y dyn blin a gyhoeddwyd yn 2007 ac a gafodd dderbyniad rhagorol gan ddarllenwyr Cymraeg.
Brodor o Borthmadog yw Gareth F. Williams ac mae'n awdur amser llawn ers dros ugain mlynedd. Dyfi Jyncshiyn – y dyn blin oedd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, ond mae eisoes wedi ennill gwobr Tir na n-Og dair gwaith am ei lyfrau ar gyfer pobol ifanc, Dirgelwch Loch Ness a'i ddwy nofel, O Ddawns i Ddawns ac Adref heb Elin. Mae hefyd wedi ysgrifennu llawer iawn ar gyfer y llwyfan a'r sgrin, gan gynnwys y ddrama 'Siôn a Siân' ac, yn ddiweddar, addasiad llwyfan o Lyfr Mawr y Plant.

Dyfi Jyncshiyn – y ddynes yn yr haul

MAI 2009

DALA'R LLANW

Jon Gower
(Gomer)
£7.99
ISBN 9781848510661 (1848510667)
Dyma ffuglen fyrlymus wedi'i lleoli yn Buenos Aires, Oakland, Califfornia a Chaerdydd. Mae'r dinasoedd hyn yn llawn dop o straeon, ac o dipyn i beth, drwy'r bwrlwm cawn ein tywys ar daith ryfedd ar draws y byd i fydoedd dieithr, cyfarwydd a chyffrous.
Mae Jon Gower wedi gweithio ar y cyfryngau ers chwarter canrif gan gynnwys cyfnod fel gohebydd celfyddydau a'r cyfryngau i BBC Cymru. Mae wedi cyhoeddi naw llyfr gan gynnwys An Island Called Smith, enillydd gwobr John Morgan. Hon yw ei nofel gyntaf yn y Gymraeg a derbyniodd ganmoliaeth uchel gan dri beirniad cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith, 2008. Yn ôl un o'r beirniaid ‘Hwn oedd y gwaith a roddodd y wefr fwyaf i mi. Yn y gyfrol hon y mae ffresni a beiddgarwch dychymyg anhygoel.'

Dala'r Llanw

EBRILL 2009

CYFRES WHAP!: MAE'N ANODD WEITHIAU

Ioan Kidd
(Gomer)
£5.99
ISBN 9781848510654 (1848510659)
Nofel am berthynas pobl â'i gilydd ac am ymdrechion cynnal perthynas. Mae Ems wedi cyfaddef wrth ei gyfaill, Angharad, ei fod yn hoyw a thrwy ei llygaid hi cawn wybod mwy am fywyd ysgol a bywyd teuluol y cymeriadau.
Dyma nofel ddiweddaraf Ioan Kidd. Mae'n gyn-olygydd y rhaglen newyddion i blant, Ffeil ar S4C. Yn ddiweddar, bu iddo addasu'r nofel boblogaidd Holes gan Louis Sachar, a ddyfarnwyd yn un o'r goreuon yn y BBC Big Read Top 100.

Mae'n Anodd Weithiau

MAWRTH 2009

Y LLWYBR

Geraint Evans
(Y Lolfa)
£7.95
ISBN 9781847711236 (1847711235)
Nofel dditectif gyffrous i oedolion wedi'i lleoli yn Aberystwyth gan awdur newydd. Ar ôl noson o yfed trwm yn nawns Gŵyl Ddewi yn Undeb y Myfyrwyr, mae myfyrwraig ddeniadol yn cael ei llofruddio ar y ffordd yn ôl i Neuadd Glanymôr. O bennod i bennod, daw bywyd cymhleth y fyfyrwraig i'r golwg – yn cynnwys ei pherthynas amwys gyda myfyrwyr eraill a hanes tywyll ei theulu . . .
Bu Geraint Evans yn warden am gyfnod yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth ac mae'n byw yn Nhal-y-bont, Ceredigion

Y Llwybr

CHWEFROR 2009

Y MAISON DU SOLEIL

Mared Lewis
(Gwasg Gwynedd)
£7.95
ISBN 9780860742494 (0860742490)
Dyma nofel boblogaidd, afaelgar am ffrindiau a chariadon, am rywioldeb, twyll a chyfrinachau. Fe'i lleolir yn bennaf ym mherfeddion Ffrainc, a hynny yn anterth un haf poeth pan mae'r gwres yn llethol, ond y storm a'r taranau byth yn bell iawn. Mae Esyllt wedi marw, ond mae hi'n dal yno, yn dal i chwarae un cymeriad yn erbyn y llall . . .

Y Maison du Soleil

IONAWR 2009

DERYN GLÂN I GANU

Sonia Edwards
(Y Lolfa)
£5.95
ISBN 9781847711052 (1847711057)
Dyma'r ail nofel yng Nghyfres y Dderwen gan Sonia Edwards, awdures boblogaidd sydd wedi cyhoeddi'n helaeth ar gyfer plant ac oedolion. Ceir yma gyfres o ymsonau, a phob un cymeriad yn ymateb i brif ddigwyddiadau'r nofel. Mae nifer o'r cymeriadau'n gweithio mewn ysgol uwchradd a gwelwn sut y mae eu bywydau preifat yn cael eu clymu at'i gilydd gan gyrraedd diweddglo dirdynnol.

Deryn Glân i Ganu

Nofelau 2000

Nofelau 2001

Nofelau 2002

Nofelau 2003

Nofelau 2004

Nofelau 2005

Nofelau 2006

Nofelau 2007

Nofelau 2008
__

  {(}
{)}