AMCANION 

Hybu diddordeb mewn llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o Gymru ynghyd â deunydd cyffelyb arall.

Hybu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ei holl agweddau a chyd-gysylltu buddiannau awduron, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd.

Cynorthwyo a chefnogi awduron.
 
 

GYDA'N GILYDD

CYHOEDDI YN Y GYMRAEG GYDA CHYMORTH Y GRANT CYHOEDDI: 
STRATEGAETH-BUM-MLYNEDD

Cliciwch yma i ddarllen y ddogfen


 

FFEITHIAU A FFIGURAU 1999/2000

Gwerthwyd 717,522 o eitemau ym 1999/2000 trwy Ganolfan Ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau, gwerth £3,888,190 (gros). Dosberthir y cynnyrch i dros 800 o leoedd ar ran 350 o gyhoeddwyr.

Trafododd Adran Olygyddol y Cyngor Llyfrau 184 o lawysgrifau yn ystod y flwyddyn gan 15 o gyhoeddwyr.

Rhoes yr Adran Ddylunio wasanaeth i 124 o deitlau gan 16 o gyhoeddwyr.

Gyda Grant Cyhoeddi o £623,704 ar gyfer cyhoeddi llyfrau a chylchgronau Cymraeg, rhoddwyd grantiau cyhoeddi i 212 o lyfrau ac 11 o gylchgronau.

Fe wnaeth y Cynllun Ysgolion ymweld â 1,110 ysgol gan gasglu archebion gwerth £414,134.

Fe wnaeth 19,000 o brynwyr brynu dros 28,000 o deitlau trwy'r Clybiau Llyfrau  Sbri-Di-Ri a Sbondonics.

Trefnodd llyfrwerthwyr 345 o achlysuron dan adain y Cynllun Ymestyn gan werthu gwerth £150,315 o lyfrau.

Sicrhawyd cefnogaeth 20 allan o 22 o’r awdurdodau lleol i waith y Cyngor.

Y mae 412 yn aelodau o  Gyfeillion y Cyngor Llyfrau.

Y mae Canolfan y Llyfr Aberystwyth yn bartneriaeth rhwng Cyngor Llyfrau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth (trwy’r Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth), i hyrwyddo achos y llyfr. Cyhoeddir cylchgrawn blynyddol, Y Llyfr yng Nghymru, gan y Ganolfan.

Cadeirydd: Dr J.Lionel Madden
Cyfarwyddwr :Gwerfyl Pierce Jones

TUDALEN GYNNWYS