Mae’r Adran Olygyddol yn gwasanaethu cyhoeddwyr
trwy gynnig gwasanaeth cloriannu teipysgrifau ynghyd â gwasanaeth
golygyddol cyflawn, sef golygu teipysgrifau a chywiro proflenni. Bydd yr
Adran yn delio â thua 200 o lawysgrifau mewn blwyddyn ar ran rhyw
20 o gyhoeddwyr gyda chymorth tîm o olygyddion allanol.
Y mae’r Adran Olygyddol hefyd yn gweithredu cynlluniau
comisiynu mewn cydweithrediad â Phanel Adnabod Anghenion y Cyngor
Llyfrau.
Mae awduron yn medru troi at Adran Olygyddol y Cyngor
Llyfrau am gyngor ynglþn â chyhoeddi. Os oes gennych lawysgrif
neu ddarn o waith ac yn dymuno derbyn barn annibynnol anfonwch at:
Dewi Morris Jones,
Pennaeth Golygyddol,
Cyngor Llyfrau Cymru,
Castell Brychan,
Aberystwyth,
Ceredigion SY23 2JB
(Tel: 01970 624151)
(Ffacs: 01970 625385)
(e-bost castellbrychan@cllc.org.uk)
TUDALEN GYNNWYS