|
|
![]() Y CYNLLUN YMESTYN Beth yw’r Cynllun Ymestyn? Cynllun sy’n helpu llyfrwerthwyr a rhai sy’n trefnu gweithgareddau i gydweithio â’i gilydd er mwyn cynnal stondinau llyfrau mewn digwyddiadau bach a mawr ledled Cymru. Cefnogir y Cynllun Ymestyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.Pwy sy’n elwa o’r Cynllun? Mae’r Cynllun o fudd i drefnwyr, llyfrwerthwyr a chyhoeddwyr fel ei gilydd. Gall stondin lyfrau ychwanegu haen arall at ddigwyddiad heb greu fawr ddim gwaith ychwanegol i drefnwyr prysur.Sut mae’r Cynllun yn gweithio? Mae’r Cynllun yn syml. Os yw trefnydd am gynnwys stondin lyfrau mewn digwyddiad, dylai gysylltu’n uniongyrchol â’r siop lyfrau leol (neu siop lyfrau arall o’i ddewis) i drafod y syniad. Bydd y siop lyfrau wedyn yn cysylltu â’r Cyngor Llyfrau i gofrestru’r digwyddiad ac i wneud y trefniadau. Dylai trefnydd sydd heb gysylltiad ag unrhyw siop arbennig gysylltu â Swyddog Gweinyddol y Cynllun Ymestyn yn y lle cyntaf.Pa fath o ddigwyddiadau sy’n gymwys? Pob math – o wyliau diwylliannol i gynadleddau, o lansiadau i nosweithiau cymdeithasol a ffeiriau ysgol… MAE’R CYNLLUN BELLACH YN CEFNOGI 400 O DDIGWYDDIADAU BOB BLWYDDYN, pob un ohonynt yn unigryw.Pa lyfrau sy’n cael eu hybu? Natur y digwyddiad sy’n penderfynu pa fath o deitlau sydd ar werth, a gellir cynnig amrywiaeth eang o lyfrau Cymraeg ac o lyfrau Saesneg o ddiddordeb Cymreig. Mae Gweinyddwr y Cynllun bob amser yn barod i drafod teitlau addas, ac i roi pob cymorth i drefnydd y digwyddiad ac i’r llyfrwerthwr i greu stondin dda.Y cam nesaf? Os ydych yn drefnydd sydd am gynnwys stondin lyfrau mewn digwyddiad, neu’n llyfrwerthwr sydd am fynd â stondin i ddigwyddiad lleol neu genedlaethol, cysylltwch â: |