HYBU LLYFRAU PLANT

Mae’r Adran Llyfrau Plant yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau i hybu llyfrau plant gan gynnwys:

Sbri-di-ri. Dyma’r Clwb i blant 3-7 oed a drefnir trwy’r ysgolion a’r Ysgolion Meithrin. Cynigir rhyw 18 o deitlau bob tymor mewn taflen liwgar ddeniadol. Ceir cystadleuaeth ym mhob taflen.

Sbondonics. Y Clwb sy’n rhoi cyfle i blant 7-11 oed brynu’r llyfrau diweddaraf, llawer ohonynt am bris gostyngol, ac i gymryd rhan mewn cystadleuaeth bob tymor. Dosberthir y taflenni trwy ysgolion.

Cynhadledd Flynyddol. Trefnir Cynhadledd Llyfrau Plant bob blwyddyn er mwyn trafod pynciau o bwys i awduron, cyhoeddwyr, addysgwyr a llyfrgellwyr.

Gwobrau Tir na n-Og. Cyflwynir 3 gwobr flynyddol am

y ffuglen orau i blant yn Gymraeg,

y llyfr Cymraeg gorau ac eithrio ffuglen,

y llyfr Saesneg gorau gyda chefndir dilys Cymreig.

Tlws Mary Vaughan Jones. Cyflwynir y wobr bob tair blynedd i berson am gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd.

Cynllun Ysgolion. Bydd swyddogion y Cynllun Ysgolion yn ymweld ag ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Anfonir pecyn gwybodaeth bob tymor i bob ysgol yng Nghymru.

Ystafell Arddangos. Cedwir copi o bob llyfr Cymraeg i blant a phob llyfr Saesneg i blant o ddiddordeb Cymreig, a gyhoeddwyd yn ystod y degawd diwethaf. Gellir ymweld â’r Arddangosfa trwy gysylltu ymlaen llaw â Phennaeth yr Adran.

Catalogau. Cyhoeddir catalogau o lyfrau ac adnoddau ysgol. Cyhoeddir catalog Cymraeg yn flynyddol a chatalog o lyfrau Saesneg o ddiddordeb Cymreig bob dwy flynedd.

Am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau uchod cysyllter â:

Menna Lloyd Williams,

Pennaeth yr Adran Llyfrau Plant,

Cyngor Llyfrau Cymru,

Castell Brychan,

Aberystwyth,

Ceredigion SY23 2JB

(Tel: 01970 624151)

(Ffacs: 01970 625385)

(e-bost cllc.plant@cllc.org.uk)

TUDALEN GYNNWYS