Y Cynllun Ysgolion

Beth yw’r Cynllun Ysgolion?

Cynllun sy’n rhoi gwybodaeth i ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru am yr holl lyfrau, cyhoeddiadau, adnoddau addysgol ayyb a fyddai o ddiddordeb iddynt.

Sut mae’n gweithredu:

Mae’r cynllun yn gweithredu mewn nifer o ffyrdd:

Y Swyddogion Ysgol

Mae pedwar o swyddogion yn gweithio’n llawn amser yn teithio ledled Gymru yn ymweld ag ysgolion er mwyn rhoi arddangosfa o lyfrau a deunyddiau addysgol ac i gasglu archebion oddi wrthynt.

Mae tri swyddog yn y sector cynradd ac un yn yr uwchradd. Fan fawr ar ffurf fan lyfrgell sydd yn ymweld â’r ysgolion uwchradd tra bod y swyddogion cynradd yn cario detholiad helaeth o ddeunyddiau i mewn i’r ysgol ac yn eu gosod fel arddangosfa. Rhoddir cyfle i’r athrawon bori yn y llyfrau ac fe gynigir cyngor a chymorth gan y swyddogion profiadol. Cesglir archebion ac fe’u prosesir trwy siop leol o ddewis yr ysgol.

Oes modd trefnu ymweliad?

Mae pob ysgol yn cael cynnig ymweliad ar y ffôn o leiaf unwaith bob dwy flynedd ac mae’r rhan fwyaf yn cael cynnig bob blwyddyn. Mae’n bosib fodd bynnag i gysylltu’n uniongyrchol â’r swyddog cyswllt ysgolion yn y Cyngor Llyfrau er mwyn trefnu ymweliad.

Y Pecyn Ysgolion

Bob tymor danfonir pecyn cynhwysfawr i bob ysgol yng Nghymru yn cynnwys posteri, taflenni gwybodaeth am lyfrau, taflenni Adnabod Awdur yn rhoi manylion diddorol a defnyddiol am awduron sy’n ysgrifennu yn Gymraeg neu yn Saesneg am Gymru, a thaflenni gan y cyhoeddwyr yn rhoi gwybodaeth am gyhoeddiadau newydd.

TUDALEN GYNNWYS