Cysylltwch â'r Adran Grantiau Cyhoeddi i gael y manylion llawn am gynlluniau i gefnogi cyhoeddi yn Saesneg.
Grantiau Llyfrau Llenyddol Unigol
Grantiau tuag at gynhyrchu llyfrau llenyddol o ddiddordeb Cymreig neu gan awduron sy'n byw yng Nghymru, i oedolion neu blant.
Grantiau Refeniw
Grantiau tuag at orbenion a rhaglenni llenyddol cyhoeddwyr a leolir yng Nghymru. Dylai cyhoeddwyr sydd eisoes yn cyhoeddi llenyddiaeth Saesneg o Gymru, ac a hoffai wybod mwy am y posibilrwydd o dderbyn nawdd refeniw, gysylltu â'r Adran Grantiau Cyhoeddi.
Blaendaliadau / Comisiynau i Awduron a Darlunwyr
Grantiau i alluogi cyhoeddwyr i gynnig blaendal ar freindaliadau neu i dalu ffioedd comisiynu i awduron neu ddarlunwyr i greu gwaith o safon ac eang ei apêl.
Comisiynau Llenyddol Bach
Grantiau i alluogi cyhoeddwyr i gomisiynu gwaith ymchwil llenyddol/diwylliannol neu i dalu am storïau/ysgrifau mewn casgliadau wedi’u golygu/cyfrolau aml-awdur etc.
Grantiau Marchnata
Grantiau tuag at hyrwyddo teitlau unigol neu grwpiau o deitlau y mae disgwyl i’w gwerthiant fod yn uchel.
Cefnogi Swyddi
Cyfraniadau tuag at gost cyflogi staff golygyddol a marchnata. Dosrannwyd y gyllideb gyfan ar gyfer y cyfnod sy'n dod i ben ym Mawrth 2011 (yn ddibynnol ar berfformiad boddhaol). Bydd yr Adran Grantiau Cyhoeddi yn hysbysebu canllawiau mewn da bryd ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol.
Grantiau ar gyfer Golygyddion Llawrydd
Anelir y grantiau hyn yn benodol at deitlau a gomisiynwyd o dan nawdd y Cynllun Blaendaliadau/Comisiynau i Awduron gan dai cyhoeddi nad ydynt, fel arfer, yn cyflogi golygyddion.
Cylchgronau Llenyddol / Diwylliannol
Grantiau a gynigir, ar ffurf trwyddedau am dair blynedd ar y tro, i gylchgronau sy’n rhoi sylw (yn gyfan gwbl neu yn rhannol) i lenyddiaeth, y celfyddydau a materion diwylliannol. Daw'r trwyddedau presennol i ben ddiwedd Mawrth 2012.
Grantiau i Gylchgronau Bach a Gweisg Bychain
Grantiau i gefnogi mentrau cyhoeddi bach, lleol yn aml, ac i hybu doniau creadigol newydd.
Grantiau Gweithgareddau Marchnata Bach
Grantiau bach tuag at hyrwyddo teitlau llenyddol unigol neu grwpiau o deitlau. Nod y cynllun hwn yw ariannu lansiadau a gweithgareddau marchnata bach.
Cyrsiau Hyfforddi
Mae cronfa fechan i’w defnyddio ar gyfer cyrsiau i gyhoeddwyr a ddarperir gan Gyngor Llyfrau Cymru. Cynhaliwyd hyfforddiant diweddar ar olygu, marchnata a rheoli busnes. Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Adran Grantiau Cyhoeddi.