Crynodeb o'r Grantiau sydd ar gael

Cysyllter â'r Adran Grantiau Cyhoeddi i gael y manylion llawn am gynlluniau i gefnogi cyhoeddi yn Gymraeg.

Grantiau Llyfrau Unigol

Grantiau i ystod eang o lyfrau, gan gynnwys llyfrau ffeithiol a ffuglen, a gweithiau llenyddol, i oedolion a phlant.

Grantiau Rhaglen

Cynllun lle rhoddir cyllideb am flwyddyn i gyhoeddwyr ar gyfer rhaglen sy’n cynnwys o leiaf 10 teitl. Rhaid i gyhoeddwr fod wedi cyhoeddi llyfrau o dan y cynllun Grantiau Llyfrau Unigol cyn y gall wneud cais i fod yn Gyhoeddwr Grant Rhaglen.

Taliadau i Awduron

Grantiau sy’n galluogi cyhoeddwyr i gynnig comisiynau a thaliadau cystadleuol i awduron am weithiau ag apêl eang iddynt, i oedolion ac i blant.

Taliadau i Ddarlunwyr a Ffotograffwyr

Grantiau i alluogi cyhoeddwyr i gomisiynu gwaith gwreiddiol ar gyfer llyfrau darluniadol i oedolion ac i blant.

Cefnogi Swyddi

Grantiau tuag at gost cyflogi golygyddion creadigol.

Grantiau Marchnata: Lansiadau a Theithiau Arwyddo

Grantiau ar gyfer noddi lansio llyfrau a theithiau arwyddo gan awduron.

Cylchgronau

Mae’r Cyngor yn cefnogi ystod eang o gylchgronau hamdden, eang eu hapêl, ar gyfer plant ac oedolion, yn ogystal â nifer o gylchgronau sy’n rhoi sylw, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i lenyddiaeth, y celfyddydau neu faterion diwylliannol. (Cefnogid y grŵp olaf gan y Grant Llenyddiaeth, a weinyddid y pryd hwnnw gan Gyngor Celfyddydau Cymru, hyd at ddiwedd Mawrth 2003.) Mae’r Cyngor yn dyfarnu trwyddedau i gylchgronau am gyfnodau o hyd at dair blynedd. Cyfnod y trwyddedau presennol yw Ebrill 2009-Mawrth 2012, a bwriedir gwahodd ceisiadau ar gyfer y cyfnod dilynol yn haf 2011. Golyga hyn fod yr arian i gylchgronau wedi’i addo hyd at Fawrth 2012, ac ni ellir cefnogi ceisiadau newydd yn y cyfamser.


Grantiau i Lyfrau Llafar

Grantiau blynyddol tuag at raglenni o lyfrau llafar, i oedolion ac i blant.

Grantiau i CD-ROMau

Grantiau tuag at gyhoeddi CD-ROMau sy’n cynnwys deunydd hamdden poblogaidd, yn arbennig ar gyfer plant oed cynradd.

Grantiau i Gêmau

Grantiau tuag at gyhoeddi gêmau, i oedolion ac i blant, sydd â’r defnydd o iaith yn ganolog iddynt.

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com

Y Fasnach Lyfrau Ar-lein

Cronfa wybodaeth Cyngor Llyfrau Cymru i'r fasnach lyfrau

Y Fasnach Lyfrau Ar-lein