Mae'r Adran yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
Dylunio cloriau llyfrau
Dylunio llyfrau o glawr i glawr
Darparu deunydd gweledol, megis darluniau a ffotograffau, ar gyfer llyfrau.
Mae'r Uwch-Swyddog Dylunio a'r Swyddog Dylunio yn ddylunwyr graffig profiadol. Er eu bod yn ymgymryd â rhan sylweddol o waith yr Adran eu hunain, maent hefyd yn cydweithio â rhwng 30 a 40 o ddylunwyr, darlunwyr a ffotograffwyr allanol, gan fanteisio ar eu harbenigedd yn y gwahanol feysydd.
Yr Adran sy'n gyfrifol am ddylunio holl gyhoeddiadau mewnol Cyngor Llyfrau Cymru.
Gwahoddir dylunwyr a darlunwyr a fyddai'n hoffi gweithio ar lyfrau i gysylltu â ni:
Sion Ilar
Uwch-Swyddog Dylunio
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2JB
Ffôn: 01970 624151
Facs: 01970 625385
E-bost: sion.ilar@cllc.org.uk