CYSTADLAETHAU LLYFRAU I YSGOLION CYNRADD
Croeso i dudalen wybodaeth Darllen Dros Gymru, cystadleuaeth llyfrau plant Cyngor Llyfrau Cymru
Nod syml y gystadleuaeth yw dathlu darllen, gan annog plant ledled Cymru i garu darllen llyfrau Cymraeg.
Trwy gyfrwng y gystadleuaeth rydym yn annog plant i gymryd diddordeb ym myd llyfrau a chryfhau eu sgiliau llythrennedd, dehongli, trafod a chyflwyno.
Mae’r gystadleuaeth yn creu cyffro am fyd llyfrau ac wrth gymryd rhan mae’r disgyblion yn meithrin agweddau cadarnhaol a hirdymor tuag at ddarllen.
Dyma gystadleuaeth sydd
· am ddim i ysgolion
· yn agored i ddisgyblion Blynyddoedd 3 a 4, 5 a 6
· yn cynnig detholiad eang o lyfrau ar y rhestr ddarllen er mwyn ennyn diddordeb trawstoriad o ddisgyblion
· yn rhoi llyfr am ddim i bob plentyn sydd yn cynrychioli ei ysgol yn y Rownd Genedlaethol
· yn cynnig gwobrau ariannol i’r ysgolion buddugol
· gyda rhestr ddarllen wedi ei cynllunio i apelio at ddisgyblion o raddfeydd darllen amrywiol.
Yn ogystal â bod yn hwyl, mae elfen gystadleuol y rhaglen
· yn ysgogi plant o bob gallu i ddarllen a thrafod llyfrau
· yn rhoi cyfle i’r plant a’u hysgolion i ennill gwobrau
Cysylltwch â cllc.plant@llyfrau.cymru | 01970 624 151 os hoffech ragor o wybodaeth.
Mae Maes Llafur BookSlam, sef y gystadleuaeth Saesneg i holl ysgolion cynradd Cymru i'w ddarganfod ar ochr Saesneg ein gwefan.