Tir Na n-Og 2018

Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru y teitlau sydd ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2018, sef y gwobrau a roddir yn flynyddol gan y Cyngor i anrhydeddu gwaith gwreiddiol gan awduron ac arlunwyr llyfrau plant yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Teitlau'r rhestr fer Gymraeg:

Yr Ynys

Cyfres Yma: Yr Ynys – Lleucu Roberts (Y Lolfa)

Y gyfrol gyntaf mewn trioleg o nofelau ôl-apocalyptaidd ar gyfer yr arddegau. Y flwyddyn 2140 yw hi a cheir hanes 49 o bobl a oroesodd ar ôl cuddio rhag bom niwclear mewn ogof ar ynys bellennig yn yr Arctig. Mae'r cenedlaethau wedi tyfu o darddiad Mam Un, ac mae ei dyddiadur hi yn allweddol ac yn ddylanwadol, yn arbennig yn hanes Gwawr, y ferch sydd yn ganolog i'r stori.

Merch y Mel

Merch y Mêl – Caryl Lewis (Y Lolfa)

Llyfr stori-a-llun hyfryd i blant 4–8 oed. Bydd cyfle i'r plant ddysgu enwau blodau ac am fyd natur trwy stori annwyl Caryl a lluniau bendigedig Valériane Leblond. Mae Elsi'n byw gyda'i mam-gu, sy'n cadw gwenyn. Trwy ddilyn y gwenyn, a sylwi ar bopeth sy'n digwydd yn yr ardd drwy gydol y flwyddyn, daw Elsi i garu pob tymor yn ei dro.

Gethin

Gethin Nyth Brân – Gareth Evans (Carreg Gwalch)

Nofel ffantasi gyffrous sy'n plethu dau fyd. Mae bywyd yn boen i Gethin, 13 oed, ym Mhontypridd. Mae e'n ffraeo â'i fam o hyd, does gan Caitlin ddim diddordeb ynddo, ac mae'r Tri Trist yn mynnu ei blagio. Ond, yn dilyn parti yng nghartref Caitlin ar noswyl Calan Gaeaf, mae bywyd Gethin yn troi ben i waered, ac mae'n deffro mewn byd arall yn y flwyddyn 1713.

Lleuad yn Goch

Mae'r Lleuad yn Goch – Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch)

Nofel sy'n clymu'r Tân yn Llŷn yn 1936 a'r ymosodiad ar Guernica yng Ngwlad y Basg yn 1937. Mae tân yn y cartref henoed yn gorfodi Megan, sydd bellach yn nain, i ddewis un peth o'i llofft wrth i'r adeilad gael ei wagio gan y timau diogelwch. Pam mae hi wedi dewis hen faner denau goch, gwyrdd a gwyn?

Efa

Y Melanai: Efa – Bethan Gwanas (Y Lolfa)

Y nofel gyntaf mewn trioleg ar gyfer yr arddegau. Mae Efa yn ddarpar frenhines gwlad Melania ond mae hi'n gyndyn i ddilyn yr hen draddodiadau, gan gynnwys lladd ei mam, y frenhines, ar ei phen-blwydd yn 16 oed. Yn y stori, dilynwn Efa wrth iddi frwydro yn erbyn ei thynged ei hun.

Carped Hud

Dosbarth Miss Prydderch a'r Carped Hud – Mererid Hopwood ( Gomer)

Mentrwch gyda Miss Prydderch a'i disgyblion o Ysgol y Garn ar y carped hud i Goedwig y Tylluanod lle cewch weld rhyfeddodau, ond peidiwch, da chi, ag edrych i fyw llygaid Dr Wg ab Lin! Dyma'r teitl cyntaf mewn cyfres o lyfrau am yr athrawes anghyffredin a'i hanturiaethau.

Teitlau'r rhestr fer Saesneg:

Santa

Santa's Greatest Gift – Tudur Dylan Jones (Gomer)

King of the Sy

King of the Sky – Nicola Davies (Walker)

St Davids day

St. David's Day is Cancelled! – Wendy White (Gomer)

Gaslight

Gaslight – Eloise Williams (Firefly)

Jewelled Jaguar

The Jewelled Jaguar – Sharon Tregenza (Firefly)

Far Away

The Nearest Far Away Place – Hayley Long (Hot Key)

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com