BARDD
PLANT CYMRU 2008–2009
Ar 27 Mai, ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith
Cymru Sir Conwy, trosglwyddodd Caryl Parry Jones mantell
Bardd Plant Cymru. Cyhoeddodd mai Bardd Plant Cymru
2008-2009 yw Ifor ap Glyn o Gaernarfon.
Dyma
gerdd a ysgrifennodd Ifor ap Glyn i Barack Obama, arlywydd
newydd yr Unol Daleithiau ar achlysur ei dderbyn yn
arlywydd.
Camp Obama
Daeth niwl ar lannau'r Mississippi gyda'r hwyr,
a'r arwyddion neon yn nofio,
wedi gollwng angor o’r strydoedd islaw...
Ac ar y teledu, yn ôl yn y gwesty
daeth hud ar genedl gyfan
a chyd-ddathlais y jiwbili fawr
wrth i ddyn o’r hen gyfandir
gynnig ei obeithion powld
i genedl gyfan gyndyn
o wynion a chyngaethion...
Ond ar sianel arall
yng nghannwyll llygad rhyw stadiwm peldroed
gwelais gewri duon
yn hyt-hyt-hyrddio’n chwyrn i’w gilydd,
ac enwau fy hil,
yn Evans a Griffiths a Davis a Jones
yn warthnod ar eu gwarrau llydan...
A champ i’r mab darogan hwn,
roi cnawd am esgyrn etholiad,
chwythu anadl i’r gobeithion powld,
ac impio croen yfory
ar greithiau ddoe…
Ifor ap Glyn, Bardd Plant Cymru 2008-9
Duffydil
(enwyd math newydd o gennin Pedr ar ôl y gantores
wych o Nefyn)
Hi yw’r petalau melyn cwta,
yn siglo’n awgrymog
uwch coesyn siapus;
un ddiniwed o wyllt;
ac yn goron ar y cyfan,
gorn o lais a chyfoeth o liw;
y llais â graean chwarel Gwylwyr,
y llais â llif ac angerdd
dyfnderoedd Porthdinllaen...
* * *
Hi yw blodyn unigrwydd
crac mewn pafin
Warwick Avenue…
yn flodyn unigryw,
mor debyg i’r lliaws,
ond y hi sy’n lleisio’u hing,
yn cyffwrdd miloedd
â melyn ei symlrwydd,
ag aur ei hathrylith…
* * *
Achos hi yw’r gwytnwch ddaw i’r golwg
yn wylaidd wedi’r hirlwm;
a hi yw’r gân annisgwyl
ddaw â’r gwanwyn yn ei sgil...
Golau yn y gwyll
(i T. Llew Jones, bardd plant cyntaf a mwyaf Cymru)
Gwelsom cyn hyn ganhwyllau’r rhai hyn,
fel tyllau llachar yn nhywyllwch y llan
yn gwâdd goleuni mewn o’r tu draw.
A gwelsom y rhai iau mewn cyngerdd hwyr
yn eglwysig gyda’u leitars,
yn patrymu’r nos a’u hangerdd
Ond heno yn lloftydd plant ein gwlad
gwelwn ddillad gwely’n fryniau dirgel
A gwawl od yn dianc dan y plancedi
Pe mentrem i grombil
y siambrau arallfydol hyn,
caem ymhob un
blentyn yng nghroth dychymyg;
bennau gliniau dan ei ên
a thortsh wrth ei drwyn
wedi ymgolli’n llwyr
yn llyfr T. Llew.
Ym Mhontgarreg,
mae ffenest y meistr yn dywyll mwy;
ond yn llofftydd Cymru heno
mae defod anfwriadol y plant
yn dyst i’w barhâd,
ac mae goleuni eu Gwydion
yn dal i ffrydio mewn
o’r tu draw…
Ifor ap Glyn
|