Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
 
 

Enillwyr Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol

Cynhaliwyd ail seremoni gyntaf Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol dan nawdd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a Chyngor Llyfrau Cymru yng Nghaerdydd ddydd Gwener 30 Mawrth 2007 fel rhan o Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cadeirydd y panel gwobrau oedd John Valentine Williams.

Y cyhoeddwyr buddugol yw:

Gwobr i’r Prif Enillydd
Cyfres Darllen Mewn Dim, Angharad Tomos a Pecyn Athrawon - Cyfrol 1, Anwen Owen, Y Lolfa


Tony Schiavone, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, yn cyflwyno tlws y Prif Enillydd i Garmon Gruffudd (chwith), Y Lolfa.



Grwp Oedran Cynradd

Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi yn Saesneg
Flying Start with Literacy, Ros Bayley a Lynn Broadbent, Continuum (Network Educational Press)


Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, yn cyflwyno tlws i Bridget Gibbs (chwith) Continuum (Network Educational Press).



Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi yn Gymraeg
Cyfres Darllen Mewn Dim, Angharad Tomos and Pecyn Athrawon - Cyfrol 1, Anwen Owen, Y Lolfa


Garmon Gruffudd, Y Lolfa.


Rhifedd: llyfrau neu gyfresi nail yn Gymraeg neu Saesneg
Math@tebol, - Datrys Problemau 1 a Datrys Problemau 2
Sharon Shapiro, Llyfr 1, addaswyd gan Gwyneth Jones a Llyfr 2, addaswyd Owain Siôn Williams, @ebol


Glyn Saunders Jones, @ebol


Deunyddiau heblaw llyfrau:
Sali Mali 1-2-3, B-DAG Cyf.


Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, yn cyflwyno'r
tlws i Aled Richards, B-DAG.


Grwp Oedran Uwchradd

Llythrennedd : llyfrau neu gyfresi yn Saesneg
Cyfres I’r Byw, Elin Meek a Meleri Wyn James, Gwasg Gomer


Mairwen Prys Jones (chwith), Cyfarwyddwr Cyhoeddi Gwasg Gomer gyda Nerys Wyn Jones o'r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol.

Rhifedd: llyfrau neu gyfresi naill yn Gymraeg neu Saesneg
Cyfres Ymlaen â Ni, Hilary Koll a Steve Mills, addaswyd gan Sian Owen, @tebol.


Glyn Saunders Jones, @ebol



Gwobrau i Oedolion

Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi yn Saesneg
Quick Reads Series, Cyhoeddwyr amrywiol


Kathy Gale (chwith), Cyfarwyddwr Prosiect 'Quick Reads', gyda Sandra Morton o'r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol.



Gwobrau er Anrhydedd
Cyfres Stori Sydyn, Gwasg Gomer a Y Lolfa
Cyfres Quick Reads (Cymru), Accent Press


Toni Schiavone, (canol) Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol gydag enillwyr y Gwobrau er Anrhydedd o'r chwith i'r dde: Garmon Gruffudd, Y Lolfa; Mairwen Prys Jones, Gwasg Gomer; Hazel Cushion, Accent Press.

 

Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol 2003

Cynhaliwyd seremoni gyntaf Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol dan nawdd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a Chyngor Llyfrau Cymru yng Nghaerdydd ddydd Llun 24 Tachwedd 2003 fel rhan o Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cadeirydd y panel gwobrau oedd Glenys Kinnock ASE.


O’r dde i’r chwith, Alan Wells (Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol), Gwerfyl Pierce Jones (Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru), Siân Lloyd, Ray Gravell, Rhodri Owen


Enillwyr y Brif Wobr, Hillary Koll a Steve Mills, awduron Fast Forward Maths, cyhoeddwyd gan Hodder and Stoughton


Glenys Kinnock ASE, Cadeirydd y Panel Terfynol

Y cyhoeddwyr buddugol oedd:

Gwobr i'r Prif Enillydd:
Hodder and Stoughton:
Fast Forward Maths
Hilary Koll a Steve Mills.

Gwobrau Grŵp Oedran Cynradd

Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y Saesneg:
A&C Black:
Go Facts: Animal Starter Pack
Paul McEvoy, Katy Pike a Sharon Dalgleish

Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg:
Y Ganolfan Astudiaethau Addysg, Aberystwyth:
Cyfres Clic 1 a 2, awduron amrywiol

Deunyddiau heblaw llyfrau:
Catch Up (Prifysgol Oxford Brookes gyda chefnogaeth y Caxton Trust):
The Catch Up Programme
Dee Reid, Diana Bentley a Suzi Clipson-Boyles
Dyfal Donc Addasiad Anne Kenyon

Gwobrau Grŵp Oedran Uwchradd

Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y Saesneg:
Gwasg UWIC:
New Plays from Wales for Young People, awduron amrywiol

Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg:
Gwasg Gomer:
Cyfres Saeth, awduron amrywiol

Rhifedd: llyfrau neu gyfresi naill ai yn y Gymraeg neu'r Saesneg:
Hodder and Stoughton:
Fast Forward Maths
Hilary Koll a Steve Mills

Gwobrau ar Gyfer Deunydd i Oedolion

Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y Saesneg:
Cwmni cyhoeddi David Fulton:
Literacy for Childcare Students – a Basic Skills Guide (rhan o'r gyfres Excellence in Childcare)
June Green

 

__  

  {(}
{)}