Pennaeth Cyhoeddi Newydd Gwasg Gomer

16 Mehef 2010

Cyhoeddodd Gwasg Gomer mai Dylan Williams fydd yn olynu Mairwen Prys Jones fel Pennaeth Cyhoeddi'r wasg.

Pennaeth Cyhoeddi Newydd Gwasg Gomer
Mae Dylan Williams yn cydio yn awenau tŷ cyhoeddi mwyaf Cymru, Gwasg Gomer, yn ei swydd newydd fel Pennaeth Cyhoeddi’r wasg. Fe’i penodwyd wedi i Mairwen Prys Jones gamu o’r neilltu ar ôl un mlynedd ar bymtheg llewyrchus iawn wrth y llyw.

"Gadawodd Mairwen lwyfan cryf i mi gamu arno," meddai Dylan Williams, "a ’mwriad i ydi datblygu’r gwaith rhagorol gyflawnodd Mairwen ar ran Gomer." Ategwyd hyn gan Jonathan Lewis, Cyfarwyddwr Berchennog y wasg wrth ddiolch i Mairwen am nid yn unig gynyddu ar nifer a safon y teitlau a gyhoeddwyd yn y cyfnod, ond hefyd codi proffil y wasg yng Nghymru a thu hwnt.

Arweiniodd Dylan Williams Gymdeithas Lyfrau Ceredigion am dros bedair blynedd ar ddeg. Arolygodd daith ugeiniau o lyfrau trwy’r wasg a than ei gyfarwyddyd ef enillodd llyfrau’r tŷ cyhoeddi bychan hwn wobr Tir na n-Og deirgwaith, derbyniodd dair gwobr gan y diwydiant cyhoeddi am gynnyrch o safon eithriadol, a gosodwyd dwy gyfrol ar restr fer Llyfr y Flwyddyn.

Dylan Williams fu’n gyfrifol am gynhyrchu’r llyfr codi llabed gwreiddiol cyntaf yn Gymraeg ynghyd â’r llyfr cyffwrdd-a-theimlo gwreiddiol cyntaf yn Gymraeg, er mwyn cyflwyno straeon am Sali Mali a’i chyfeillion ar ffurf llyfrau nodwedd.

"Cyd-ddigwyddiad llwyr yw ’mod i wedi dilyn taith Sali Mali o’r Gymdeithas Lyfrau i Gomer," meddai Dylan, "ond pan welais i bod swydd Pennaeth Cyhoeddi Gomer yn wag, rhois gynnig amdani gan wybod ei fod yn un cyfle mewn oes."

Gyda’i brofiad o gomisiynu awduron ac artistiaid, a chreu a phecynnu llyfrau, mae gan Dylan Williams brofiad helaeth o gyhoeddi, " …er bydd yr her o gynhyrchu 120 o lyfrau mewn blwyddyn yn un sylweddol iawn," meddai.

Nid yn unig y mae Dylan Williams yn rhan o dîm sgriptio "Cei Bach", y rhaglen deledu boblogaidd i blant a gynhyrchir gan Sianco, y mae’n addasydd llenyddol profiadol tu hwnt gyda’i enw wrth dros bedwar ugain o gyfrolau, y mwyafrif ohonynt i blant.

Yn y 1990au bu Dylan Williams yn tynnu ffotograffau’n broffesiynol a llun o’i eiddo ef yw’r un o T. Llew Jones fel brenin dros ei lyfrau. Hefyd ffotograff gan Dylan Williams a ddefnyddiwyd ar glawr  Cysgod y Cryman  llyfr a enwebwyd yn Llyfr y Ganrif – ac a gyhoeddir gan Gomer.

Cyn rheoli Cymdeithas Lyfrau Ceredigion roedd Dylan Williams, wrth ei waith llawrydd, yn ddarllenydd ac yn adolygydd cyson i Gyngor Llyfrau Cymru. Cyn hynny ef oedd golygydd cyntaf Clwb Sbondonics a chyn hynny bu’n Ddirprwy Olygydd Cylchgronau’r Urdd.

"Mae cael y cyfle i reoli un o restrau cyhoeddi mwyaf arbennig Cymru yn fraint ac yn gyfrifoldeb enfawr," meddai Dylan Williams.

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com