Cyhoeddi Enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2010

1 Gorff 2010

Mewn seremoni fawreddog, a drefnwyd gan Academi, nos Fercher, 30 Mehefin 2010 yng Ngwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd, cyflwynodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, siec o  £10,000 i’r awdur John Davies am ei gyfrol  Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw  (Y Lolfa) a wobrwywyd yn Llyfr y Flwyddyn 2010. Yr enillydd yn Saesneg yw Philip Gross am ei gyfrol  I Spy Pinhole Eye  (Cinnamon).

Beirniaid y wobr ar gyfer y Llyfr Cymraeg gorau eleni oedd John Gwilym Jones (Cadeirydd), Aled Lewis Evans a Branwen Gwyn. Gweinyddir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan yr Academi ac fe'i chefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cenedlaethol Cymru.

Wrth sôn am y gyfrol fuddugol, dywedodd John Gwilym Jones:  "Hanfodion testun rhyddiaith ar gyfer cyfrol fel hon oedd cael hanesydd deallus sydd yn meddu ar fynegiant llenor. Cafwyd cyfuniad o’r ddwy ddawn yn yr awdur hwn."

Hanesydd Cymreig yw John Davies o Gwm Rhondda. Daeth yn aelod o Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu'n Warden Neuadd Pantycelyn am ddeunaw mlynedd. Mae wedi cyhoeddi nifer fawr o gyfrolau, gan gynnwys ei lyfr enwog  Hanes Cymru  (1989).

O Sir Fôn i Sir Fynwy, o Sir Benfro i Sir y Fflint, mae John Davies wedi teithio ledled Cymru ar ein rhan ac wedi dethol cant o'r llefydd y dylen ni ymweld â nhw yn ei gyfrol  Cymru: Y 100 llefydd i'w gweld cyn marw.  Gyda lluniau lliw gan Marian Delyth, mae'n cynnwys rhai o'r llefydd twristaidd amlwg, megis yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Sain Ffagan a Phortmeirion; ambell le sy'n arwyddocaol yn hanes Cymru megis Merthyr Tudful, Aber-fan a Chastell Caerdydd; a rhai llefydd mwy anghyfarwydd ac annisgwyl fel The Pales, Mynydd Parys a Thryleg. Dyma gyfrol a fydd yn eich annog i godi pac a theithio Cymru benbaladr i ymweld â'r can lle.

Y ddwy gyfrol arall ar y Rhestr Fer oedd  Banerog  gan Hywel Griffiths (Y Lolfa) a  Naw Mis  gan Caryl Lewis (Y Lolfa). Derbyniodd y ddau awdur yma siec o £1,000 yr un.

Meddai Branwen Gwyn, un o’r beirniaid ar y panel Cymraeg:  "Nid gorchwyl hawdd oedd dewis a dethol cyfrolau ar gyfer y Rhestr Fer, ond credwn, fel trindod y panel beirniaid, fod ynddi groesdoriad (anfwriadol!) sy'n dangos rhychwant o ddoniau ein hawduron a'n beirdd. Mae hi wedi bod yn bleser a braint cael cydweithio gyda'r ddau feirniad arall, a hyderaf y bydd y cyhoedd yr un mor frwd â ni am y cyhoeddiadau sydd wedi gwneud cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni yn un gofiadwy dros ben."

Manon Steffan Ros a gipiodd Wobr Barn y Bobl Golwg 360 am ei nofel  Fel Aderyn  (Y Lolfa). Ers cyhoeddi’r Rhestr Hir o ddeg teitl ddiwedd Ebrill, mae’r cyhoedd wedi bod yn pleidleisio ar wefan Golwg 360 i’w ffefryn nhw o blith y teitlau hyn i ennill y wobr answyddogol hon.

Richard Marggraf Turley enillodd Wobr Barn y Bobl Media Wales am ei gyfrol  Wan-Hu’s Flying Chair  (Salt), ffefryn y cyhoedd o blith y Rhestr Hir Saesneg.

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com