Lansiodd Anthony Griffiths ei gyfrol Elenydd - Hen Berfeddwlad Gymreig (Gwasg Carreg Gwalch) yn Amgueddfa Ceredigion nos Wener, 9 Gorffennaf.
Dathliad o'r tir gwyllt olaf yng Nghymru yw'r gyfrol hon. Gorwedd Elenydd, hen berfeddwlad Gymreig yng nghalon Mynyddoedd Cambria gan ymestyn o Laslyn yn y gogledd i Lyn Brianne yn y de; o Gors Caron yn y gorllewin i Abaty Cwm-hir yn y dwyrain. Mae'n rhostir agored yn nannedd y gwynt gyda bryniau tonnog, cymoedd dyfnion, gorwelion eang ac unigedd sy'n llesol i'r enaid.