- Hybu diddordeb mewn llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru, ynghyd â deunydd cyffelyb arall, trwy ddarparu gwybodaeth a thrwy raglen lawn o weithgarwch.
- Hybu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru trwy ddarparu rhychwant o wasanaethau a thrwy gydgysylltu buddiannau awduron, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd.
- Cynorthwyo a chefnogi awduron trwy ddarparu gwasanaethau a thrwy ddyfarnu grantiau/comisiynau a sianelir trwy gyhoeddwyr.
- Dosbarthu grantiau i gynorthwyo cyhoeddi deunydd o ansawdd yn y Gymraeg a'r Saesneg gan sicrhau bod y cynnyrch ar gael yn eang.
Mae'r prif amcanion yn codi o'r swyddogaethau craidd uchod:
- Darparu gwybodaeth am lyfrau a deunydd perthnasol arall trwy gyhoeddi rhestrau, taflenni, catalogau a chylchgronau, a gwneud hynny yn y dulliau mwyaf priodol, ar bapur neu'n electronig.
- Trefnu cynlluniau a gweithgarwch i hybu diddordeb mewn llyfrau ac mewn darllen ac i fod yn gefn i ymdrechion cyhoeddwyr i hybu teitlau unigol.
- Hybu diddordeb mewn llyfrau plant trwy gyfrwng arddangosfeydd a thrwy raglen lawn o weithgarwch.
- Darparu gwasanaeth golygu a dylunio prydlon ac o safon uchel i gyhoeddwyr Cymru.
- Darparu gwasanaeth cyfanwerthu llyfrau a deunydd perthnasol ar ran y fasnach lyfrau yng Nghymru.
- Trefnu gwasanaethau i lyfrgelloedd.
- Darparu gwasanaethau a grantiau i awduron.
- Dosbarthu'r Grantiau Cyhoeddi i hybu cyhoeddi llyfrau a chylchgronau i blant ac oedolion ynghyd â deunyddiau perthnasol eraill.
- Sicrhau rheolaeth weinyddol ac ariannol effeithiol ac effeithlon.