- Rwy'n awdur. Oes modd i mi gael grant gan y Cyngor Llyfrau?
Mae grantiau ar gael i awduron, ond trwy gyhoeddwr yn unig y gellir gwneud cais. Am wybodaeth am y Grantiau Cyhoeddi cliciwch ar 'Grantiau' uchod ac ewch i 'Gwybodaeth i Awduron'.
- Rwyf wedi sgrifennu llyfr. Ble mae modd cael cyngor ynglŷn â sut i'w gyhoeddi?
Cysylltwch ag Adran Olygyddol y Cyngor Llyfrau trwy glicio ar 'Cysylltu' uchod neu ewch i wefan Y Fasnach Lyfrau Ar-lein. Mae cyngor parod ar y wefan a hefyd restr o gyhoeddwyr o Gymru. Os byddwch yn dymuno, gall yr Adran Olygyddol drefnu adroddiad darllenydd ar eich teipysgrif.
- Rwy'n awdur. Oes modd i’r Cyngor Llyfrau roi ffigurau gwerthiant fy llyfr/au i mi?
Na, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch cyhoeddwr. Mae'r cytundeb sydd rhwng y Ganolfan Ddosbarthu a chyhoeddwyr unigol yn gwahardd rhoi gwybodaeth am werthiant i unrhyw un heblaw'r cyhoeddwr.
- Rwy'n awdur. Oes modd i’r Cyngor Llyfrau ofalu fy mod yn derbyn breindal yn rheolaidd a phrydlon?
Dylai eich cytundeb â’ch cyhoeddwr osod allan y taliadau perthnasol a’r amserlen o ran derbyn taliadau. Os nad yw’r cytundeb yn cael ei anrhydeddu, dylech gysylltu â’ch cyhoeddwr yn ddiymdroi. Gall Adran Grantiau’r Cyngor Llyfrau ymyrryd ar eich rhan, os yw’r llyfr wedi cael grant, ond dim ond os ydych wedi methu cael ateb boddhaol gan eich cyhoeddwr.
- Rwyf am fod yn gyhoeddwr. Sut gall y Cyngor Llyfrau fy helpu?
Mae cyngor ar gael gan sawl Adran yn y Cyngor Llyfrau. Cysylltwch â’r Adran Grantiau yn y lle cyntaf trwy glicio ar 'Cysylltu' uchod ac fe all yr Adran eich cyfeirio at Adrannau eraill yn ôl y galw. Cliciwch ar 'Grantiau' uchod am fanylion pellach.
- Rwyf am fod yn llyfrwerthwr. Sut gall y Cyngor Llyfrau fy helpu?
Cysylltwch â Rheolwr y Ganolfan Ddosbarthu a/neu â Phennaeth yr Adran Gwerthu a Marchnata trwy glicio ar 'Cysylltu' uchod.
- Sut mae modd i mi ddod yn Gyfaill i’r Cyngor Llyfrau?
Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen ymaelodi neu cysylltwch ag:
Ysgrifennydd y Cyfeillion, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB Ffôn: 01970 624151 Ffacs: 01970 625385 E-bost: castellbrychan@cllc.org.uk
- Rwyf am brynu llyfr ac yn cael anhawster i ddod o hyd iddo yn fy siop leol. Beth ddylwn i ei wneud?
Gall eich siop leol archebu unrhyw lyfr sydd mewn print ar eich rhan oddi wrth ein Canolfan Ddosbarthu. Os nad yw hynny'n ymarferol, ewch i wefan y Cyngor Llyfrau www.gwales.com sy'n cynnig gwasanaeth archebu cyflym ac effeithiol. Rydym yn gwneud ein gorau i ddosbarthu ar y diwrnod gwaith canlynol, os yw'r llyfr mewn stoc.
- A oes modd i mi archebu llyfr er bod gwefan Gwales yn dweud ei fod Allan o Brint?
Rhoddir y neges 'Allan o Brint' yn ymyl teitl ar wefan Gwales lle mae’r cyhoeddwr wedi ein hysbysu nad oes copïau ar ôl i'w prynu a lle nad oes bwriad ganddynt i adargraffu. Nid oes diben gosod archeb am y rheiny. Awgrymwn, mewn achosion felly, eich bod yn benthyg copi o'ch llyfrgell leol, neu’n chwilio'r rhyngrwyd neu siopau llyfrau ail-law am gopi.
- Ble allwn i gael cyngor am y deunydd sydd ar gael ar gyfer fy mhlentyn/ysgol?
Cysylltwch â’r Adran Llyfrau Plant trwy glicio ar 'Cysylltu' uchod. Mae gan yr Adran nifer o swyddogion sy’n hyddysg yn y maes.