Sefydlu'r Cyngor Llyfrau

Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, Elwyn Jones sy'n adrodd hanes y dyddiau cynnar.

Yn ei gyfrol hunangofiannol Yr Hedyn Mwstard mae Alun R. Edwards yn olrhain hanes sefydlu’r Cyngor Llyfrau ac yn nodi mai 6 Tachwedd 1961 oedd yr union ddyddiad y daeth Undeb y Cymdeithasau Llyfrau i ben ac y sefydlwyd y corff cenedlaethol newydd. Ond cyn hynny gwelwyd rhyw ddeng mlynedd o waith paratoi caled, yn bennaf trwy gefnogi cyhoeddi llyfrau Cymraeg a’u hyrwyddo drwy ymgyrchoedd megis yr Ymgyrch Lyfrau i werthu llyfrau o ddrws i ddrws.

Bu sefydlu’r rhwydwaith o gymdeithasau llyfrau yn gam pwysig, gyda Chymdeithas Lyfrau Ceredigion yn un o’r rhai mwyaf blaenllaw. Roedd pymtheg o gymdeithasau’n bodoli erbyn diwedd oes yr Undeb gan gynnwys un a sefydlwyd yn Llundain. Arwyddocaol iawn, felly, wrth i Gymdeithas Lyfrau Ceredigion ddirwyn ei gweithgareddau i ben ar ddiwedd 2011, iddi benderfynu trosglwyddo’i hasedau i’r Cyngor Llyfrau er mwyn hyrwyddo maes llyfrau Cymraeg i blant.

Ar 1 Mawrth 1965 y dechreuodd Alun Creunant Davies yn ei swydd fel y Cyfarwyddwr cyntaf a rhaid cytuno â geiriau Alun R. Edwards wrth iddo nodi yn ei hunangofiant fod y penodiad ‘yn un delfrydol’. Gwerfyl Pierce Jones ddaeth i olynu Alun yn y swydd, gan arwain gwaith y Cyngor am yn agos i bum mlynedd ar hugain, hyd ei hymddeoliad yn 2009.

Sefydliad sy’n dal i ddatblygu

Ers ei sefydlu, mae’r Cyngor Llyfrau wedi gweld nifer o ddatblygiadau pwysig a phellgyrhaeddol dros y blynyddoedd ac mae hyn wedi arwain at gryfhau’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Un o’r datblygiadau cynharaf oedd sefydlu’r Ganolfan Ddosbarthu gan sicrhau dolen gref rhwng y cyhoeddwyr a’r llyfrwerthwyr. Bu’r Cyngor hefyd yn flaengar yn cofleidio’r dechnoleg newydd gan sicrhau system wybodaeth o’r radd flaenaf a ddaeth yn ffynhonnell gynhwysfawr o lyfrau o ddiddordeb Cymreig. Dyma sail gwybodaeth gwefannau Gwales ar gyfer llyfrwerthwyr, llyfrgellwyr yn ogystal â’r cyhoedd ac erbyn heddiw mae’n bosib archebu llyfrau o Gymru o bob cwr o’r byd.

Cam pwysig arall oedd newid trefn ariannu’r Cyngor wrth iddo dderbyn ei gyllid yn uniongyrchol gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Cyn hynny, bu’r Cyngor yn cael ei ariannu gan nifer o gyrff gwahanol. Yn 2003 cafwyd datblygiad pellach wrth i’r cyfrifoldeb dros weinyddu grantiau i lyfrau Saesneg o Gymru gael ei drosglwyddo o Gyngor y Celfyddydau i’r Cyngor Llyfrau. Yn sicr, mae’r Cyngor Llyfrau bellach yn arwain ar ddatblygiad strategol y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Mae rôl y Cyngor ym maes hyrwyddo darllen wedi datblygu’n aruthrol ers iddo gael ei wahodd i arwain ymgyrch y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yn 1998. Erbyn hyn mae’r Cyngor yn trefnu gweithgareddau Diwrnod y Llyfr yn flynyddol yn ogystal â chynlluniau Cymunedau’n Darllen a Stori Sydyn.

Mae’n dda nodi bod gwaith y Cyngor yn dal i ddatblygu. Yn ddiweddar, fe sicrhawyd arian ychwanegol i gefnogi swyddi golygyddion creadigol Cymraeg yn y gweisg ac mae’r Cyngor wrthi ar hyn o bryd yn rhoi sylw i gyhoeddi digidol er sicrhau y bydd y gweisg yn gallu cynnig dewis o e-lyfrau o Gymru i ddarllenwyr. Mae gan y Cyngor hefyd gynlluniau i gefnogi maes llyfrau Saesneg o Gymru.

Rhaglen o Ddathliadau

I ddathlu hanner canmlwyddiant o wasanaeth i’r diwydiant cyhoeddi mae’r Cyngor Llyfrau yn trefnu rhaglen o ddigwyddiadau fydd yn ymestyn hyd at y cyfarfod blynyddol ddiwedd y flwyddyn. Fe fydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnwys yn y rhaglen, megis Darlith Diwrnod y Llyfr a Gwobrau’r Diwydiant Cyhoeddi, ynghyd â chyfarfod arbennig o Gyfeillion y Cyngor Llyfrau. Eleni, am y tro cyntaf, fe fydd y Cyngor hefyd yn cynnal digwyddiad yng Ngŵyl y Gelli.

Eisoes, bu cryn sylw i’r dathliadau yn y wasg a’r cyfryngau, a’r gobaith yw cael sylw pellach yn ystod y flwyddyn i weithgareddau’r Cyngor a gwaith y diwydiant.

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com