Dathlu'r 50

50 Mlynedd o Wasanaeth i'r Byd Llyfrau

Ar 6 Tachwedd 1961, sefydlwyd Cyngor Llyfrau Cymru, ac yn 2011 dathlwyd 50 mlynedd o wasanaethu’r fasnach lyfrau a chyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Sefydlwyd y Cyngor Llyfrau mewn ymateb i waith arloesol y Cymdeithasau Llyfrau ar draws Cymru ac ymroddiad diflino Alun R. Edwards, Llyfrgellydd Sir Aberteifi ar y pryd, a fu’n gweithio’n ddyfal am gyfnod maith i wireddu’r freuddwyd. Cofnododd yr achlysur yn ei ddyddiadur â’r geiriau: 'Diwrnod hanesyddol, pwysig . . . Dyma ddechrau cyfnod newydd i’n hawduron.'

Yn 1965 y dechreuodd Alun Creunant Davies yn ei swydd fel y Cyfarwyddwr cyntaf ac mae’r Cyngor wedi glynu at y weledigaeth wreiddiol o weithio mewn partneriaeth gyda’r cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a llyfrgellwyr i ehangu’r dewis o lyfrau a sicrhau cynnyrch o’r safon orau.

'Mae’n bwysig ein bod yn cofnodi’r gwaith arloesol a gyflawnwyd yn y dyddiau cynnar,' meddai’r Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd presennol y Cyngor. 'Roedd y ddarpariaeth bryd hynny yn gwbl annigonol a phrin oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Gallwn ymfalchïo’n fawr yn yr hyn sydd wedi’i gyflawni drwy ymdrech nifer fawr o unigolion, drwy gydweithio rhwng y partneriaid er lles yr holl sector a chefnogaeth werthfawr gan lywodraeth ganolog. A hyn oll, wrth gwrs, gyda’r un nod o sicrhau llyfrau apelgar i’r darllenwyr.'

Yn gynnar yn ei hanes fe sefydlodd y Cyngor Ganolfan Ddosbarthu yn Aberystwyth a fu’n fodd, am y tro cyntaf, i sicrhau dosbarthiad llyfrau ar draws Cymru gyfan a chyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru bu’n bosibl cynnig cefnogaeth ymarferol i’r cyhoeddwyr drwy wasanaethau arbenigol ym maes golygu a dylunio. Yn ddiweddarach y bu i’r cyfrifoldeb am y grantiau cyhoeddi llyfrau Cymraeg gael ei drosglwyddo i’r Cyngor gan sicrhau cyfnod newydd i gyhoeddi yn y Gymraeg.

Bu cefnogi maes llyfrau plant yn flaenoriaeth i’r Cyngor ers y dyddiau cynnar, gan gynnwys sicrhau nawdd i gyhoeddi llyfrau ar gyfer y plant lleiaf yn ogystal â’r arddegau. Mae’r gwaith o hyrwyddo llyfrau plant yn parhau drwy raglen eang o weithgareddau sy’n cynnwys clybiau llyfrau cynradd ac uwchradd, cystadlaethau llyfrau a noddi Gwobr Tir na n-Og, y brif wobr ar gyfer llyfrau plant o Gymru yn y Gymraeg a’r Saesneg.

'Gwasanaethu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yw priod waith y Cyngor o hyd,' meddai Elwyn Jones y Prif Weithredwr. 'Hoffem feddwl y byddai’r sylfaenwyr yn ymfalchïo yn yr hyn sydd wedi’i gyflawni dros y blynyddoedd ac yn croesawu’r dewis gwych o lyfrau sydd bellach ar gael yn y ddwy iaith.'

Bu Gwerfyl Pierce Jones yn Gyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau am ddau ddegawd a mwy, ac yn ystod y cyfnod hwnnw gwelwyd nifer o ddatblygiadau arwyddocaol gan gynnwys sicrhau dyfodol ariannol gadarn i’r sefydliad pan gytunodd y Llywodraeth i dderbyn y cyfrifoldeb am ariannu’r Cyngor. Cyn hynny bu’r Cyngor yn cael ei ariannu gan yr awdurdodau lleol, Cyngor y Celfyddydau, y Swyddfa Gymreig a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Cafodd datblygiadau electronig ddylanwad pellgyrhaeddol ar ddull y Cyngor o wasanaethu’r darllenwyr, yn cynnwys sefydlu’r wefan wybodaeth www.gwales.com sydd bellach yn gwerthu llyfrau o Gymru i bob rhan o’r byd. Datblygwyd fersiynau o’r wefan i wasanaethu’r llyfrwerthwyr yn ogystal â’r llyfrgelloedd.

Yn 2003, cafwyd datblygiad arwyddocaol arall wrth i’r cyfrifoldeb dros grantiau cyhoeddi llyfrau Saesneg o Gymru gael ei drosglwyddo o Gyngor y Celfyddydau i’r Cyngor Llyfrau gan sicrhau mai’r Cyngor Llyfrau bellach oedd â’r cyfrifoldeb dros ddatblygiad strategol y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn y ddwy iaith.

'Bu’r Cyngor yn dyst i nifer fawr o ddatblygiadau eraill dros y blynyddoedd,' ychwanegodd Elwyn Jones, 'gan gynnwys sicrhau cyllid i gefnogi swyddi golygyddol a marchnata yn y tai cyhoeddi, rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant i ddatblygu sgiliau o fewn y diwydiant a chynlluniau hyrwyddo uchelgeisiol i ddod â’r llyfrau i sylw’r darllenwyr. Erbyn hyn, mae’r Cyngor hefyd yn cynnal rhaglen o weithgaredd ym maes hybu darllen gan drefnu digwyddiad Diwrnod y Llyfr yn flynyddol.'

'Hoffwn feddwl bod gwir werth y datblygiadau hyn i’w gweld yn y cynnyrch safonol a gyhoeddir bob blwyddyn a’r ystod o lyfrau sydd bellach ar gael i adlewyrchu diddordebau darllen y Gymru gyfoes.'

Gyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru y mae’r Cyngor Llyfrau yn parhau â’r gwaith o gefnogi a datblygu’r diwydiant cyhoeddi ac yn buddsoddi hefyd ym maes e-lyfrau er mwyn sicrhau bod dewis o lyfrau o Gymru ar gael ar ffurf electronig i’r darllenwyr.

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog dros Dai, Adfywio a Threftadaeth, 'Llongyfarchiadau i’r Cyngor Llyfrau ar gyrraedd y garreg filltir nodedig hon. Dros yr hanner can mlynedd diwethaf maent wedi bod yn ganolog yn natblygiad y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ac yn y ddarpariaeth o lyfrau Cymraeg a Saesneg ar gyfer plant ac oedolion.'

Ychwanegodd Elwyn Jones: 'Mae gofynion darllenwyr yn newid yn gyson a swyddogaeth y Cyngor yw cydweithio â’n partneriaid i sicrhau bod modd i ni barhau i ymateb i’r galw am ddeunydd darllen apelgar.'

Bydd nifer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnwys o fewn rhaglen ddathliadau’r Cyngor, gan ddechrau â’r Cyfarfod Blynyddol ym mis Rhagfyr ac yn cynnwys dathliadau Diwrnod y Llyfr a chyfarfod arbennig o Gyfeillion y Cyngor Llyfrau. Bydd cyfrol hefyd yn cael ei chomisiynu ar hanes y Cyngor Llyfrau a’i gyfraniad i ddiwylliant Cymru, wedi’i golygu gan yr Athro M. Wynn Thomas a’i noddi gan deulu’r diweddar Alun Creunant Davies.

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com