Teyrngedau - Tributes

Gareth Davies Jones (1937–2015)

Er bod treigl y blynyddoedd yn gadael eu hôl ar y mwyafrif ohonom yr oedd Gareth yn un o’r bobl fythol wyrdd hynny nad oedd yn newid dim o flwyddyn i flwyddyn. Yr oedd yn ddyn glandeg, rhyfeddol o drwsiadus, a phan gyrhaeddai’r Cyngor Llyfrau byddai’n estyn am ei grib yn ddieithriad – ac, yn wir, nid oedd byth flewyn o’i le. Ond roedd mwy i’r peth na’r wedd allanol yn unig. Meddai ar egni dihafal ac ethos gwaith a fyddai’n ddigon i sigo’r mwyafrif ohonom.

Fe’i ganwyd yn Llanelli, lle’r oedd ei dad yn weinidog gyda’r Bedyddwyr, ond symudodd y teulu i’r Ponciau pan oedd Gareth yn saith oed a chwblhaodd ei addysg gynradd yno cyn symud ymlaen i Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Rhiwabon ac yna i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg (1958) a derbyn gradd uwch yn 1963 am astudiaeth o dafodiaith y Rhos.

Fel llawer o’i gyfoedion, dechreuodd ar yrfa ym myd dysgu (Ysgol Victoria, Wrecsam ac wedyn Ysgol Grove Park) ond aeth drwy’r rhengoedd yn gyflym gan ddod yn bennaeth adran, yn drefnydd iaith, ac yn Arolygydd Ysgolion erbyn canol ei dridegau. Rhoes chwech ar hugain o flynyddoedd i’r Arolygiaeth gan ddod yn Arolygwr Ardal ac yn rheolwr swyddfa rhanbarthol ac yn y man yn Arolygwr Staff ac yn aelod o dîm rheoli Swyddfa Prif Arolygydd Ysgolion ei Mawrhydi (Estyn yn ddiweddarach).

Ar ôl ymddeol yn 1997 parhaodd i arolygu ysgolion fel arolygwr cofrestredig. Bu galw mawr hefyd am ei wasanaeth fel arholwr allanol ar gyfer y radd B.Addysg a chyflawnodd y gwaith hwnnw ar ran Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth ac Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru (Prifysgol Glyndŵr erbyn hyn). Bu hefyd yn golygu arolygiadau ysgol i nifer o asiantaethau annibynnol heb sôn am dderbyn sawl comisiwn i lunio adroddiadau i gyrff megis y Cyngor Cyllido Addysg Uwch, y Cyngor Cyllido Addysg Bellach a sawl Cyngor Sir.

Craffter, manylder, cysactrwydd a gweledigaeth: dyma rai nodweddion a berthynai iddo ac a olygai mai ef oedd y dewis naturiol ar gyfer cymaint o orchwylion pwysig a phellgyrhaeddol. Ond yr hyn a wnâi Gareth yn wahanol i lawer gwas sifil dawnus arall oedd ei agwedd gadarnhaol at bopeth a gyflawnai. Chwilio am bosibiliadau a chyfleoedd a wnâi Gareth yn ddieithriad; roedd ei farn bob amser yn adeiladol a gallai gyflwyno ei achos yn feistraidd, ar lafar ac ar bapur.

Drwy’r byd addysg y dechreuodd ymwneud â’r Cyngor Llyfrau. Daeth yn aelod o Gyngor y Cyngor Llyfrau fel cynrychiolydd yr Arolygiaeth i ddechrau ond cafodd ei benodi’n ddiweddarach yn ei hawl ei hun a gwasanaethodd y sefydliad am oddeutu deugain mlynedd. Yn y blynyddoedd diweddar ef oedd Is-gadeirydd y Cyngor a chadeirydd y panel grantiau Cymraeg. Gallaf dystio i’w gefnogaeth ddi-ball i mi’n bersonol ac i’m rhagflaenydd a’m holynydd. Yr oedd yn ddyn doeth a thriw.

Ond yr oedd mwy i Gareth na byd addysg a’r Cyngor Llyfrau. Yr oedd yr un mor weithgar yn lleol gan gefnogi amryfal achosion oedd yn agos at ei galon. Yr oedd yn flaenor yng Nghapel y Groes ac yn bregethwr lleyg mawr ei barch. Ac roedd yn aelod ffyddlon o gymdeithas Meibion Maelor.

Bu’n weithgar gyda’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd a chafodd flas arbennig ar draddodi beirniadaeth Gwobr Goffa Daniel Owen o lwyfan y Brifwyl yn Llanelli y llynedd. Gwnaeth hynny gydag urddas ac awdurdod.

Ond peidied neb â meddwl ei fod yn ddyn sych a syber: i’r gwrthwyneb roedd yn gwmnïwr hwyliog a diddan ac wrth ei fodd yn trafod ei amryfal ddiddordebau, nid lleiaf byd rygbi a chwaraeon. Mae’r llythyrau lu a dderbyniodd y teulu dros yr wythnosau diwethaf yn tystio i’r meddwl mawr oedd gan gynifer o bobl ohono – pobl oedd am gydnabod eu dyled i Gareth y calonogwr a oedd mor hael ei gyngor a’i gefnogaeth, yn enwedig i’r genhedlaeth iau.

Fel y dywedodd ei weinidog ar ddydd ei angladd, roedd Gareth byth a hefyd yn cyfeirio at rywun neu’i gilydd fel ‘cariad o foi’ neu ‘gariad o ferch’. Os bu yna erioed ‘gariad o foi’, yna Gareth ei hun oedd hwnnw yn ddiamau. Bydd bwlch enfawr ar ei ôl ac mae ein cydymdeimlad yn fawr ag Anne ei wraig ac Elgan, ei fab, a olygai bopeth iddo.

Bu farw Gareth Davies Jones ar 20 Chwefror 2015

GWERFYL PIERCE JONES

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com