|
Cyhoeddi Enw Bardd Plant Cymru 2008–2009
Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy, cyhoeddwyd mai Ifor ap Glyn o Gaernarfon yw Bardd Plant Cymru 2008–2009.
Cynllun ar y cyd rhwng S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Yr Academi Gymreig ac Urdd Gobaith Cymru yw Bardd Plant Cymru, â'r bwriad yw codi
proffil barddoniaeth ymysg yr ifanc, â'u hannog i greu a mwynhau cerddi. Ifor ap Glyn fydd y nawfed bardd i dderbyn y teitl, gan ddilyn yn
ôl traed Myrddin ap Dafydd, Meirion McIntyre Huws, Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Gwyneth Glyn a Caryl Parry Jones.
Cafodd Ifor ei eni â'i fagu yn Llundain, y bedwaredd genhedlaeth o'i deulu i gael ei fagu yn y ddinas. Mae'n byw bellach yng Nghaernarfon, gyda'i
wraig a'u pedwar plentyn. Mae'n gweithio fel cynhyrchydd teledu, ar ôl cyfnod yn ennill ei damaid fel sgriptiwr i theatr a theledu.
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yn 1999 am gasgliad o gerddi yn ymwneud â dysgwyr â'r broses o ddysgu iaith. Mae'n un
sy'n hoff o gyflwyno'i gerddi yn fyw ac mae wedi ymddiddori erioed mewn cyfuno barddoniaeth a chyfryngau eraill. Mae wedi bod yn rhan o sawl taith
farddol o gwmpas Cymru ers 1986.
Perfformiodd o flaen cynulleidfa o 10,000 mewn dathliad o agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, gan rannu llwyfan gyda Tom Jones a Shirley
Bassey! Ond mae Ifor fel arfer yn perfformio o flaen cynulleidfoedd llai mewn tafarndai, clybiau, festri capel a darlithfeydd hyd a lled Cymru.
Mae wedi perfformio yn America, Gwlad Pwyl a Lloegr, gan deithio sawl gwaith yn Iwerddon hefyd.
Meddai Ifor:
"Mae'n fraint derbyn y swydd a dwi'n edrych ymlaen at weithio hefo plant a phobl ifainc ar draws Cymru. Dwi'n gobeithio defnyddio rhyw gymaint
ar fideo a cherddoriaeth wrth greu cerddi hefo nhw."
|