|
Rhannu Pleser Darllen!
Wythnos Llyfr yn Anrheg 7fed-12fed Gorffennaf 2008
Mae'r ymgyrch arloesol sydd yn annog pobl ledled Cymru i ymhyfrydu ym mhleser darllen a rhoi llyfr i'w gilydd yn ystod wythnos 7fed – 12fed Gorffennaf 2008 yn un o ymgyrchoedd allweddol y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru.
Mae cymunedau, cwmnïau a'r sêr i gyd wedi ymuno â'r ymgyrch ac yn bwriadu rhoi llyfrau i'w gilydd yn ystod yr wythnos. Fel yr eglura Delyth Humphreys, Cydlynydd y Flwyddyn Darllen Genedlaethol: "Trefnwyd Wythnos Llyfr yn Anrheg yn rhan o'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol gan Gyngor Llyfrau Cymru fel modd i rannu pleser darllen. Rydym yn falch iawn bod pobl o bob cwr o Gymru yn bwriadu rhannu eu hoff lyfrau ag eraill yn ystod yr wythnos, ac yn gobeithio y bydd yn destun trafod ymhlith ffrindiau."
Ymhlith rhai o'r grwpiau a fydd yn cymryd rhan yn y cynllun bydd Merched y Wawr sy'n rhoi llyfrau i Gymorth i Fenywod; Accent Press yn rhoi 1,500 llyfr i Grŵp Corus; Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon yn rhoi llyfrau i Ysgol Itala, Sambia; ac Ysgol Gynradd Danygraig, Abertawe yn rhoi copïau o thesawrws i'r disgyblion a fydd yn ymadael â'r ysgol. Bydd Cyngor Llyfrau Cymru hefyd yn cyflwyno llyfrau i Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan a'r Gweinidog Addysg, Jane Hutt, er mwyn iddynt ymgolli ynddynt.
At hynny, mae llu o sêr wedi ymuno yn y gweithgareddau, gan gynnwys Guto Harri yn rhoi llyfr i Boris Johnson; Prys Morgan yn rhoi ei hoff lyfr i'w frawd, Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan; Max Boyce yn cyflwyno llyfr i Lyn Ebenezer, Chris Needs i'w fab bedydd ac Angharad Mair i'w merched.
Wrth sôn am yr ymgyrch, dywedodd y Gweinidog Addysg, Jane Hutt: "Yn rhan o'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru, trefnwyd nifer o weithgareddau a digwyddiadau gwych eisoes, ac rwy'n siŵr y bydd yr ymgyrch ddiweddaraf hon yn allweddol i dynnu sylw at fanteision darllen. Ychydig wythnosau nôl, wrth lansio'r ymgyrch, dosbarthais dros 1,000 o lyfrau Stori Sydyn i aelodau'r cyhoedd. Rwyf yn annog unigolion o bob oedran i gymryd rhan yn yr wythnos a rhoi Llyfr yn Anrheg i ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr."
Gellir cael manylion pellach ynghylch sut y gall unigolion, cwmnïau a sefydliadau gymryd rhan yn yr ymgyrch drwy gysylltu â Chyngor Llyfrau Cymru neu drwy fynd i'r wefan ryngweithiol newydd www.blwyddyndarllengenedlaethol.org.uk
Astudiaethau achos
Merched y Wawr yn rhoi i elusen Cymorth i Fenywod
Mae mudiad Merched y Wawr wrth ei fodd gyda'r syniad o Wythnos Llyfr yn Anrheg ac mae aelodau Merched y Wawr wedi penderfynu cydweithio gyda Gwasg Honno i roi llyfrau i elusen Cymorth i Fenywod Cymru. Dywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr: "Rydym eisoes wedi cydweithio dipyn yn ystod y flwyddyn gyda Chymorth i Fenywod ac wedi codi ymwybyddiaeth o'r gwaith arbennig y maent yn ei gyflawni; yn ein Gŵyl Haf cyflwynwyd siec o £1,306.50 iddynt. Bydd yn hyfryd medru cyflwyno llyfrau plant Cymraeg a llyfrau dwyieithog gan Wasg Honno ddydd Mercher."
Bydd Jane MacNamee o Wasg Honno a Lynne Smith o elusen Cymorth i Fenywod yn ymuno â Tegwen i gyflwyno'r llyfrau yng Nghanolfan Genedlaethol Merched y Wawr. Dywedodd Tegwen: "Mae cymaint o'n haelodau wrth eu bodd yn darllen llyfrau, a nifer fawr yn prynu llyfrau fel anrhegion i'w ffrindiau. Mae'n dda gweld bod darllen yr un mor boblogaidd ag erioed a bod cynifer o lyfrau newydd yn cyrraedd silffoedd ein siopau."
Ysgol Gynradd Danygraig yn rhoi llyfrau i'r disgyblion sydd yn ymadael â'r ysgol
Ymhlith y digwyddiadau i nodi'r ffaith bod disgyblion Blwyddyn 6 yn gadael i ddechrau ar eu haddysg uwchradd, bydd Ysgol Gynradd Danygraig, Abertawe yn dathlu Wythnos Llyfr yn Anrheg trwy gyflwyno llyfrau i'r disgyblion.
Fel yr eglura Nigel Morgan, Pennaeth Ysgol Danygraig: "Cyflwynir thesawrws i bob disgybl. Bydd hynny yn parhau â'r thema yr ydym wedi'i hybu eleni i annog plant i ddefnyddio ‘disgrifiadau mwy anghyffredin' yn eu gwaith ysgrifenedig; i ymatal rhag defnyddio ystrydebau ac i roi penrhyddid i ddychymyg. Fel Pennaeth ac awdur llyfrau i ieuenctid rwyf wedi medru cynnal gweithdai ysgrifennu ar y pwnc hwn yn Nhanygraig ac mewn ysgolion eraill yn Abertawe. O ganlyniad mae plant ifanc wedi defnyddio ymadroddion fel ‘Mor lliwgar ag enfys betrol ar ffordd ddyfrllyd' neu ‘... roedd ei wyneb yn rhychiog a meddyliais am hen esgidiau garddio lledr fy Nhad-cu.'
Mae Danygraig hefyd yn rhedeg cynllun Teuluoedd yn Rhoi Llyfrau i deuluoedd roi llyfr i'w plant, wyrion, neiaint neu nithoedd. Pan fydd y plentyn wedi darllen y llyfr, caiff ei roi'n anrheg i lyfrgell yr ysgol ac mae tystysgrif sydd yn nodi enw'r teulu yn cael ei rhoi y tu mewn i'r llyfr. Dywed Nigel Morgan: "Mae'r cynllun yn sicrhau bod ein llyfrgell yn cael ei hailstocio'n rheolaidd, mae'n gyswllt gwerthfawr rhwng y gymuned a'r ysgol ac yn bennaf oll mae'n hybu pleser darllen."
"Rydym yn edrych 'mlaen yn fawr at gyflwyno'r llyfrau pan fydd disgyblion Blwyddyn 6 a rhai rhieni yn cymryd rhan mewn cyflwyniad yn Ysgol Gynradd Danygraig, Abertawe, ddydd Mawrth 8fed Gorffennaf."
Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon yn rhoi i Sambia
Bydd tîm o ddisgyblion o Ysgol Syr Hugh Owen yn cymryd anrhegion arbennig gyda hwy i Ysgol Itala yn y Sambia - casgliad o lyfrau am Gymru ar gyfer llyfrgell yr ysgol ac arian i brynu llyfrau ar gyfer y plant yno. Byddant yn cyflwyno'r llyfrau yn Sambia yn rhan o weithgareddau'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru.
Noddir y rhoddion gan Soroptimyddion Bangor a staff Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd. Dywedodd Tony Foster, yr athro a fydd yn arwain y tîm o Ysgol Syr Hugh Owen: "Mae disgyblion o Ysgol Syr Hugh wedi ymweld ag Itala ers nifer o flynyddoedd ac mae eu holl ymdrechion i wella'r cyfleusterau ar gyfer disgyblion yr ysgol honno yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Rwy'n siŵr y bydd y rhoddion hyn yn cael eu croesawu."
Ychwanegodd Hywel James, Prif Lyfrgellydd Cyngor Gwynedd: "Rydym ni fel staff y llyfrgell yn falch iawn o fedru cefnogi gwaith yr ysgol yn gwella darpariaeth llyfrgell Ysgol Itala ac i godi ymwybyddiaeth mewn rhan arall o'r byd am bwysigrwydd llyfrgell i ddatblygiad plant."
Accent Press yn rhoi i Corus
Yn ystod Wythnos Llyfr yn Anrheg, mae'r cyhoeddwyr annibynnol Accent Press, sydd wedi'u lleoli ym Medlinog, yn gweithio gyda Corus ac undeb Unite i lansio cynllun darllen dros yr haf.
Bydd y cyhoeddwyr yn dosbarthu 1,500 o lyfrau, gan gynnwys The Hardest Test gan Scott Quinnell a Life's New Hurdles gan Colin Jackson, ymhlith 5,000 o weithwyr Corus yn safleoedd y cwmni ar draws de Cymru.
Dywedodd Rheolwr-gyfarwyddwr Accent Press, Hazel Cushion: "Rydym yn falch o gydweithio â Corus ac i roi rhai o'n llyfrau i'w gweithlu. Mae darllen yn bwysig ar gyfer ymlacio yn ogystal ag yn y gweithle. Rydym yn gobeithio y bydd y gweithwyr yn cymryd rhan yn y cynllun, yn mynd â llyfr gyda nhw ar eu gwyliau haf, yn ei ddarllen a'i adolygu ac yna yn ei basio 'mlaen i'w cydweithwyr."
Sêr yn rhoi llyfrau
Guto Harri i Boris Johnson
Llyfr: Landscape Wales (Graffeg)
"Rhaid cyfaddef imi gael sioc pan agorodd Boris Johnson ddrws ei gartref imi gan ddatgan mewn acen ryfeddol o gadarn, ‘Noswaith dda'. Gwn iddo sefyll am sedd yng Nghlwyd rai blynydde'n ôl. Gwn am ei gariad at ieithoedd hynafol, ond mae'r cof sydd ganddo o eirie a chymalau Cymraeg yn syndod. Roedd wrth ei fodd o dderbyn y llyfr hefyd. Ar eu gorau, mae arfordir a mynyddoedd Cymru heb eu hail, ac mae'r llyfr hynod hwn yn cyfleu y swyn a'r harddwch yn deilwng iawn. Pen blwydd hapus, Mr Maer."
Glan Davies i Max Boyce
Llyfr: Stephen Jones – O Clermont i Nantes (Y Lolfa)
"Mae'r syniad o gael wythnos arbennig ar gyfer rhoi llyfr yn rhodd yn un gwych. Mae llyfrau yn anrhegion delfrydol – mae nhw'n hwylus i'w trafod, ac yn ddifyr i bori ynddyn nhw neu i'w darllen ar un eisteddiad. Fel un o ddilynwyr brwd ein tîm rygbi cenedlaethol, rwy'n gwybod y bydd Max yn gwerthfawrogi derbyn hunangofiant Stephen Jones – un o'n cewri ar faes y bêl hirgron, a chwaraewr medrus sydd â chysylltiadau ag ardal Aberystwyth."
Iolo Williams i Jane Davidson AC
Llyfr: Llyfr Natur Iolo (Gwasg Carreg Gwalch)
"Mae gan Gymru gyfoeth anhygoel yn ei hamrywiol gynefinoedd a dwi'n siŵr bod Jane Davidson, y Gweinidog sy'n gyfrifol am faterion sy'n ymwneud â chefn gwlad Cymru, yn cytuno â mi mai un ffordd o ddiogelu ein bywyd gwyllt a'n hetifeddiaeth gyfoethog yw drwy rannu gwybodaeth am y pwnc, yn enwedig ymysg plant a phobl ifanc. Dyna yw nod Llyfr Natur Iolo ac mae'n bleser gennyf gyflwyno copi i Jane Davidson."
Dai Jones i Kate O'Sullivan
Llyfr: O'r Tir i'r Tŵr gan Charles Arch (Gwasg Gwynedd)
"Hoffwn roi i Kate O'Sullivan, milfeddyg ifanc o Wyddeles sy'n byw yn Llandre, Ceredigion, ac sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, hunangofiant fy nghyfaill, Charles Arch. Mae O'r Tir i'r Tŵr yn gofnod bywiog a lliwgar o fywyd gwladwr amryddawn sydd wedi gwasanaethu ei fro enedigol, a byd amaethyddiaeth yn arbennig, mewn modd anrhydeddus iawn."
Maureen Rhys i John Gwilym Jones
Llyfr: Straeon Gwerin Ardal Eryri (Cyfrol 1) gan John Owen Huws (Gwasg Carreg Gwalch)
"Mewn ychydig eiriau (dros dro yn unig), John, hoffwn gyflwyno'r gyfrol hon i chi fel arwydd o'm gwerthfawrogiad a'm parch tuag atoch. Gan eich bod yn ymadael â Bangor wedi deugain mlynedd o weinidogaethu ym Mhendref, doedd dim rhaid pendroni dros y dewis, a chan mai Eryri yw fy ardal enedigol i, dyma anfon i chi gyfrol, y gyntaf o dair gan y diweddar John Owen Huws – Straeon Gwerin Ardal Eryri. Does dim rhaid rhoi dim oll i'ch atgoffa chi o'r bobl a'r ardal, mi wn i hynny. Y cynnwys difyr a diwyg y gyfrol aeth â'm bryd i. Talp o Eryri rhwng dau glawr. Derbyniwch y gyfrol hon, John, fel arwydd o'm diolch am eich gofal bugeiliol diflino."
Rhodri Meilir i'w ddarpar nith/nai
Llyfr: Llyfr Mawr y Plant - Goreuon y Pedair Cyfrol, gan Jennie Thomas a J. O. Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
"Cyn pen dim mi fydda i'n ewythr am y tro cyntaf gan fod fy chwaer, Alwena, ar fin dod yn fam. Un o'r llyfrau ddaeth a llawer o fwynhad i mi fel plentyn oedd Llyfr Mawr y Plant, gyda'i straeon am anturiaethau cymeriadau lliwgar megis Wil Cwac Cwac, Siôn Blewyn Coch, Ifan Twrci Tena a Martha Plu Chwithig. Er na fydd y bychan yn barod i'r byd cyn canol Medi, rwyf am gyflwyno'r campwaith yn ystod Wythnos Llyfr yn Anrheg gan fod darllen i'r chwydd yn llesol i'r baban (ac mi all gynorthwyo ymgais ei dad i feistroli'r famiaith)! Gobeithio y caiff y bychan yr un pleser a gefais i wrth wrando ar fy rhieni yn adrodd yr hanesion, ac efallai y caiff gyfle i fwynhau sioe Bara Caws tua'r hydref. Er, dwi'm yn siŵr pa mor hapus fydd y cast wrth gystadlu gyda pheiriant sgrechian."
Angharad Mair i Tanwen ac Efa, ei merched
Llyfr: Barti Smarti a Straeon a Cherddi Eraill gan Caryl Parry Jones (Gwasg Gomer)
"Rwy wedi dewis rhoi llyfr newydd Caryl Parry Jones, Barti Smarti, i fy nwy ferch, Tanwen ac Efa. Mae'n gyfrol hardd o straeon, cerddi a baledi sy'n rhoi dewis i blentyn, o fewn un llyfr, beth i'w ddewis cyn mynd i gysgu – stori neu gerdd. Wrth annog y plant i ddarllen, mae'n haws ambell waith i'w perswadio i afael mewn llyfr swmpus llawn lluniau lliw. Mae e hefyd yn eu denu i fwynhau cerddi ac wrth wneud hynny, fwynhau sŵn geiriau newydd. Mae'r CD yn handi iawn yn y car yn ogystal!"
Alun Wyn Bevan i Glan Davies
Llyfr: Cyfres y Cymoedd – Cwm Aman, golygwyd gan yr Athro Hywel Teifi Edwards (Gwasg Gomer)
"Hoffwn gyflwyno Cwm Aman i Glan Davies, neu Glan Pant-y-dŵr fel fydde pawb yn y Gwter Fawr (yr hen enw am Frynaman) yn ei nabod e. Bellach mae e'n frodor o Aberystwyth ond mae yna barch mawr iddo yn Nyffryn Aman am ei gyfraniad i fyd y ddrama ac adloniant ysgafn. Datblygwyd ei dalent gan ddau o'r hoelion wyth, Elfyn Talfan Davies ac Eic Davies, ac mae'r bennod am ddatblygiad y ddrama yn y llyfr yn siŵr o'i atgoffa am y dyddiau da hynny."
Prys Morgan i Rhodri Morgan
Llyfr: Argraffiad newydd o The Rebecca Rioter (1880) gan Amy Dillwyn (Honno)
"Roedd Amy Dillwyn yn gyfeilles i Emma Morgan, a oedd yn byw yn y tŷ ym Mro Gŵyr lle rwyf i'n byw. Byddai'n cerdded ar draws y caeau o West Cross i chwarae cardiau yma, ac yn rhoi sioc i'r boneddigesau mwyaf llednais trwy ysmygu sigâr. Bu ei thad a'i hewyrth yn gyfrifol yn 1843 am ddal un o arweinyddion helynt y Beca, ac ychydig wythnosau ynghynt yr oedd ein cyndadau ni o Gwmcile, Llangyfelach, Morgan Morgan a'i wraig a'i deulu, wedi eu carcharu am eu rhan yn helynt y Beca. Byddem ein dau'n clywed yr hanes gan ein tylwyth ac mi wn fod yr helynt wedi bod yn ysbrydoliaeth i Rodri yn ei yrfa."
Hywel Gwynfryn i Rhys Jones
Llyfr: Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard (Y Lolfa)
"Mi a i ofyn i Fam Huw gaiff o ddwad allan i chwara. Gaiff Huw ddwad allan i chwara, O Frenhines y Llyn Du?" Geiriau agoriadol nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad. Fe'i disgrifiwyd fel un o glasuron yr iaith Gymraeg ac un o'r nofelau gorau mewn unrhyw iaith. Pa ryfedd felly fy mod i'n cael pleser mawr yn ei hailddarllen am y tro cyntaf ers dyddiau ysgol, a hynny mewn argraffiad newydd gan wasg y Lolfa? Fe hoffwn i anfon copi o'r nofel yma i Brestatyn, i gartre Rhys Jones, darlledwr, arweinydd, hyfforddwr a ffrind."
Beti George i Gwyn Llewelyn
Llyfr: Paradwys gan Wiliam Owen Roberts (Barddas)
"Fel Cymraes dda, mae gennyf dri rheswm am y dewis. Mae'n epig o nofel ar destun sy'n dal i fod mor amserol ag erioed - cyfalafiaeth, gelyn cyfiawnder. Mae hi mor ddarllenadwy - gan sgrifennwr penigamp. 'Sdim angen llenwi'r cês â llyfrau – fe wnaiff hwn bara am wythnos!
Dw' i am roi'r gyfrol yn anrheg i Gwyn Llewelyn - yn hytrach na mynd o gwmpas y byd mor aml yn chwilio am ei baradwys, fe allaf ei sicrhau y daw e o hyd iddi heb symud o'i gadair esmwyth gartre!"
Lyn Ebenezer i Alun Wyn Bevan
Llyfr: Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif, golygwyd gan Gwynn ap Gwilym ac Alan Llwyd (Gwasg Gomer)
"Pan ofynnwyd i mi ddewis llyfr i'w gyflwyno i gyfaill dewisais Alun Wyn Bevan fel yr un i dderbyn y rhodd, a phenderfynais ar unwaith na wnawn ddewis llyfr ar rygbi. Fe fyddai'n amhosibl dewis cyfrol ar rygbi i Alun gan fod ganddo eisoes, rwy'n siŵr, bob cyfrol a gyhoeddwyd ar y gamp. Ond mae Alun yn llawer mwy na dyn rygbi. Mae ganddo ddiddordeb byw ymhob agwedd ar ddiwylliant ei genedl, a dyma felly ddewis Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif iddo. Fe'i cyflwynaf iddo fel arwydd o barch ac i ddiolch am ei gymorth gwerthfawr pan weithiai'r ddau ohonom i gwmni teledu Tinopolis yn Llanelli am bum mlynedd."
M. Wynn Thomas i'w ferch Elin Manahan Thomas
Llyfr: Mr Cassini gan Lloyd Jones (Seren)
"Yn Mr Cassini fe awn ar daith ddirgel drwy seicoddaearyddiaeth ryfeddol chwedlau a hanes Cymru. Mae'r nofel afaelgar hon yn canolbwyntio ar ymgyrch unigolyn i ddarganfod ei hun, gan ddilyn hynt y troi a'r troelli a'r anturiaethau annisgwyl a geir mewn meddwl sy'n crwydro. Dyma nofel a fydd yn agoriad llygad i unrhyw un sydd eisiau deall tynged gymhleth bod yn Gymro neu'n Gymraes."
Max Boyce i Lyn Ebenezer
Llyfr: Cyfaill neu Gaethwas? – Ceffylau'r Pyllau gan Ceri Thompson (Amgueddfa Cymru)
"Rai wythnosau nôl cefais lyfr yn anrheg gan ffrind ac felly rwy'n achub ar y cyfle, yn ystod Wythnos Llyfr yn Anrheg, i roi copi o Cyfaill neu Gaethwas? Ceffylau'r Pyllau Glo i'r ffrind hwnnw, sef Lyn Ebenezer o Bontrhydfendigaid. Llyfr yw hwn sy'n rhoi hanes y ceffylau a oedd yn treulio eu hoes yn gweithio dan ddaear yn y gweithfeydd glo. Gwn y bydd Lyn yn gwerthfawrogi cael darllen hanes yr anifeiliaid hynod hyn."
Chris Needs i'w fab bedydd Sam
Llyfr: Geiriau Anifeiliaid/First Animal Word Book in Welsh and English gan Edwina Riddell (Dref Wen)
"Yr wyf wrth fy modd yn treulio amser yng nghwmni fy mab bedydd bychan, Sam. Mae rhannu llyfr gyda phlentyn teirblwydd oed wastad yn brofiad arbennig iawn … ac mae'n gymaint o hwyl! Mae llyfrau yn ffordd wych o gynyddu ei eirfa, yn Gymraeg a Saesneg, ac rwyf wedi dewis llyfr lluniau lliwgar, dwyieithog ar ei gyfer. Felly, Sam, y llyfr nesaf y byddwn yn ei ddarllen gyda'n gilydd fydd Geiriau Anifeiliaid: First Animal Word Book in Welsh and English. Rwy'n gwybod y byddi di'n ei fwynhau ... a minnau hefyd!"
Tori James i'w chwaer Liv
Llyfr: Sugar & Slate gan Charlotte Williams (Planet)
"Pan fyddaf eisiau rhannu rhywbeth Cymreig, gyda fy chwaer Liv y byddaf yn gwneud hynny gan amlaf. Boed yn ganlyniad gêm rygbi, cerddoriaeth Gymreig, rhaglen deledu neu, fel yn yr achos hwn, llyfr da, byddaf yn siŵr o ffonio Liv neu anfon e-bost ati. Mae'n chwaer imi, ond hi hefyd yw fy ffrind gorau. A ninnau'n byw bywydau prysur, mae'r ddwy ohonom yn dewis ymlacio drwy ddarllen, ac ers inni ymgartrefu mewn dinasoedd sydd â diwylliannau cwbl wahanol yr ydym wedi cymryd mwy a mwy o ddiddordeb mewn hunaniaeth ddiwylliannol. Yr wyf wedi dewis Sugar & Slate gan Charlotte Williams ar ei chyfer oherwydd dyma'n union y math o lyfr y byddai ganddi ddiddordeb ynddo. Joia'r darllen, Liv!"
Glyn Davies i'r Arglwydd Emlyn Hooson
Llyfr: Bro a Bywyd/His Life, His Land: Kyffin Williams, golygwyd gan David Meredith a Dafydd Llwyd (Barddas)
"Yr oedd Syr Kyffin Williams yn ddyn a oedd yn gwbl ymroddedig i'r bobl yr oedd yn byw yn eu plith ac i'w filltir sgwâr. Nid oedd pawb yn cytuno â'i safbwyntiau, ond ni allai neb amau ei ymroddiad. Yr wyf wastad wedi synio am yr Arglwydd Hooson yn yr un modd. Efallai fod Emlyn a minnau yn cefnogi athroniaethau gwleidyddol gwahanol, ond yr ydym yn rhannu'r un cariad at Sir Drefaldwyn a'i phobl."
|