|
Lansio Ymgyrch Wythnos Llyfr yn Anrheg!
Ddydd Iau, 19 Mehefin 2008, cynhaliwyd lansiad swyddogol Wythnos Llyfr yn Anrheg gan y Gweinidog Dros Addysg, Jane Hutt – wythnos gyfan o weithgareddau rhwng 7–12 Gorffennaf, 2008. Yn ystod y lansiad, a gynhaliwyd ym mhrysurdeb Heol y Frenhines yng Nghaerdydd, cyflwynodd y Gweinidog gwerth £1,000 o lyfrau i Apêl Arch Noa (Ysbyty Plant Cymru). Derbyniodd y Gweinidog gymorth staff Cyngor Llyfrau Cymru wrth ddosbarthu copïau am ddim o lyfrau Stori Sydyn i aelodau'r cyhoedd a aeth heibio.
Mae'r ymgyrch, a drefnir fel rhan o'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru, yn annog pobl ledled Cymru i roi llyfr yn anrheg i'w teuluoedd, ffrindiau a chyd-weithwyr er mwyn rhannu'r pleser a geir o ddarllen.
Dywedodd Delyth Humphreys, Cydlynydd y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru: "Mae'r ymgyrch hon wedi llwyddo i ddod ag amrywiaeth helaeth o bartneriaid yng Nghymru ynghyd, gan amrywio o gwmnïau preifat sydd yn ceisio gwella sgiliau eu gweithwyr i grwpiau gwirfoddol a sefydliadau sydd yn bwriadu rhoi llyfrau i'w gilydd. Rydym yn rhag-weld y bydd yr ymateb yn wych wrth i bobl rannu'r pleser o ddarllen trwy roi llyfrau i'w ffrindiau yn ystod yr wythnos."
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Dros Addysg: "Rwy'n hynod o falch o lansio'r ymgyrch hon a fydd yn tynnu sylw at sut y gall darllen agor drysau i lu o gyfleoedd i unigolion a'u teuluoedd. Mae gweithgareddau'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol eisoes wedi annog plant i godi llyfr ac wedi rhoi cyfleoedd darllen i blant sydd yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd pobl o bob oedran yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ac yn rhoi llyfr i'w teuluoedd, ffrindiau neu gyd-weithwyr yn ystod yr wythnos."
Wrth dderbyn y llyfrau oddi wrth y Gweinidog ar ran Apêl Arch Noa, dywedodd Jasmine Aherne: "Rydym yn hynod o falch bod y Gweinidog yn cefnogi'r cynllun hwn. Mae darllen yn bwysig i blant, o ran dysgu ac ysgogi eu dychymyg – mae'r agwedd olaf yn arbennig o werthfawr mewn ysbyty, lle gall llyfr fynd â phlentyn sydd yn sâl i fyd newydd cyffrous."
Bydd y lansiad yn ddechrau i'r ymgyrch, a fydd ar ei hanterth yn ystod yr wythnos 7–12 Gorffennaf, gyda llu o weithgareddau'n cael eu trefnu ar draws Cymru. Dywed Delyth, "Rydym yn gweithio gyda siopau llyfrau, llyfrgelloedd, ysgolion a'r sector gwirfoddol, yn ogystal â'r gymuned fusnes, i hyrwyddo'r Wythnos Llyfr yn Anrheg yng Nghymru. Rydym yn falch bod cymaint o unigolion a grwpiau yn awyddus i gymryd rhan. Mae rhannu eich hoff lyfr gyda rhywun yn weithgaredd sydd yn wirioneddol yn dod â phobl a chymunedau at ei gilydd."
Mae Max Boyce, Iolo Williams, Angharad Mair, Rhodri Meilir a Prys Morgan eisoes wedi dweud eu bod am roi llyfr – mae pob un ohonynt yn barod i rannu eu hoff lyfr gyda'u cyd-weithwyr a'u ffrindiau. Gall unigolion, cwmnïau a sefydliadau gael gwybodaeth bellach am sut i gymryd rhan yn y cynllun trwy gysylltu â Chyngor Llyfrau Cymru, y sefydliad sy'n gyfrifol am gydlynu'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru, neu drwy fynd i'r wefan ryngweithiol newydd www.blwyddyndarllengenedlaethol.org.uk
|