National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 

Y Barri a Llanelli i arwain Cymru fel ‘Trefi Darllen'

Dewiswyd dwy o drefi Cymru ar gyfer her ddarllen arbennig fel rhan o Flwyddyn Darllen Genedlaethol 2008 yng Nghymru a bydd y ddwy yn cael £20'000 yr un i hyrwyddo'r ymgyrch ddarllen yn eu hardal leol.

Wedi i awdurdodau lleol gyflwyno ceisiadau cynhaliwyd proses ddethol drylwyr' a dewiswyd cymunedau'r Barri ym Mro Morgannwg a Llanelli yn Sir Gaerfyrddin i arwain y ffordd yng Nghymru. Bydd yr 20 awdurdod lleol arall yn cael £500 yr un i drefnu eu hymgyrchoedd cymunedau'n darllen.

Yn ystod yr ymgyrch trefi'n darllen, a arloeswyd yn America, bydd y ddwy gymuned yn dewis eu teitlau Cymraeg a Saesneg eu hunain i'w hyrwyddo ledled yr ardal. Yna, trefnir rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau i annog y cyhoedd i ddarllen a thrafod y llyfrau unigol.

Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, sydd yn cydlynu'r Flwyddyn yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru: "Derbyniasom nifer o geisiadau gan awdurdodau lleol a oedd yn amlinellu eu cynlluniau i fod yn drefi darllen arweiniol. Roedd y ceisiadau yn cynnwys toreth o gynigion diddorol i godi ymwybyddiaeth am fanteision darllen ac i annog pobl o bob oedran a chefndir i estyn am lyfr ac i fwynhau'r pleser o ddarllen."

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Addysg: "Mae datganiad heddiw yn newyddion gwych i'r ddwy dref, gan y bydd yn eu galluogi i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau i ysgogi pobl o bob oedran i godi llyfr. Mae darllen yn un o sgiliau hanfodol bywyd, a chan y bydd cymaint o ddigwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru fel rhan o'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol, rwy'n siŵr y bydd llawer mwy o bobl yn sylweddoli'r mwynhad a'r pleser y gellir eu cael o'r gair ysgrifenedig."

Bydd y Barri a Llanelli, o dan arweiniad cydlynwyr lleol, bellach yn lansio rhaglenni o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol i annog pobl yn eu cymunedau lleol i ymuno â'r ymgyrch.

Wrth sôn am eu llwyddiant dywedodd Dewi Thomas, Prif Swyddog Llyfrgelloedd a Threftadaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin: "Rydym yn hynod o falch bod Llanelli wedi cael ei dewis fel un o Drefi Darllen y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru' yn enwedig gan fod gennym lyfrgell brysur a mawr ei bri yn Llanelli fel canolbwynt i nifer o'r gweithgareddau."

"Mae'r cydlynydd lleol a staff y llyfrgell yn trefnu calendr llawn o weithgareddau ar gyfer pob oedran a grŵp yng nghymunedau ardal Llanelli, a bydd y cyllid sydd wedi'i ddyrannu i ni yn sicrhau y gallwn hwyluso darllen i bawb. Rydym yn edrych 'mlaen at weithio gydag ysgolion, cartrefi preswyl, cymdeithasau llenyddol lleol a chanolfannau cymunedol y sir, yn ogystal â cheisio denu sêr fel y Scarlets i gymryd rhan."

"Yn ystod mis Medi a Hydref eleni, bydd digonedd o gyfle i bobl leol gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a fydd yn amrywio o ymuno â grŵp darllen i bleidleisio dros hoff lyfrau'r sir. Rydym yn gobeithio y bydd y gweithgarwch a'r wefr a gynhyrchir yn Sir Gaerfyrddin yn lledaenu i siroedd eraill ledled Cymru ac yn cyfrannu at drafodaeth genedlaethol ar bwysigrwydd darllen."

Dywedodd Siân Jones, Prif Lyfrgellydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rydym yn falch iawn bod ein cais i gymryd rhan ym menter Trefi'n Darllen wedi bod yn llwyddiannus. Mae hwn yn gyfle gwych i ddathlu'r Flwyddyn Darllen yng Nghymru ac i lunio rhaglen o weithgareddau i ddarllenwyr y Barri a Bro Morgannwg." 

"Byddwn yn cynllunio nifer o brosiectau, gan gynnwys prosiect ysgrifennu creadigol a phrosiect celf gan ddefnyddio themâu'r llyfrau a ddewisir. Rydym yn bwriadu cynnal penwythnos mawr o ddigwyddiadau yn yr hydref yn Llyfrgell newydd y Sir yn y Barri lle y gall pobl ddod ynghyd i fwynhau rhaglen o ymweliadau gan awduron, gweithdai, a gweithgareddau eraill a fydd yn canolbwyntio ar ddarllenwyr. Dathlu darllen yw ein nod yn syml."

Bydd y ddwy Dref Darllen yn cydweithio'n agos gyda Chyngor Llyfrau Cymru i gyfrannu at weithgareddau cyffredinol y Flwyddyn Darllen yng Nghymru. Dywedodd Delyth Humphreys, Cydlynydd y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru: "Rydym yn awyddus i ddechrau gweithio gyda Llanelli a'r Barri ac roeddem yn falch iawn o glywed am rai o'u cynlluniau cyffrous i gynnwys y cyhoedd – mae'n argoeli'n wych i bawb!"

Am ragor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau ac i dynnu lluniau cysylltwch ag Alwena Hughes Moakes ar 01970 636429, 07875 738555 neu alwena@fbagroup.co.uk

Blwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru: Yn ddiweddar dynododd Llywodraeth Cynulliad Cymru 2008 yn Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru, er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd darllen a llythrennedd ymhlith pobl Cymru.

Gwahoddwyd Cyngor Llyfrau Cymru i gydlynu'r flwyddyn yng Nghymru ac mae'n cydweithio â nifer o bartneriaid allweddol, yn enwedig y gwasanaethau addysg a llyfrgelloedd yn ogystal â'r sectorau gwirfoddol a busnes.

Mae'r Cynulliad wedi buddsoddi mwy na £350,000 dros ddwy flynedd ar gyfer y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru.

www.blwyddyndarllengenedlaethol.org.uk

  __  

  {(}
{)}