Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

Y Diwydiant Llyfrau yn barod i wynebu her Blwyddyn Darllen 2008

'Mae'r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant llyfrau yng Nghymru wedi gosod sylfaen gadarn ar gyfer cynnal Blwyddyn Darllen Genedlaethol lwyddiannus yng Nghymru y flwyddyn nesaf,' meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, wrth annerch Cyfarfod Blynyddol y Cyngor yn Aberystwyth.

Cynhaliwyd y Flwyddyn Darllen ddiwethaf yng Nghymru ddeg mlynedd yn ôl yn 1998 ac fe fu'n fodd llwyddiannus iawn o ddatblygu sgiliau llythrennedd a hybu darllen. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwahodd y Cyngor Llyfrau unwaith yn rhagor i arwain yr ymgyrch, gan gydweithio â nifer o bartneriaid addysgol, y fasnach lyfrau, sefydliadau amrywiol, ynghyd â'r sectorau busnes a gwirfoddol.

'Roedd yn fraint i'r Cyngor Llyfrau dderbyn y gwahoddiad hwn,' meddai Gwerfyl Pierce Jones, 'ac fe fyddwn yn edrych ymlaen at gydweithio â nifer fawr o bartneriaid i roi sylw i lyfrau ac i hybu diddordeb mewn darllen.'

Pwysleisiodd Gwerfyl Pierce Jones fod datblygiadau aruthrol wedi digwydd yn y diwydiant llyfrau ers y Flwyddyn Darllen Genedlaethol ddiwethaf, gan gynnwys ehangu ystod y cynnyrch a gwella safon cynhyrchu a hyrwyddo.

Wrth gyfeirio at rai o'r datblygiadau sydd wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf, nododd fod tîm Gwerthu a Marchnata'r Cyngor wedi ei ad-drefnu er mwyn cynyddu'r sylw i lyfrau o Gymru ac fe sefydlwyd Adran Gwasanaethau Gwybodaeth newydd i sicrhau bod yr wybodaeth am y cynnyrch yn gywir a chyfredol.

Un canlyniad i'r newidiadau hyn oedd cynnydd o 10% yng ngwerthiant llyfrau o Gymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

'Rydym yn ddiolchgar iawn i'r cyhoeddwyr am eu hymrwymiad diflino i'r diwydiant llyfrau,' meddai, 'ac mae'r cynnydd yn y gwerthiant yn arwydd o safon eu cynnyrch ac o'r ystod eang o lyfrau deniadol ac apelgar a gyhoeddir ganddynt. Cafwyd cyfle yn ddiweddar i anrhydeddu nifer ohonynt yn ystod seremoni i gyflwyno Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi.'

Cyfeiriodd hefyd at bwysigrwydd y rhwydwaith o siopau llyfrau annibynnol sy'n asgwrn cefn i'r diwydiant yng Nghymu, yn ogystal â llongyfarch cwmni Borders ar agor siop ysblennydd yng nghanol Caerdydd. Agorwyd y siop ym mhresenoldeb Rhodri Glyn Thomas AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth.

Dywedodd yr Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau: 'Fe fu'n flwyddyn o ddatblygiadau cyffrous i'r Cyngor Llyfrau a chyda chefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad fe fydd y diwydiant yn parhau i gyhoeddi amrywiaeth o gynnyrch safonol ar gyfer y darllenwyr. Gallwn ymfalchïo bod y diddordeb cynyddol mewn llyfrau o Gymru, yn y ddwy iaith, yn arwydd o'r hyder newydd yn ein treftadaeth lenyddol.'