|
Dwayne Peel yn cefnogi Clwb Sbondonics
Roedd Dwayne Peel yn falch o gael ymuno â'r Cyngor Llyfrau i ddathlu pen blwydd Clwb Llyfrau Sbondonics yn 25 oed. Mae Dwayne yn cofio'n dda am y dyddiau pan oedd yntau'n hogyn ysgol ac yn edrych ymlaen bob tymor at gael llyfrau newydd i'w darllen.
Hyd yn oed yng nghanol ei holl brysurdeb o baratoi gyda thîm Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc, cafodd Dwayne gyfle i anfon cyfarchiad personol at holl aelodau'r Clwb.
'Clwb Llyfrau Sbondonics – y clwb llyfrau Cymraeg gorau yn y byd,' meddai Dwayne. 'Roeddwn i wrth fy modd yn prynu llyfrau trwy Sbondonics pan oeddwn yr un oed â chi.'
Fel rhan o'r dathliadau, bydd yr holl aelodau sy'n prynu llyfrau drwy'r Clwb yn derbyn pasbort arbennig gyda'u harcheb, gyda chyfle i ennill gwobrau gwych wrth archebu llyfrau. Mae nifer o awduron amlwg Cymru, gan gynnwys T. Llew Jones, Mair Wynn Hughes ac Emily Huws, hefyd yn cefnogi'r clwb ac mae eu llofnod i'w gweld ar y pasbort.
'Mae plant, rhieni ac athrawon yn cael budd mawr o'r clwb, ac mae'n wych ei weld yr un mor boblogaidd heddiw ag yr oedd 25 mlynedd yn ôl,' meddai Delyth Humphreys, swyddog y clybiau gyda'r Cyngor Llyfrau.
Yn ogystal â threfnu Clwb Sbondonics, mae'r Cyngor Llyfrau hefyd yn cynnal clwb ar gyfer plant 4–7 oed, sef Sbri-di-ri, gyda thaflenni'n cael eu dosbarthu i ysgolion ledled Cymru. Eleni, am y tro cyntaf, fe ychwanegwyd taflen Sbri-di-ri Meithrin i sicrhau dewis da o lyfrau ar gyfer y plant lleiaf.
|