Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

Enillwyr Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi 2007

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi yng Nghymru gan Gyngor Llyfrau Cymru mewn seremoni arbennig yn Aberystwyth nos Sadwrn. Cynhaliwyd cinio'r Gwobrau yn y Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o raglen dathliadau canmlwyddiant y Llyfrgell yng nghwmni Rhodri Glyn Thomas AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth.

Yn ystod y seremoni, fe gyflwynwyd cyfanswm o 18 o wobrau am lyfrau a gyhoeddwyd yn 2005 a 2006, i'r llyfrau a werthodd orau – yn llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o Gymru mewn amrywiol gategorïau. Roedd gwobrau hefyd i'r llyfrau a fenthyciwyd amlaf o lyfrgelloedd, yn ogystal â gwobrau am ddylunio a chynhyrchu. Comisiynwyd y gwobrau unigol gan yr artist o Gaerdydd, Carwyn Evans, enillydd Gwobr Ifor Davies yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

'Bu'r seremoni yn gyfle i gydnabod gwaith y prif gyhoeddwyr yma yng Nghymru ac i anrhydeddu'r rhai a ddaeth i'r brig,' meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau. 'Mae'r gwobrau yn adlewyrchu ystod eang y deunydd a gyhoeddir yng Nghymru y dyddiau hyn, yn ogystal â chydnabod safon uchel y cynnyrch. Llwyddiant yr elfennau hyn, ynghyd â nawdd ariannol Llywodraeth y Cynulliad, sydd wedi sicrhau bod y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru wedi datblygu cymaint yn y blynyddoedd diwethaf.'

Ategwyd hyn gan Rhodri Glyn Thomas, a ddywedodd: 'Roedd yn bleser cael bod yn bresennol mewn seremoni i gydnabod gwaith y cyhoeddwyr ac mae safon y llyfrau yn cael ei hadlewyrchu yn y cynnydd yng ngwerthiant llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o Gymru. Mae gennym draddodiad llenyddol cryf yma yng Nghymru ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn falch o gael cefnogi'r diwydiant llyfrau gan gynorthwyo i ddarparu deunydd darllen o'r safon uchaf ar gyfer darllenwyr y dyfodol.'

Darlledir uchafbwyntiau'r seremoni wobrwyo ar raglen Wedi 7, nos Lun, 5 Tachwedd.

Enillwyr Gwobrau Llyfrau Cymraeg:
GWERTHWR GORAU FFUGLEN
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd
Darnau, Dylan Iorwerth

GWERTHWR GORAU AC EITHRIO FFUGLEN
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Gwynfor: Rhag Pob Brad, Rhys Evans

GWERTHWR GORAU BARDDONIAETH
Cyhoeddwr: Gomer
Geiriau a Gerais, T. Llew Jones

GWERTHWR GORAU PLANT
Cyhoeddwr: Gomer
Un Tedi Mas o’r Gwely, Julia Donaldson

LLYFR A FENTHYCIWYD AMLAF O LYFRGELL
Cyhoeddwr: Gomer
Rara Avis, Manon Rhys

DYLUNIO A CHYNHYRCHU
Cyhoeddwr: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
Y Golygiadur, Rhiannon Ifans

LLYFR DARLUNIADOL
Cyhoeddwr: Gomer
Y Mynydd Hwn

DYLUNIO A CHYNHYRCHU (PLANT)
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Bili Boncyrs a’r Gêm Bêl-droed, Caryl Lewis/Gary Evans

CYNLLUN CLAWR GORAU’R NADOLIG
Cyhoeddwr: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
Hogan Mam, Babi Jam, Emily Huws

Enillwyr Gwobrau Llyfrau Saesneg:
GWERTHWR GORAU FFUGLEN
Cyhoeddwr: Parthian
The Colour of a Dog Running Away, Richard Gwyn

GWERTHWR GORAU AC EITHRIO FFUGLEN
Cyhoeddwr: Crown House
Imperfectly Natural Woman, Janey Lee Grace

GWERTHWR GORAU BARDDONIAETH
Cyhoeddwr: Seren
Letter to Patience, John Haynes

GWERTHWR GORAU PLANT
Cyhoeddwr: Gomer
The Midwinters, Julie Rainsbury

LLYFR A FENTHYCIWYD AMLAF O LYFRGELL
Cyhoeddwr: Accent
Secrets, Lynne Barrett-Lee

DYLUNIO A CHYNHYRCHU
Cyhoeddwr: Seren
Cecil and Noreen, Patrick Corcoran

LLYFR DARLUNIADOL
Cyhoeddwr: Seren
Return Yn Ôl, Rhodri Jones

DYLUNIO A CHYNHYRCHU (PLANT)
Cyhoeddwr: Pont Books
Dark Tales from the Woods, Daniel Morden

CYNLLUN CLAWR GORAU’R NADOLIG
Cyhoeddwr: Seren
Blue Sky July, Nia Wyn

Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Elwyn Jones:
01970 624151 / 07711329448
Cyngor Llyfrau Cymru