Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

Jacqueline Wilson yn ymweld ag Aberystwyth

Bydd yr awdur llyfrau plant poblogaidd, Jacqueline Wilson, yn ymweld ag Aberystwyth ddechrau Gorffennaf, fel rhan o gystadleuaeth llyfrau y Cyngor Llyfrau.

Cynhelir y gystadleuaeth llyfrau Cymraeg yn flynyddol, gydag ysgolion ledled Cymru'n cystadlu. Bydd y disgyblion wedi paratoi cyflwyniad o gyfrol benodol a fydd yn cael ei feirniadu gan Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru. Byddant hefyd yn trafod llyfr arall o’u dewis yng nghwmni Gareth Jones, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cymunedol, Cyngor Sir Ceredigion. Noddir gwobrau'r gystadleuaeth gan Dr Dewi Davies.

Mae plant Cymru'n gyfarwydd iawn â llyfrau Jacqueline Wilson, gan gynnwys y cyfrolau Candi-Fflos a Ffrindiau Gorau, a addaswyd i'r Gymraeg gan Elin Meek (Gwasg Gomer). Bydd y plant felly’n sicr o fwynhau’r cyfle i ymweld â Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ddydd Mercher, 4 Gorffennaf, i gyfarfod â'r awdur a’i chlywed yn trafod ei gwaith. Bydd yna gyfle hefyd i'r plant glywed awduron eraill yn trafod eu gwaith – sef Elgan Philip Davies, Anwen Francis a Rhian Pierce Jones.

Mae llyfrau Jacqueline Wilson megis The Story of Tracy Beaker, The Suitcase Kid a Totally Cool School Diary wedi dod â sylw rhyngwladol iddi, ynghyd â nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Smarties. Hyd yn ddiweddar, hi oedd Laureate Plant Prydain. Mae ei llyfrau wedi gwerthu dros 20 miliwn o gopïau ym Mhrydain yn unig.

‘Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu denu Jacqueline Wilson i Aberystwyth. Mae’r cyfieithiadau Cymraeg o’i llyfrau yn hynod boblogaidd, ac fe fydd yn gyfle gwych i blant a rhieni ei chyfarfod,’ meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau. ‘Bydd yn ddiwrnod i'w gofio i ni gyd.’

Gwahoddwyd ysgolion lleol i'r achlysur ac mae yna groeso cynnes i unrhyw un ddod draw i gefnogi'r plant ac i glywed Jacqueline Wilson yn trafod ei gwaith drwy gysylltu ag Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau ar 01970 624151.