Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

Bae Caerdydd yn Disodli Mayfair

Mae enwau fel Mayfair, Park Lane a Bond Street, ynghyd â nifer o strydoedd eraill Llundain, yn hen gyfarwydd i filoedd o blant ac oedolion sydd wedi mwynhau chwarae'r gêm Monopoly.

Ond y Nadolig hwn, fe fydd enwau rhai o drefi a dinasoedd Cymru yn cael yr un sylw, wrth i'r fersiwn Monopoly yn Gymraeg gael ei gynhyrchu gan gwmni Winning Moves. Bydd Bae Caerdydd felly'n disodli Mayfair ac fe fydd Glannau'r Fenai yn dod yn fwy cyfarwydd i ni na Park Lane.

Wrth groesawu'r fersiwn Gymraeg o Monopoly dywedodd Rhodri Glyn Thomas y Gweinidog dros Dreftadaeth 'Rydym yn falch iawn fod y Cyngor Llyfrau wedi gallu cefnogi cynhyrchu'r fersiwn hwn o Monopoly yn Gymraeg ac fe fydd ei llwyddiant nid yn unig yn rhoi pleser i gannoedd y Nadolig hwn ond hefyd yn fodd i deuluoedd ar draws Cymru fwynhau'r profiad o chwarae'r gêm drwy gyfrwng y Gymraeg.'

Mae cwmni Winning Moves, sydd wedi cynhyrchu sawl fersiwn o'r gêm fwrdd boblogaidd, yn falch iawn o gael ychwanegu fersiwn uniaith Gymraeg at eu rhestr, gyda'r chwaraewyr yn cael y cyfle i wneud neu golli'u ffortiwn wrth deithio drwy rai o brif drefi a dinasoedd Cymru – o Landudno i Benrhyn Gŵyr, ac o Benarth i Gaernarfon.

Gofynnodd Winning Moves i'r Cyngor Llyfrau am gymorth i ddewis yr enwau priodol ar gyfer y gêm, a bu'r Cyngor yn hynod ffodus o gael cymorth arbenigol D. Geraint Lewis, un sydd wedi cyhoeddi nifer o eiriaduron a llyfrau iaith.

'Rydym wrth ein bodd ein bod wedi medru cydweithio â Winning Moves i gynhyrchu fersiwn uniaith Gymraeg o'r gêm fwrdd hynod boblogaidd hon,' meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau.

'Profodd Scrabble yn werthwr rhagorol ac rydym yn sicr y bydd Monopoly yn Gymraeg yn cael yr un croeso brwd gan Gymry Cymraeg a dysgwyr o bob oed. Bu'r broses o weithio ar y gêm yn un hynod bleserus ac roedd cyfraniad D. Geraint Lewis, fel ymgynghorydd, yn allweddol er mwyn cyfleu amrywiaeth a chyfoeth Cymru heddiw.'

Mae set o reolau Cymraeg a set o reolau Saesneg yn cael eu cynnwys gyda phob gêm er mwyn hwyluso'r chwarae ymhlith Cymry Cymraeg a dysgwyr.

Ychwanegodd D. Geraint Lewis: 'Does dim yn rhoi mwy o bleser i mi na gweld pobl yn cael hwyl a sbort trwy gyfrwng gêmau Cymraeg, heb inni orfod ymddiheuro rhagor am safon y gêmau hyn.'

Cynhyrchwyd Monopoly yn Gymraeg yn arbennig ar gyfer y farchnad Nadolig ac mae'r gêm eisoes ar gael yn y siopau llyfrau neu drwy www.gwales.com

Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB
T (01970) 624151 F (01970) 625385 E elwyn.jones@wbc.org.uk
 
Rhestr o’r lleoliadau
MayfairBae Caerdydd
Park LaneGlannau'r Fenai
Liverpool St. StationPontcysyllte
Bond StreetPenrhyn Gŵyr
Oxford StreetPen Llŷn
Regent StreetBro Morgannwg
PiccadillyPenarth
Water WorksLlyn Brianne
Coventry StreetLlandudno
Leicester SquareAberystwyth
Fenchurch St. StationPont Cleddau
Trafalgar SquareLlangollen
Fleet StreetTalacharn
StrandBeddgelert
Vine StreetCaerfyrddin
Marlborough StreetCaernarfon
Bow StreetAberhonddu
Marylebone StationPont Hafren
Northumberl'd AvenueY Fenni
WhitehallY Bala
Pall MallY Trallwng
Electric CompanyDinorwig
Pentonville RoadCaergybi
Euston RoadBlaenau Ffestiniog
The Angel, IslingtonCwm Rhondda
Kings Cross StationPont Menai
Whitechapel RoadCwm-sgwt Isaf
Old Kent RoadCwm-sgwt Uchaf