Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

Gwobrau Tir na n-Og 2006

Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru enwau enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2006 mewn cinio arbennig yng nghynhadledd 'Cwlwm Celtaidd' CILIP Cymru a gynhaliwyd yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.

Cyflwynir y gwobrau'n flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant mewn tri chategori: categori cynradd Cymraeg, categori uwchradd Cymraeg a llyfr Saesneg gorau'r flwyddyn gyda chefndir dilys Cymreig. Noddir dwy o'r gwobrau gan CILIP Cymru.

Eleni mae gwobrau Tir na n-Og yn dathlu deng mlynedd ar hugain ers eu sefydlu yn
ôl ym 1976. Dywedodd Menna Lloyd Wililams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau: 'Yn ystod y deng mlynedd ar hugain gwelwyd datblygiadau aruthrol ym maes cyhoeddi llyfrau plant yn y ddwy iaith o safbwynt cynnwys a diwyg a'r amrywiaeth o lyfrau sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc.'



1. CATEGORI CYNRADD CYMRAEG

Enillydd: Emily Huws – Carreg Ateb
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)

Enillydd y wobr yn y categori cynradd yw EMILY HUWS am ei nofel Carreg Ateb (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion), cyfrol ddifyr a ffres ar gyfer plant 9-11 oed gydag elfennau gwahanol megis bwlio, y teulu a thechnoleg fodern yn cyd-blethu'n llwyddiannus ar gefndir hen stori Hugan Goch Fach. Dyma'r pedwerydd tro i Emily Huws ennill Gwobr Tir na n-Og.


2. CATEGORI UWCHRADD CYMRAEG

Enillydd: Gwion Hallam – Creadyn
(Gwasg Gomer)

Enillydd y wobr yn y categori uwchradd yw GWION HALLAM am ei nofel Creadyn (Gwasg Gomer), nofel sy'n llawn cyffro a dioddef wrth i ni ddilyn bachgen sy'n gorfod ymdopi â byw mewn tŷ ar drogylch mewn dinas, a hynny ar ôl cael ei fagu'n hapus ar fferm yng nghefn gwlad. Hon yw nofel gyntaf Gwion Hallam ar gyfer yr arddegau.



3. Y WOBR SAESNEG

Enillydd: Jenny Sullivan – Tirion's Secret Journal
(Gomer/Pont Books)

Dyfarnwyd y wobr am y llyfr Saesneg gorau i JENNY SULLIVAN am ei nofel Tirion's Secret Journal (Gomer/Pont). Lleolwyd y nofel hon yn Llancaiach Fawr a cheir ynddi bortread bywiog a llawn hiwmor o fywyd y cyfoethog a'r tlawd yn yr ail ganrif ar bymtheg.


Bydd rhaglen hanner awr yn cyflwyno cefndir Gwobrau Tir na n-Og ac yn anrhydeddu enillwyr eleni yn cael ei darlledu ar raglen 'Wedi 7' ar S4C nos Lun 29 Mai 2006.

Am ragor o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion SY23 2JB T (01970) 624151 F (01970) 625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}