Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

GWOBRAU CYMRAEG TIR NA N-OG 2008

Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru enwau enillwyr gwobrau Cymraeg Tir na n-Og o lwyfan yr Urdd.

Cyflwynir y gwobrau am y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc gan Gyngor Llyfrau Cymru. Noddir y gwobrau o £1,000 yr un gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth) ac fe'u cyflwynwyd i'r awduron mewn seremoni arbennig ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Conwy.

CATEGORI CYNRADD

Enillydd y wobr yn y categori cynradd yw Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed y Tylwyth, Nicholas Daniels, Dref Wen.

Stori am Gwiddan, merch sy'n cael ei phen-blwydd yn dair ar ddeg oed sydd yma. Ar ddiwrnod ei phen-blwydd mae ei thad yn rhoi pâr o dreinyrs newydd iddi yn ogystal ag anrheg oddi wrth ei mam a fu farw pan oedd hi'n ferch fach – sef y Llyfr Ryseitiau.

Mae'r stori'n gymysgfa fyrlymus o hanes merch ysgol gyffredin a byd chwedloniaeth Llyn y Fan Fach a'r hud sy'n gysylltiedig â'r swynion yn y Llyfr Ryseitiau.

Mae'n nofel gyffrous a gwahanol, yn ôl y panel detholwyr, ac yn nofel sy'n torri tir newydd yn Gymraeg gan gynnig cyfuniad difyr o hen chwedl Gymreig a byd hudolus, tebyg i fyd Harri Potter.

Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed y Tylwyth yw pumed cyfrol Nicholas Daniels a dyma'r tro cyntaf iddo ennill gwobr Tir na n-Og. Mae'n frodor o Langennech, Llanelli, ac yn ddirprwy brifathro yn Ysgol Evan James, Pontypridd.

CATEGORI UWCHRADD

Enillydd y wobr yn y categori uwchradd yw Gareth F. Williams am ei nofel Eira Mân, Eira Mawr (Cyfres Whap!), Gwasg Gomer.

Mae hon yn nofel arswydus a medrus sy'n dangos bod canlyniad i bob gweithred ac y gall y canlyniadau hynny weithiau fod yn ddychrynllyd. Prin y byddai Anna, Marc ac Ows Bach wedi meddwl y byddai'r daith adref o'r dafarn un noswyl Nadolig o eira yn newid eu bywydau am byth.

Mae Eira Mân, Eira Mawr yn difyrru ac yn gafael yn y darllenydd wrth ei ddychryn ar yr un pryd. Yn ôl y panel beirniaid, dyma nofel rymus sy'n gwthio ffiniau nofelau i'r arddegau i'r eithaf. Yn sicr, mae hon yn chwip o nofel a fyddai'n apelio at oedolion yn ogystal ag arddegwyr hŷn. Eisoes mae Gareth F. Williams wedi ennill gwobr Tir na n-Og deirgwaith yn y gorffennol:

* yn 1991 am O Ddawns i Ddawns
* yn 1997 am Dirgelwch Loch Ness
* yn 2007 am Adref Heb Elin

Mae Gareth F. Williams yn awdur llawn-amser. Daw'n wreiddiol o Borthmadog, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:
“Rydym yn hapus iawn i groesawu enillwyr Gwobrau Tir na n-Og i lwyfan prifwyl ieuenctid Cymru. Drwy ein cylchgronau misol, o Cymru'r Plant i Cip, a'n cystadlaethau llenyddol yn yr Eisteddfod, mae cyfraniad yr Urdd i lenyddiaeth plant yng Nghymru wedi bod yn arwyddocaol, ac rydym yn falch o gael cyfle i anrhydeddu'r awduron disglair sydd wedi dod i'r brig eleni.”

Ac meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau:
“Rydym yn hynod falch o gael cydnabod yr awduron eleni drwy gyflwyno'r gwobrau hyn o lwyfan yr Eisteddfod. Y mae'n braf cyhoeddi yn ystod y Flwyddyn Darllen Genedlaethol bod llyfrau o safon yn cael eu cynhyrchu ar gyfer ein darllenwyr ifainc ac y mae'n arwydd o'r ystod eang o lyfrau sydd ar gael heddiw”.


  {(}
{)}