Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

Gwobrau Tir na n-Og 2008

Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru y teitlau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2008, gwobrau sy'n cydnabod safon aruchel llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn y ddwy iaith.

Cyflwynir y gwobrau'n flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant mewn tri chategori, sef categori cynradd Cymraeg, categori uwchradd Cymraeg a llyfr Saesneg gorau'r flwyddyn. Noddir y gwobrau gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru) a'r Cyngor Llyfrau.

Dyma'r teitlau sydd ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og eleni:


CATEGORI CYNRADD CYMRAEG

Dim Eto, Jac – Steven P. Jones

(Dref Wen)
Llyfr lliw llawn i blant ifanc sy'n datblygu fel darllenwyr annibynnol. Yn ôl y beirniaid, dyma lyfr o safon ac mae ansawdd uchel lluniau Lisa Fox yn addas ar gyfer yr oedran targed. Dyma'r drydedd gyfrol o straeon gan Steven P. Jones am Jac, y bachgen sy'n gwirioni ar bêl-droed.

Hogan Mam, Babi Jam – Emily Huws
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) Nofel ddiweddaraf yr awdur hynod o doreithiog Emily Huws. Dywedodd y beirniaid fod hon yn nofel sy'n ymestyn profiadau'r darllenwyr ac yn ymdrin â thema ddyrys, ddwys mewn modd sensitif.

Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed y Tylwyth – Nicholas Daniels
(Dref Wen)
Roedd y beirniaid o'r farn fod y gyfrol hon yn torri tir newydd yn Gymraeg gan gynnig cyfuniad difyr o'r hen chwedlau Cymreig a byd hudolus, tebyg i fyd Harry Potter. Dyma bumed llyfr yr awdur ifanc, sy'n athro ym Mhontypridd.

Twm a'r Ôl Troed – Siân Lewis
(Gwasg Gomer)
Nofel arall gan yr awdur toreithiog Siân Lewis. Yn ôl y beirniaid, mae yma gymeriadu clyfar iawn, sy'n llawn dychymyg, a stori lawn doniolwch a nifer o droadau annisgwyl ynddi.


CATEGORI UWCHRADD CYMRAEG

Eira Mân, Eira Mawr – Gareth F. Williams

(Gwasg Gomer)
Nofel ddiweddaraf enillydd Gwobr Tir na n-Og 2007. Yn ôl y beirniaid, dyma nofel rymus sy'n gwthio ffiniau nofelau i'r arddegau i'r eithaf.

Fy Hanes I – Yr Arwisgo – Sonia Edwards
(Gwasg Gomer)
Yn ôl y beirniaid mae hon yn gyfrol hynod o ddarllenadwy a difyr, wedi'i hymchwilio'n ofalus ac yn llwyddo i gyflwyno darlun credadwy o'r cyfnod. Mae Sonia Edwards yn awdur profiadol iawn ym maes sgrifennu ar gyfer pobl ifanc.

Mae'r Byd i Gyd yn Boncyrs – Siân Summers
(Dref Wen)
Dyma'r ail gyfrol gan Siân Summers ar gyfer yr arddegau. Yn ôl y beirniaid, mae'n goflaid o lyfr sy'n llawn dywediadau a digwyddiadau bach doniol, ac yn sicr o apelio at ferched y mae bywyd i gyd yn un ddrama fawr iddynt.


LLYFR SAESNEG GORAU'R FLWYDDYN

A Gift for Saint David's Day – awduron amrywiol

(Gomer/Pont Books)
Teimlai'r panel beirniaid fod hon yn gyfrol a oedd wedi dylunio'n chwaethus a bod y darluniau o safon uchel iawn.

Finding Minerva – Frances Thomas
(Gomer/Pont Books)
Nofel gan gyn-enillydd Gwobr Tir na n-Og. Roedd y panel beirniaid o'r farn fod yr awdur wedi llwyddo i gyfuno'r ochr hanesyddol a'r ochr gyfoes yn llwyddiannus iawn.

Under the Cindertip – Nigel Paul Morgan
(Gwasg Carreg Gwalch)
Dyma nofel gyntaf Nigel Paul Morgan ar gyfer pobl ifanc. Teimlai'r panel beirniaid fod ynddi brofiadau darllen diddorol a chyffrous.

Bydd enwau enillwyr y gwobrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Conwy ddydd Iau, 29 Mai, ac enw enillydd y wobr Saesneg yn cael ei gyhoeddi yng nghynhadledd CILIP Cymru yn Llandrindod ddydd Iau, 15 Mai.

Dywedodd Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau, 'Y mae'r llyfrau sydd ar y rhestr fer yn arwydd o safon arbennig llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru a hefyd o'r ystod eang o lyfrau sydd ar gael.'

Am ragor o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, neu Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion SY23 2JB T (01970) 624151 F (01970) 625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk / menna.lloydwilliams@cllc.org.uk


  {(}
{)}