|
ANRHYDEDDU AWDUR LLYFRAU PLANT
TLWS MARY VAUGHAN JONES 2006
Mair Wynn Hughes, awdur dros 80 o lyfrau Cymraeg I blant, yw enillydd teilwng Tlws Mary Vaughan Jones 2006.
Cyflwynir y wobr arbennig hon gan Gyngor Llyfrau Cymru er cof am Mary Vaughan Jones a fu farw yn 1983. Fe gyflwynir y tlws bob tair blynedd I berson a roddodd gyfraniad arbennig I faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.
Yn enedigol o Fryncir, Eifionydd, bu Mair Wynn Hughes yn athrawes ym Mhentraeth, Ynys Môn ac yna’n wraig fferm yn yr un ardal. Bellach mae hi a’I gŵr wedi ymddeol ac wedi ymadael â’r fferm I fyw yn y pentref.
Yn awdur toreithiog, y mae Mair Wynn Hughes wedi cyhoeddi llyfrau ar gyfer ystod eang o oedran, o’r plant lleiaf I’r arddegau. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, Storïau Sioni Sbonc, yn 1967, ac oddi ar hynny cyhoeddodd dros 80 o lyfrau.
Y mae eisoes wedi ennill Gwobr Tir na n-Og deirgwaith, yn 1984 am Y Llinyn Arian, yn 1990 am Llygedyn o Heulwen ac yn 1996 am Coch yw Lliw Hunllef.
‘Dyma awdur sy’n llawn haeddu’r wobr,’ meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau. ‘Mae ei chyfraniad dros y blynyddoedd wedi bod yn un arbennig iawn a’I gwaith wedi ei fwynhau gan filoedd o blant ledled Cymru.’
Bydd y Tlws yn cael ei gyflwyno I Mair Wynn Hughes mewn cyfarfod arbennig a gynhelir yn Oriel Môn, Llangefni.
Ers ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 1985, enillwyd y tlws gan Ifor Owen, Emily Huws, T. Llew Jones, W. J. Jones, Roger Boore, J. Selwyn Lloyd ac Elfyn Pritchard.
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB.
T (01970) 624151 F (01970) 625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk
|