|
CYFNOD NEWYDD YM MYD LLYFRAU CYMRU
Newid a datblygu oedd thema fawr y flwyddyn ddiwethaf ym myd
llyfrau o Gymru, yn y ddwy iaith, yn ôl Gwerfyl Pierce
Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, wrth iddi annerch
aelodau'r Cyfarfod Blynyddol yng Nghaerdydd. (Dydd Mercher,
29 Tachwedd).
Cafwyd newid yn strwythur y Cyngor Llyfrau ei hunan wrth iddo
wynebu'r her o ddatblygu'r diwydiant llyfrau yng Nghymru,
gan sefydlu adran gwbl newydd i fod yn gyfrifol am Werthu
a Marchnata. Yn dilyn penodi Helgard Krause, brodor o'r Almaen,
sydd bellach yn rhugl yn y Gymraeg, yn bennaeth yr adran newydd,
mae hi a'i staff yn gweithio'n agos gyda'r cyhoeddwyr a'r
llyfrwerthwyr i hyrwyddo a chynyddu gwerthiant llyfrau o Gymru.
' Mae'r datblygiadau cyffrous hyn wedi golygu cryn newid yn
ein patrwm gwaith,' meddai Gwerfyl Pierce Jones, 'ond roedd
yn angenrheidiol i'r Cyngor ddangos ein bod yn barod i arwain
yn y maes. Yn wir, mae'r datblygiadau arfaethedig yn golygu
newid i holl sectorau'r fasnach lyfrau yng Nghymru, ac ni
ellir eu gweithredu ond drwy gydweithio a chyd-dynnu.'
Yng nghyd-destun rhaglen o newid, mae'r ffaith bod y datblygiadau
eisoes yn dwyn ffrwyth yn galonogol iawn, gyda maes nofelau
yn enghraifft glodwiw o hynny. Gwta ddeng mlynedd yn ôl,
roedd hi'n argyfwng ym maes nofelau Cymraeg, gyda sôn
am dranc y nofel a gwerthiant yn gostwng yn flynyddol. Erbyn
hyn, mae'r sefyllfa wedi'i thrawsnewid gydag
awduron a chyhoeddwyr yn manteisio i'r eithaf ar yr arian
comisiwn sydd ar gael trwy'r Cyngor Llyfrau er mwyn sicrhau
ystod eang o gynnyrch poblogaidd, apelgar a thra amrywiol.
Yr hyn sy'n galonogol, yn ôl Gwerfyl Pierce Jones, yw
bod cynifer o bobl ifanc yn mentro i'r maes, yn ogystal ag
awduron mwy profiadol, ac mae'r cynnyrch yn ysgogi mwy o ymateb
ac o drafodaeth nag a welwyd ers tro byd. Nid yw'n syndod,
meddai, bod nofelau bellach yn ymddangos yn gyson yn siartiau
gwerthwyr gorau llyfrau Cymraeg.
Bu'r flwyddyn ddiwethaf yn gyfnod o ddatblygu ym maes Ysgrifennu
Saesneg o Gymru yn ogystal. Derbyniodd cyfres nodedig Library
of Wales, a gynhyrchwyd gyda nawdd Llywodraeth y Cynulliad,
a chefnogaeth bersonol Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant,
y Gymraeg a Chwaraeon, sylw haeddiannol gan sicrhau'r ddau
nod o lwyddiant masnachol a'r cyfle i gyflwyno rhai o glasuron
ein hetifeddiaeth lenyddol i gynulleidfa newydd o ddarllenwyr.
Yn yr un modd, mae awduron megis Rachel Trezise, enillydd
Gwobr Dylan Thomas 2006 am ei chyfrol Fresh Apples, yn sicrhau
bod ysgrifennu newydd o Gymru'n cael ei gydnabod ar lwyfan
rhyngwladol.
' Mae pob newid yn dod â her newydd yn ei sgil,' ychwanegodd
Gwerfyl Pierce Jones, '?ac rydym yn ffyddiog bod y Cyngor
Llyfrau a'r fasnach lyfrau yng Nghymru yn barod i wynebu'r
newidiadau hyn gyda brwdfrydedd newydd ac y gallwn gydweithio
i gyflwyno'r ddarpariaeth orau i'r darllenwyr.'
Newid arall a welwyd ar staff y Cyngor Llyfrau eleni oedd
ymddeoliad Elgan Davies, Pennaeth yr Adran Ddylunio, a Dewi
Morris Jones, Pennaeth yr Adran Olygyddol, ar ôl blynyddoedd
maith o wasanaeth diflino. Gyda chyfnod o drigain a phedair
o flynyddoedd o wasanaeth rhyngddynt, buont yn rhan allweddol
o'r newidiadau mawr a welwyd yn y maes cyhoeddi yng Nghymru.
' Buont yn gonglfeini cadarn i'r Cyngor Llyfrau dros y blynyddoedd,'
meddai Gwerfyl Pierce Jones, 'a gallant ill dau dystio nad
peth newydd yw rhaglen o newid a datblygu ym myd llyfrau yng
Nghymru.'
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2JB T (01970) 624151 F (01970) 625385
E elwyn.jones@cllc.org.uk
|