Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

CWMNI CNEX YN PARATOI HYSBYSEBION LLYFRAU

Cwmni animeiddio Griffilms o Gaernarfon sydd wedi'u comisiynu gan y Cyngor Llyfrau i baratoi hysbysebion llyfrau'r Nadolig i'w darlledu o hyn hyd at y Nadolig.

Mae Griffilms yn enwog bellach am eu gwaith animeiddio, a hwy sy'n gyfrifol am ran o'r gwaith animeiddio ar gyfres boblogaidd Cnex, sy'n cael ei darlledu ar hyn o bryd ar S4C.

Mae'r Cyngor Llyfrau, mewn cydweithrediad â'r cyhoeddwyr, wedi paratoi pedair hysbyseb sy'n rhoi sylw i ddetholiad o lyfrau Cymraeg a Saesneg ar gyfer plant ac oedolion. Fel rhan o'r ymgyrch bydd 24 o deitlau yn cael eu hyrwyddo.

' Rydym bob amser yn meddwl am ffordd wreiddiol a bywiog o hysbysebu llyfrau'r Nadolig ar y teledu,' meddai Helgard Krause, Pennaeth Gwerthu a Marchnata'r Cyngor Llyfrau, 'ac roedd defnyddio animeiddio yn ateb y diben i'r dim. Bu'n bleser gweithio gyda chwmni Griffilms.'

Mae pencadlys cwmni Griffilms yng Nghaernarfon, gyda swyddfa hefyd yng Nghaerdydd. Dywedodd Hywel Griffith, sylfaenydd y cwmni, 'Roedd yn bleser cael bod yn rhan o'r ymgyrch yma eleni ac rydym yn gobeithio'n fawr y bydd yr hysbysebion yn hwb i werthiant llyfrau o Gymru.'

Ychwanegodd Helgard Krause: 'Gyda dau atodiad lliwgar, sef Gwledd y Nadolig a Books from Wales eisoes wedi'u dosbarthu'n eang, ac yna hysbysebion teledu i'w darlledu o hyn i'r Nadolig, rydym am sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwybod am yr holl lyfrau gwych sydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer yr Wyl. Rydym yn sicr bod yma wledd o lyfrau eleni a byddem yn annog pawb i ymweld â'u siop lyfrau leol i gael golwg ar y dewis.'

Am ragor o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB. T (01970) 624151 F (01970) 625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}