Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

GWERTHIANT LLYFRAU YN CYNYDDU ETO

Mae’r Nadolig bob amser yn gyfnod hynod o brysur i'r diwydiant llyfrau, ac mae ffigurau gwerthiant diweddaraf yn y Cyngor Llyfrau yn cadarnhau bod hyn yn wir eto eleni.

Mae gwerthiant llyfrau drwy Ganolfan Ddosbarthu'r Cyngor Llyfrau ar gyfer mis Tachwedd, y mis tyngedfennol cyn y Nadolig, yn dangos cynnydd o 9.6% o'i gymharu â'r flwyddyn ddiwethaf (£462,291 gwerthiant net, o'i gymharu â £422,350 ym mis Tachwedd 2005) gan dorri pob record. Mae'r cynnydd mewn gwerthiant yn ystod wyth mis cynta'r flwyddyn ariannol yn 11.4%.

Rhaid ystyried y cynnydd hwn yng ngoleuni geiriau'r arbenigwr Richard Ratner a nododd bod siopau Prydain yn wynebu'r Nadolig anoddaf ers chwarter canrif; mae'r cynnydd yn adlewyrchu llwyddiant y diwydiant llyfrau yng Nghymru i gyhoeddi a marchnata ystod eang o lyfrau diddorol a phoblogaidd.

' Mae'r ffigurau hyn yn galonogol iawn,' meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, 'ac fe hoffem longyfarch holl sectorau'r diwydiant ar eu llwyddiant. Gyda thair wythnos i fynd tan y Nadolig, rydym yn hyderus y gallwn gynnal y gwerthiant drwy gydol mis Rhagfyr.'

Dywedodd Alun Pugh, Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon: 'Mae'r ffigurau hyn yn hwb amserol i'r fasnach lyfrau yng Nghymru. Rwy'n hynod o falch fod ein buddsoddiad mewn hyrwyddo a marchnata llyfrau o Gymru yn dwyn ffrwyth. Mae llyfrau yn gwneud anrhegion Nadolig delfrydol ac mae dewis helaeth ar gael ar gyfer pob oedran ac i apelio at bob chwaeth.'

Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB
T (01970) 624151 F (01970) 625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}