Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

Cynnydd yng ngwerthiant llyfrau o Gymru

'Ar drothwy’r Ŵyl Fedwen Lyfrau a drefnir gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru, cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau ffigurau calonogol yn dangos y bwrlwm sy’n nodweddu’r byd cyhoeddi yng Nghymru y dyddiau hyn.

Roedd gwerthiant llyfrau o Gymru trwy Ganolfan Ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau yn 2007/08 yn dangos cynnydd o 13.4% ar y flwyddyn flaenorol a 25.35% o gynnydd dros ddwy flynedd.

Gwerthwr mawr 2007/08, heb os, oedd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig ond cynyddodd gwerthiant llyfrau Cymraeg i oedolion 20% yn ystod y flwyddyn ac fe welwyd maes ffuglen (+35%) a llyfrau i ddysgwyr (+29%) yn perfformio’n gryf.

Ar yr ochr Saesneg, roedd gwerthiant llyfrau oedolion i fyny 25% ac roedd categorïau hanes (+30%) a chofiannau/hunangofiannau (+78%) ymhlith y categorïau cryfaf.

Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, fod y cyhoeddwyr i’w llongyfarch yn fawr ar safon y cynnyrch. ‘Maent yn fwy effro nag erioed i ofynion y farchnad,’ meddai, ‘ac yn gweld gwerth cynyddol mewn cynllunio ymlaen a thargedu cynulleidfaoedd penodol. Mae’r Ŵyl Fedwen Lyfrau yn un enghraifft ragorol o hyder y byd cyhoeddi ar hyn o bryd ac mae’n braf gweld yr achlysur yn ehangu o flwyddyn i flwyddyn ac yn denu cynulleidfaoedd newydd.’

Wrth baratoi ar gyfer yr Ŵyl Fedwen Lyfrau a gynhelir yng Nghrymych y penwythnos hwn, dywedodd Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch: ‘Dyma’r drydedd Ŵyl Bedwen Lyfrau i Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru ei threfnu – ac mae’n ceisio hybu’r ysbryd o brynu llyfrau a rhoi llyfrau yn anrhegion sydd i’w weld mewn gwyliau yn Barcelona a Gwlad y Basg. Mae’r ffigurau diweddaraf yma gan y Cyngor Llyfrau yn rhoi gwên ar ein hwynebau, debyg iawn – mae’n amlwg fod y diwydiant yng Nghymru yn mynd i’r cyfeiriad cywir.’