|
GWERTHIANT
LLYFRAU'R NADOLIG
Profodd cyfnod y Nadolig eleni yn gyfnod gwych i gyflwyno llyfrau'n anrhegion, yn ôl y ffigurau gwerthiant diweddaraf i'w cyhoeddi gan y Cyngor Llyfrau.
Roedd gwerthiant llyfrau drwy Ganolfan Ddosbarthu'r Cyngor Llyfrau ar gyfer Tachwedd/Rhagfyr yn dangos cynnydd o 12.2% ar y flwyddyn flaenorol (£826,672 gwerthiant net, o'i gymharu â £736,066 y flwyddyn flaenorol).
Mae'r ffigurau gwerthiant am y chwarter (misoedd Hydref, Tachwedd a Rhagfyr) yn dangos hyd yn oed mwy o gynnydd, sef 13.7% ar werthiant y flwyddyn flaenorol (£1,117,605 o'i gymharu â £982,235), sy'n tystio i safon ac ystod y llyfrau a gyhoeddwyd gan gyhoeddwyr Cymru.
Hyd yn oed yn fwy trawiadol yw'r ffaith bod y ffigurau hyn yn dilyn dwy flynedd o werthiant rhagorol ac mae'n cymharu'n ffafriol gyda'r gwerthiant siomedig a brofwyd gan gynifer o siopau'r stryd fawr y Nadolig hwn.
'Unwaith eto rydym wedi gweld bod y cyhoedd yn awchu am lyfrau diddorol a deniadol,' meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, 'ac rydym yn falch o gael llongyfarch pawb am eu gwaith rhagorol yn y cyfnod prysur yn arwain at y Nadolig.'
Dywedodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon: 'Mae'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru wedi mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd diwethaf, fel y tystia'r gwerthiant gwych dros gyfnod y Nadolig. Mae llenyddiaeth yn ganolog i'n hunaniaeth fel cenedl ac yng Nghymru mae gennym draddodiad llenyddol cryf wedi'i gynhyrchu gan awduron amlwg. Mae darllen yn weithgaredd hamdden poblogaidd iawn ac mae'r amrywiaeth o lyfrau sydd ar gael gan gyhoeddwyr Cymru yn denu amrediad eang o ddarllenwyr o bob oedran a chefndir.
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus,
Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB.
T (01970) 624151 F (01970) 625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk
|