| HELGARD
I ARWAIN TÎM GWERTHU A MARCHNATA LLYFRAU
Penodwyd
Helgard Krause yn Bennaeth Gwerthu a Marchnata Cyngor Llyfrau
Cymru i arwain y gwaith o hyrwyddo llyfrau o Gymru, yn y ddwy
iaith.
Yn enedigol ô'r Almaen, cafodd Helgard ei magu yn ardal
Rheinland Pfalz, mewn tref fechan ar y ffin â Ffrainc.
Graddiodd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Berlin cyn dilyn
cwrs mewn llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Sussex ym 1993.
Mae hi wedi gweithio i sawl cwmni ym maes cyhoeddi, gan gynnwys
Routledge a chwmni dosbarthu yn Rwsia. Yn ddiweddarach ymunodd
â chwmni cyhoeddi Rotovision, gan ddod yn Bennaeth Gwerthu
a Hawlfreintiau ac arwain eu cynlluniau marchnata yn Tsieina,
Siapan, Awstralia ac America.
Symudodd i fyw i Gymru yn 2002, pan gafodd ei phenodi'n Swyddog
Marchnata Tramor i'r Cyngor Llyfrau. Yn dilyn dwy flynedd
o hyrwyddo llyfrau Cymru ar draws y byd, fe'i penodwyd i'r
swydd newydd hon yn arwain y tîm gwerthu a marchnata.
Yn ôl Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau,
"Mae'r penodiad hwn yn rhan o gyfres o ddatblygiadau
sy'n deillio o adroddiad gan ymgynghorwyr annibynnol (Kewley/Richardson)
ar wasanaeth cynrychiolaeth y Cyngor Llyfrau. Mae gan Helgard
brofiad eang o'r fasnach lyfrau, a bydd y profiad gwerthfawr
hwnnw bellach yn cael ei sianelu i ddatblygu'r diwydiant llyfrau
yma yng Nghymru."
A hithau eisoes yn rhugl mewn Almaeneg, Saesneg a Ffrangeg
ac yn siarad peth Rwsieg mae Helgard bellach wedi ymroi i
ddysgu Cymraeg. Bu ar gwrs Wlpan yn ystod Haf 2005, ac ar
ôl ei phenodi cafodd ei rhyddhau o'i swydd am gyfnod
i ddysgu ac ymarfer yr iaith.
"Dwi ddim yn meddwl bod dysgu Cymraeg yn anodd,"
meddai Helgard, "ond efallai fod y ffaith fy mod yn Almaenes
yn ei gwneud hi'n haws gan fy mod yn gyfarwydd â dysgu
ieithoedd ac yn hoff o astudio gramadeg. Mae fy nhiwtoriaid
-Carwen Fychan a Llinos Dafis - wedi bod yn ardderchog. Dwi
ddim yn credu y byddwn wedi dysgu mor gyflym heb eu cymorth
nhw. Erbyn hyn dwi'n edrych ymlaen at ddechrau yn fy swydd
newydd a chydweithio gyda'n partneriaid i hyrwyddo'r llyfrau
gwych a geir yng Nghymru."
Dywedodd yr Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau,
"Wrth groesawu Helgard i'r swydd bwysig hon, rydym yn
awyddus i fanteisio ar ei phrofiad o'r diwydiant llyfrau ar
lefel ryngwladol. Mae'n rhyfeddod i mi fel y mae'r diwydiant
llyfrau yng Nghymru wedi datblygu dros y blynyddoedd, ac yn
wir, yn dal i ddatblygu ar hyn o bryd. Mae'n glod i'r awduron,
cyhoeddwyr a'r llyfrwerthwyr, yn ogystal â'r Cyngor
ei hun, bod gennym ddiwydiant llyfrau ffyniannus y gallwn
i gyd fod yn falch ohono ac y gallwn edrych ymlaen i gyfnod
cyffrous arall o ddatblygu a thwf gyda'n gilydd."
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB T (01970) 624151 F (01970)
625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk
|