|
GWOBRAU TIR NA N-OG 2007
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru y teitlau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2006, sy'n cydnabod safon aruchel llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn y ddwy iaith.
Cyflwynir y gwobrau'n flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant mewn tri chategori, sef categori cynradd Cymraeg, categori uwchradd Cymraeg a llyfr Saesneg gorau'r flwyddyn. Noddir dwy o'r gwobrau gan CILIP Cymru.
Bydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar raglen 'Wedi 7' ar S4C ym mis Mai.
Dyma'r teitlau sydd ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og eleni:
Categori Cynradd Cymraeg
Babi Gwyrdd, Emily Huws (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
Ein Rhyfel Ni, Mair Wynn Hughes (Gwasg y Bwthyn)
Y Wisg Enfys, Catherine Fisher (Gwasg Gomer)
Categori Uwchradd Cymraeg
Adref Heb Elin, Gareth F. Williams (Gwasg Gomer)
Angst ac Anawsterau, Angharad Devonald (Dref Wen)
Ffêc Tan, Rissole a Tships, Caryl Lewis (Gwasg Gomer)
Llyfr Saesneg Gorau'r Flwyddyn
Dark Tales From the Wood, Daniel Morden (Gomer/Pont Books)
Gatty's Tale, Kevin Crossley-Holland (Orion Publishing)
The Telling Pool, David Clement-Davies, (Bloomsbury Publishing)
'Mae'r gwobrau hyn yn anrhydeddu gwaith awduron llenyddiaeth plant yng Nghymru,' meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau, 'ac rydym yn falch o‚ôr cyfle i gael cydnabod llafur yr awduron a'r cyhoeddwyr.'
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, neu Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB.
T (01970) 624151 F (01970) 625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk / menna.lloydwilliams@cllc.org.uk
|