Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

GWOBRAU LLYFRAU SGILIAU SYLFAENOL –
ENWAU ENILLWYR 2007 WEDI'U CYHOEDDI


Cyhoeddwyr Cymraeg a'r gyfres Quick Reads / Stori Sydyn yn cael eu canmol am eu hymdrechion

Roedd Y Lolfa, Gwasg Gomer, B-DAG, @ebol, Accent Press a Continuum (Network Educational Press) ymhlith rhestr enillwyr Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol – a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd, gyda Wyre Davies o BBC Cymru yn llywyddu.

Eleni, aeth y Wobr i'r Prif Enillydd i'r Lolfa am eu llyfrau Darllen Mewn Dim gan Angharad Tomos a Llawlyfr yr Athrawon gan Anwen Owen. Roedd holl aelodau'r panel yn cytuno fod y gyfres hon yn adnodd ardderchog ar gyfer gwella sgiliau sylfaenol disgyblion oedran cynradd. Ym marn y beirniaid, roedd y defnydd o liw yn y llyfrau'n ddeniadol a hoffwyd y defnydd effeithiol o ailadrodd er mwyn cynorthwyo'r plant i ddeall cystrawennau brawddegau.

Rhai o'r enillwyr eraill oedd @ebol am eu deunyddiau rhifedd oedran cynradd ac uwchradd, a Gwasg Gomer am eu deunydd ffuglen Cymraeg i ysgolion uwchradd.

Enillwyd gwobrau gan y ddwy gyfres Quick Reads a Stori Sydyn – derbyniodd Quick Reads y wobr yn y categori Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y Saesneg, a derbyniodd y gyfres Gymraeg gyfatebol, Stori Sydyn, y Wobr er Anrhydedd. Ym marn y beirniaid, roedd y ddwy gyfres wedi llwyddo yn eu hymgais i apelio at egin ddarllenwyr – trwy gyfrwng eu diwyg a'r amrywiaeth o wahanol deitlau sydd ar gael.

Mae'r Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol yn cael eu trefnu er mwyn ceisio codi safonau'r deunyddiau sgiliau sylfaenol sydd ar gael i blant, pobl ifanc ac oedolion. Er ein bod yn ymwybodol o'r gwelliannau mewn perfformiad a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dros chwarter plant, pobl ifanc ac oedolion Cymru â sgiliau darllen, ysgrifennu a rhifedd sydd gryn dipyn yn is na'r lefel y dylent fod yn gallu ei chyrraedd. Ymhlith oedolion Cymru, nid oes gan tua 440,000 ohonynt (25% o'r cyfanswm oedran 16–65 ) sgiliau llythrennedd Lefel 1 (20% mewn sgiliau llythrennedd Cymraeg); ac nid oes gan 990,000 o oedolion (53%) sgiliau rhifedd Lefel 1.

Lansiwyd y Gwobrau Sgiliau Sylfaenol yn 2003 ac maent yn rhan o Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd â'r nod o godi safonau sgiliau sylfaenol plant, pobl ifanc ac oedolion. Nod y cynllun unigryw hwn – sy'n cael ei redeg ar y cyd gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a Chyngor Llyfrau Cymru – yw cynorthwyo athrawon, llyfrgellwyr a rhieni i ddewis y deunyddiau gorau ar gyfer gwella llythrennedd a rhifedd. Mae'r gwobrau hefyd yn ceisio cynorthwyo cyhoeddwyr i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r strategaeth sgiliau sylfaenol a'u hannog i ddatblygu deunyddiau o safon uchel, sy'n briodol ar gyfer y grŵp oedran ac sy'n berthnasol i Gymru.

Estynnodd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a Chyngor Llyfrau Cymru wahoddiad i gyhoeddwyr i gyflwyno deunyddiau, ac yna fe'u gosodwyd ar restr fer gan banelau sgrinio arbenigol. Dewiswyd yr enillwyr gan Banel Beirniaid arbennig dan gadeiryddiaeth John Valentine Williams. Roedd y panelau a'r Panel Beirniaid yn cynnwys arbenigwyr blaenllaw o'r meysydd cyhoeddi a dysgu sgiliau sylfaenol yng Nghymru.

Wrth sôn am yr enillwyr, dywedodd Toni Schiavone, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yng Nghymru: "Mae'r rhai hynny sy'n gweithio gyda dysgwyr sy'n cael trafferthion â sgiliau sylfaenol gwan yn gwybod pa mor bwysig yw hi fod cyhoeddiadau'n ddeniadol ac wedi eu cynhyrchu'n raenus, ac yn cymryd i ystyriaeth y ffaith bod oedran cronolegol dysgwyr yn wahanol i'w lefel oed darllen neu eu lefel rhifedd. Mae hyn yn arbennig o wir am oedolion sydd â sgiliau sylfaenol gwan, lle mae prinder deunydd da o hyd."

Aeth Toni ymlaen i ddweud: "Mae angen ysgogi'r awydd i ddysgu mewn dysgwyr o bob oed, a bydd cynhyrchu deunydd diddorol a pherthnasol ar raddfa ehangach yn helpu i'w sbarduno a'u hannog. Er ein bod wedi ein siomi nad oeddem yn medru dod o hyd i enillwyr addas ym mhob un o gategor‚àö√òau'r gwobrau, yr oeddem, er hynny, wedi ein plesio'n fawr o weld nifer cynyddol o ddeunyddiau o safon dda yn y Gymraeg. Mae'r rhain yn addas nid yn unig i ddysgwyr sgiliau sylfaenol ond hefyd i rai sy'n dysgu Cymraeg, wrth iddynt ennill mwy o hyder gyda'u darllen."

Meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru: "Mae'r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a Chyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gymeradwyo'r cyhoeddiadau hyn ac yn annog eu defnyddio ar raddfa eang. Bydd y Gwobrau nid yn unig yn tynnu sylw at y deunyddiau gorau sydd ar gael ar hyn o bryd yn y Gymraeg a'r Saesneg, ond rydym yn gobeithio y byddant hefyd yn annog cyhoeddwyr i gynhyrchu amrywiaeth fwy eang o ddeunyddiau sgiliau sylfaenol o safon ar gyfer pob grŵp oedran."

Meddai Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol-Oes: "Fel darllenwr brwd fy hun, rwyf yn falch iawn fod y Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol, sy'n rhan o Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi helpu ein nod o hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau sylfaenol. Trwy gyfrwng y gwobrau, mae cyhoeddwyr yn datblygu eu hymwybyddiaeth o'r angen i gynhyrchu deunyddiau o safon uchel ar raddfa ehangach i blant, pobl ifanc ac oedolion. Rwy'n llongyfarch yr enillwyr i gyd ac yn falch iawn o weld bod deunydd ffuglen Cymraeg yn cael ei gydnabod."

Nodiadau i Olygyddion

Cynhaliwyd seremoni gyntaf y Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol yng Nghaerdydd ar 24 Tachwedd 2003. Trefnwyd seremoni fawreddog eleni yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd, ddydd Gwener 30 Mawrth.

Enillwyr Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol 2007:

Gwobr i'r Prif Enillydd: Y Lolfa: Darllen Mewn Dim gan Angharad Tomos a Llawlyfr yr Athrawon gan Anwen Owen

Gwobrau Grŵp Oedran Cynradd

Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y Saesneg: Continuum (Network Educational Press): Flying Start with Literacy gan Ros Bayley a Lynn Broadbent

Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg: Y Lolfa: Darllen Mewn Dim gan Angharad Tomos a Llawlyfr yr Athrawon gan Anwen Owen

Rhifedd: llyfrau neu gyfresi naill ai yn y Gymraeg neu'r Saesneg: @ebol: Datrys Problemau 1 a Datrys Problemau 2

Deunyddiau heblaw llyfrau: B-DAG Cyf: Sali Mali 1-2-3

Gwobrau Grŵp Oedran Uwchradd

Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y Saesneg: Dim enillydd

Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg: Gwasg Gomer: Cyfres I'r Byw gan Elin Meek a Meleri Wyn James

Rhifedd: llyfrau neu gyfresi naill ai yn y Gymraeg neu'r Saesneg: @ebol: Cyfres Ymlaen â Ni gan Hilary Koll a Steve Mills, addasiad gan Siân Owen

Deunyddiau heblaw llyfrau: Dim enillydd

Gwobrau ar Gyfer Deunydd i Oedolion

Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y Saesneg: Quick Reads

Llythrennedd: llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg: Dim enillydd

Rhifedd: llyfrau neu gyfresi naill ai yn y Gymraeg neu'r Saesneg: Dim enillydd

Deunyddiau heblaw llyfrau: Dim enillydd

Gwobr er Anrhydedd: Gwasg Gomer, Y Lolfa ac Accent Press: Cyfres Stori Sydyn