|
PAPURAU BRO'N MYND BENBEN!
Dros yr wythnosau nesaf bydd papurau bro ledled Cymru'n cystadlu
am y cyfle i gipio gwobr fawreddog o ?1,000.
Bydd y cwis hwyliog, a gynhelir gan Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol
Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Llyfrau Cymru a
safleoedd 'Lleol i Mi' a BBC RaW ar wefan BBC Cymru www.bbc.co.uk/cymru/lleolimi,
yn gyfle i gynrychiolwyr papurau bro gwahanol fynd benben
i brofi eu gallu a'u gwybodaeth ym maes llyfrau a thu hwnt!
Mae'r cwis yn agored i bob papur bro yng Nghymru, gyda rowndiau
rhanbarthol i ddechrau i benderfynu pwy gaiff fynd drwodd
i'r ffeinal. Bydd y tîm sy'n fuddugol yn y 5 rownd ranbarthol
oll yn ennill gwobr ariannol o ?250, yn ogystal â chael
y cyfle i ymgeisio am y brif wobr o ?750, fydd yn dod â
chyfanswm yr enillion i ?1,000!
Mae dros 20 o bapurau wedi cynnig eu tîm o bedwar i
fynychu'r rownd ranbarthol yn eu hardal hwy, yn y gobaith
o fynychu'r ffeinal fawreddog a gynhelir yn Aberystwyth nos
Sadwrn, 18 Tachwedd.
Meddai Toni Schiavone, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Asiantaeth
Sgiliau Sylfaenol yng Nghymru, 'Mae'n galonogol iawn fod cymaint
o ymateb wedi bod i'r cwis. Mae'r papur bro yn adnodd amhrisiadwy
i'n cymunedau, ac yn gyfrwng sy'n haeddu pob cefnogaeth bosib.'
'Ac fel llyfrau, mae hefyd yn adnodd sy'n dod ag unigolion
ynghyd, ac rydym yn falch iawn o allu cyd-weithio â
hwy gyda chyfres Stori Sydyn,' ychwanegodd.
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau
Cymru, 'Mae'r gyfres Stori Sydyn eisoes wedi profi'n llwyddiant
ac yn ffordd i nifer o bobl fagu hyder mewn darllen llyfrau
Cymraeg, yn ogystal ag ehangu eu gorwelion darllen. Drwy rwydwaith
y papurau bro rydym yn gobeithio y byddant yn cyrraedd cynulleidfa
ehangach eto.'
Bydd pob rownd unigol yn canolbwyntio ar un maes arbennig,
tra bydd rownd arbennig ar y llyfrau yn y gyfres Stori Sydyn.
Mae'r gyfres hon sy'n cynnwys pedwar teitl Cymraeg, sef: Parti
Ann Haf gan Meleri Wyn James; Jake gan Geraint V Jones; Dŵr
Dwfn gan Conn Iggulden (addas. Elin Meek) a Brân i Bob
Brân gan Rowan Coleman (addas. Dafydd a Mandi Morse)
yn rhan o ymgyrch gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol i annog
mwy o oedolion i ddarllen. Yn gyfrolau byr, bachog i oedolion,
maent yn ddelfrydol ar gyfer cwis o'r fath. Fel ysgogiad pellach
i'r timau i fwrw ati a darllen y llyfrau hyn, bydd pwyntiau
dwbl am bob ateb cywir yn y rownd Stori Sydyn!
Y tîm gyda'r marciau uchaf ar ddiwedd y noson gaiff
fynd ymlaen i'r ffeinal.
Os hoffech chi ddod draw i ymuno yn yr hwyl ac i gefnogi'ch
papur bro lleol chi, yna cysylltwch â Caron Edwards
ar 01286 685254.
Mae'r manylion fel a ganlyn:
Nos Fawrth, 24 Hydref
Rownd papurau bro gogledd-ddwyrain Cymru yng Ngwesty Castell
Rhuthun, Rhuthun, am 6.30 o'r gloch
Yn arwain y noson bydd y digrifwr Gareth Owen, sy'n wyneb
cyfarwydd i wylwyr Noson Lawen.
Nos Fercher, 25 Hydref
Rownd papurau bro canolbarth Cymru yn yr Orendy, Aberystwyth,
am 6.30 o'r gloch
Yn arwain y noson bydd yr awdur a'r cyflwynydd Lyn Ebenezer.
Nos Iau, 26 Hydref, 2006
Rownd papurau bro gogledd-orllewin Cymru yn Medi, Caernarfon,
am 6.30 o'r gloch
Yn arwain y noson bydd yr actor a'r awdur Emlyn Gomer.
Caerfyrddin
Nos Fercher, 1 Tachwedd, 2006
Rownd papurau bro de-orllewin Cymru yn Nhafarn y Drovers Arms,
Caerfyrddin, am 6.30 o'r gloch
Yn arwain y noson bydd y Prifardd Tudur Dylan.
Nos Iau, 2 Tachwedd, 2006
Rownd papurau bro de-ddwyrain Cymru yn Nhafarn y Cornwall,
Grangetown, Gaerdydd am 6.30 o'r gloch
Yn arwain y noson bydd y colofnydd, y cyflwynydd, yr awdur
a'r jôcar, Gary Slaymaker.
Am ragor o fanylion cysylltwch â Chydlynydd y Prosiect,
Caron Wyn Edwards, naill ai trwy ffonio 01286 685254 neu trwy
e-bostio caron@cambrensis.uk.com
Gellir darparu lluniau o'r holl rowndiau er diben cyhoeddusrwydd
wedi iddynt cael eu cynnal.
|